Rachel Morás

Bywgraffiad

Astudiodd Rachel yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ariannwyd ei hastudiaethau gan Ysgoloriaeth Sefydliad Laura Ashley. Mae ei hymrwymiadau diweddar yn cynnwys Suzuki Madama Butterfly, Ail Fenyw The Magic Flute a Tisbe La Cenerentola. Â hithau’n artist cyngerdd poblogaidd, perfformiodd unawd Alto yn ddiweddar yn Stabat Mater Pergolesi a Petite Messe Solennelle Rossini ac fe’i clywir yn canu rhannau’r Gath Ddu a’r Wiwer mewn ffilm wedi’i hanimeiddio o L’enfant et les sortilèges a ddefnyddir mewn ysgolion ym Mirmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Yn 2020 ymunodd Rachel â Chorws Grange Park Opera Chorus yn perfformio yn eu corws Quarantines ar-lein ac mae hi’n edrych ymlaen at ymuno â chorws ychwanegol Opera Cenedlaethol Cymru.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.