Max Ireland

taro

Bywgraffiad

Graddiodd Max o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda gradd mewn Offerynnau Taro Cerddorfaol a Timpani yn haf 2016. Ers hynny mae Max wedi bod yn gweithio’n llawrydd i gerddorfeydd megis The Royal Liverpool Philharmonic, Cerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’n perfformio’n rheolaidd gyda Theatr Gerddorol ac mae wedi gorffen cyfnod fel dirprwy ar daith Ewropeaidd o Miss Saigon. Yn ddiweddar, mae Max wedi sefydlu Cwmni o’r enw Multishow Productions sy’n arbenigo mewn cynhyrchu sioeau ar raddfa fechan, yn ogystal â helpu i hyrwyddo sioeau eraill o fewn y diwydiant Cerddorol.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.