Richard Studer

Bywgraffiad

Gwnaeth Richard ei ymddangosiad opera proffesiynol cyntaf ym 1994 yn The Bristol Old Vic. Mae ei repertoire yn ymestyn o Monteverdi i Philip Glass mewn gwyliau a theatrau ledled Prydain, gan gynnwys Longborough Festival Opera lle mae wedi cyfarwyddo Britten a Janácek. Mae’n gyd-sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Artistig Opera Project, sydd wedi cynnal cydweithrediad hirsefydlog gyda’r Tobacco Factory Theatres, Bryste. Yr un mor gartrefol mewn theatr gerdd, mae ei gynyrchiadau diweddar yn cynnwys A Little Night Music a Candide Bernstein i Opera West Green House. Richard yw Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru ac mae wedi cyfarwyddo a chynllunio The Magic Flute, Eugene Onegin, The Bear, L’heure espagnole, Dido and Aeneas, Tosca, Mrs Peachum’s Guide to Love a Marriage, The Marriage of Figaro ac Il tabarro.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.