Robyn Lyn Evans

tenor

Bywgraffiad

Daw’r tenor Robyn Lyn Evans yn wreiddiol o Bont-rhyd-y-groes, ond bellach o Aberhosan, Machynlleth. Graddiodd o Goleg y Drindod Caerfyrddin a hefyd o Goleg Cerdd Frenhinol, Llundain. Mae ei uchafbwyntiau eisteddfodol yn cynnwys Canwr Ifanc Rhyngwladol Llangollen, Gwobr Goffa Osborne Roberts, Rhuban Glas Eisteddfod Llambed a Gwobr Goffa David Ellis.

Mae ei rôles operatig yn cynnwys Cecil, (Roberto Devereux for WNO) Rodolfo (La Bohème), Cavaradossi (Tosca), Don José (Carmen), Alfredo (La Traviata), Macduff (Macbeth), Ismaele (Nabucco), Don Ottavio (Don Giovanni), Il Duca (Rigoletto), Pinkerton (Madam Butterfly), Rinuccio (Gianni Schicchi), Fenton (Falstaff) a Nemorino (L’elisir d’amore) i gwmnïau cenedlaethol a theithiol Prydain.

Fe’i clywir yn fynych ar lwyfannau cyngerdd ac mae wedi rhyddhau dwy gryno ddisg unigol: ROBYN LYN…tenor a Robyn Lyn Evans Tenor Ah! mes amis.


Notice: ob_end_flush(): failed to send buffer of zlib output compression (0) in /home/midwalesoperaco/public_html/files/wp-includes/functions.php on line 4469