Stephanie Smith

soprano

Bywgraffiad

Astudiodd y soprano o Gymru, Stephanie Smith, yn y Royal Northern College of Music a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Graddiodd yn ddiweddar gyda gradd Meistr o Academi Llais Ryngwladol Cymru. Mae ei phrofiad operatig yn cynnwys Barbarina The Marriage of Figaro (Opera Canolbarth Cymru) corws yn Tosca (Abu Dhabi Festival) a Pamina Die Zauberflöte (Amsterdam Opera Studio). Yn ddiweddar perfformiodd gyda Max Richter yn ei gyfansoddiad o Voices ar gyfer Gŵyl y Llais yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ochr yn ochr â’i gyrfa berfformio, mae Stephanie’n gweithio yn y gymuned, yn dysgu canu yn ogystal â chyflwyno llawer o brosiectau Allgymorth i Opera Canolbarth Cymru. Mae hi’n falch o fod yn ôl ar y llwyfan gydag OCC ar gyfer Taith y Gwanwyn.

Help get Mid Wales Opera back on the road

Help get Mid Wales Opera back on the road

Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.

… or find out more

You have Successfully Subscribed!