Astudiodd y Bariton Cymreig, Matthew Tilley ym Mhrifysgol Bath Spa a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei rannau’n cynnwys Scarpia Tosca ac Alfio Cavalleria Rusticana (Carmina Priapea), Masetto Don Giovanni (Heritage Opera), John Styx Orpheus in the Underworld (Opera’r Ddraig) a Schaunard La Boheme (Somerset Opera a Midland Opera). Perfformiodd yn Il ritorno d’Ulisse in Patria, Madama Butterfly, La Boheme a La Traviata David McVicar i Opera Cenedlaethol Cymru. Yn 2018 bu Matthew’n athro canu ym Mhrifysgol James Madison (UDA), Prifysgol Putra Malaysia ac Ysgol Gerddoriaeth Allegro a recordio uchafbwyntiau Donner yn Das Rheingold gyda Tarnhelm Opera. Mae ei rannau diweddar yn cynnwys Commissario La Traviata (Longborough Festival Opera).