Cynhyrchiad LlwyfannauAgored OCC o Dido & Aeneas Purcell

27ain Ebrill 2019

Eglwys Sant Andras, Llanandras

When I am laid in earth, may my wrongs create no trouble in thy breast. Remember me, but ah! forget my fate…

Dido’s Lament

Ar ddiwedd wythnos ysbrydoledig o gyfansoddi ac ymarfer gyda chantorion a cherddorion proffesiynol, amatur a myfyrwyr, ymunwch â chwmni LlwyfannauAgored Opera Canolbarth Cymru ar gyfer dau berfformiad cyhoeddus wedi eu llwyfannu’n llawn o gampwaith Purcell, Dido & Aeneas yn Eglwys Sant Andras, Llanandras.

Perfformiwyd opera Purcell am y tro cyntaf yng ngwanwyn 1689 i Ysgol Josias Priest i Ferched yn Chelsea. Cafodd y gwaith wedyn ei esgeuluso am gyfnodau ond ail-sefydlodd ei hun yn orfoleddus yn yr 20fed Ganrif.

Mae’r opera’n dilyn y cariad trasig rhwng Dido, Brenhines Carthag ac Aeneas, cariad a gaiff ei ddifetha gan ymyrraeth faleisus hudoles a’i hysbrydion. Gan gredu bod cariad Aeneas yn ffug, mae Dido, yn yr alarnad derfynol dorcalonnus, yn paratoi i farw.

Cenir yr opera yn y libreto Saesneg gwreiddiol i gyfeiliant cerddorfa LlwyfannauAgored OCC.

Hyd 70 munud

Cynhyrchiad LlwyfannauAgored OCC Henry Purcell DIDO & ÆNEAS

Eglwys Sant Andras, Llanandras
Dydd Sadwrn 27ain Ebrill 2019
3pm – £7 / 8pm – £12 (o dan 18 oed – Am ddim)

 

Tocynnau

Ar gael o ‘The Workhouse’ (arian parod yn unig)
Neu ar-lein:

3pm pris llawn – £7.00

3pm o dan 18 oed – FREE

8pm pris llawn – £12.00

8pm o dan 18 oed – FREE

 

diolch i:
The Workhouse, The Salty Dog, No. 46 & Artisan Print

Haus Musik @
Llety’r Barnwr

Noswaith sy’n torri rheolau’r profiad cerddorol clasurol byw.
Mae Cwmni LlwyfannauAgored Opera Canolbarth Cymru’n meddiannu lleoliad eiconig Llety’r Barnwr, Llanandras am y noson.

Ewch am dro drwy’r adeilad gyda diod a chanapé, a dewch o hyd i hapdrysorau cerddorol hyfryd, o Bach yn y seler i Offenbach yn ystafell y llys.

  • 7-9pm Nos Iau 25 Ebrill £8
  • Tocynnau – The Workhouse (arian parod yn unig)/Llety’r Barnwr

Prynu Tocynnau Ar-lein

Cynhelir y digwyddiad er budd prosiectau ymgysylltu OCC (www.midwalesopera.co.uk) a Llety’r Barnwr (www.judgeslodging.org.uk). Rhan o wythnos breswyl Opera Canolbarth Cymru yn Eglwys Sant Andras.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.