Daw Rhiannon Ashley, 22, o Orllewin Cymru ac mae hi ar ei phedwaredd flwyddyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd dan hyfforddiant Antonia Sotgiu. Cafodd gymeradwyaeth uchel yng nghystadlaethau Gwobr Elsie Thurston a James Martin Oncken yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd a hi oedd Cantores y Flwyddyn Music in the Vale Caerdydd yn 2016.
Ymysg ei pherfformiadau operatig diweddar mae’r corws yn Suor Angelica Puccini (RNCM), Spirit yn Dido and Aeneas Purcell (OCC) a Serpetta yn La Finta Giardiniera Mozart (RNCM Scenes). O ran cyngherddau, mae perfformiadau Rhiannon yn cynnwys Mass in D Dvorak a The Creation Haydn gyda Chôr Ceredigion, ac Elijah Mendelssohn gyda chymdeithas gorawl Sale.
Mae Rhiannon yn dal i ganu gyda Cywair ac Ysgol Gerdd Ceredigion, dau gôr sy’n enwog am eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a chystadleuaeth Côr Cymru.