Richard Studer

Cyfarwyddwr/Cynllunydd

Bywgraffiad

Gweithiodd Richard ar ei opera broffesiynol gyntaf yn 1994 yn The Bristol Old Vic. Mae ei repertoire yn ymestyn o Monteverdi i Philip Glass mewn gwyliau a theatrau ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Longborough Festival Opera lle cyfarwyddodd waith Britten a Janácek. Mae’n gyd-sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Artistig Opera Project, sydd wedi cydweithio dros gyfnod hir gyda’r enwog Tobacco Factory Theatres ym Mryste. Mae Richard yr un mor gartrefol yn gweithio yn y theatr gerdd ac mae ei gynyrchiadau diweddar yn cynnwys Candide Bernstein ar gyfer West Green House Opera. Richard yw Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru. Cynyrchiadau ar gyfer MWO: The Magic Flute, Eugene Onegin, The Bear, L’heure espagnole, Tosca, Dido & Aeneas, Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage, The Marriage of Figaro, Il tabarro, Hansel a Gretel a La bohème.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.