Organ Prawang

soprano

Bywgraffiad

Llais euraid, cyfoethog, soniarus” – Papur newydd Post Today

Ystyrir Organ Prawang fel un o gantorion opera blaenaf Thailand. Mai wedi’i chynnwys mewn nifer o gylchgronau a phapurau newydd ledled y byd, megis cylchgrawn Image, Seventeen, Cosmopolitan, Priew a’r papur Post today.

Mae Organ yn astudio ei doethuriaeth mewn Perfformiad Lleisiol ym Mhrifysgol Bangor, Gogledd Cymru. Organ yw’r gantores neu gantor cyntaf o Thailand, sy’n astudio tramor, sy’n arbenigo mewn perfformiad lleisiol ar lefel doethuriaeth. Graddiodd o Goleg Cerdd, Prifysgol Mahidol, Thailand ac yna aeth i Fienna i astudio ei hôl-radd. Hi oedd y canwr cyntaf o Thailand a basiodd arholiad mynediad gradd meistr Cerdd a Drama (Opera) Universität für Musik und Darstellende Kunst Wien, Fienna, Awstria. Cydnabyddir y brifysgol hon fel un o’r rhai blaenaf mewn cerdd lleisiol, graddiodd o’r brifysgol hon gyda chanlyniad rhagorol.

Mae Organ wedi derbyn nifer o wobrau mewn sawl cystadleuaeth. Enillodd yr 2ail Wobr yn 7fed Cystadleuaeth Ryngwladol Cerddoriaeth Osaka (Japan, 2007), nid oedd teilyngdod ar gyfer y wobr gyntaf. Yna yn y flwyddyn ganlynol, derbyniodd y 3ydd Wobr yn yr un gystadleuaeth. Fel arall, enillodd y Wobr Aur yn y Set trade Music Compeititon, Thailand yn 2008. Yn 2009, cafodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Lleisiol Thai-Tsieineaidd. Wedi iddi dderbyn yr 2ail Wobr yn y Barry Alexander International Competition yn Efrog Newydd, yn 2010, derbyniodd ysgoloriaeth naw mis i astudio ym Mhrifysgol Cerdd, Vienna – yr OEAD (Österreichische Austauschdienst (Austrian Student Exchange Office), Awstria 2015. Noddwyd ei gradd meistr a’i doethuriaeth drwy gomisiwn gan Swyddfa Addysg Uwch Thailand, gydag ysgoloriaeth lawn.

Mae darnau opera Organ yn cynnwys, Message of Hope (L’Orfeo), Mother (Hansel and Gretel), Madam Hers (Der Schauspieldirektor), Violetta (La Traviata), Philidel (King Arthur), Hannah (Th Merry Widow), Dorabella (Cosi Fan Tutte), The first and second Dame (Die Zauberflöte), Stella (The Tales of Hoffman), Lauretta (Gianni Schicchi), Michaela (Carmen), Cleopatra (Giulio Cesare), Hata (The Bartered Bride).

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.