Music for a Summer Evening at Powis Castle and Garden

Mae Opera Canolbarth Cymru yn falch iawn o’ch gwahodd i leoliad trawiadol Castell a Gardd Powis ar gyfer noson arbennig iawn o gerddoriaeth yn awyr agored yr haf, ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd ein hunawdwyr gwych – y soprano Mari Wyn Williams, y fezzo-soprano Rebecca Afonwy-Jones, y tenor Robyn Lyn Evans, a’r bariton Mark Nathan yn ymuno â’r delynores enwog Elfair Grug a Chyfarwyddwr Cerdd a phianydd Opera Canolbarth Cymru, Jonathan Lyness.

Gyda’i gilydd byddant yn perfformio detholiad gogoneddus o ganeuon, ariâu ac ensemblau, yn ymestyn dros y cyfansoddwyr gwych – Mozart, Bizet, Verdi, Puccini, Strauss, a Lehár ochr yn ochr â ffefrynnau gan Rodgers a Hammerstein a chymysgedd cyfoethog o gerddoriaeth draddodiadol Gymraeg, Saesneg ac Eidaleg. Mae’n argoeli i fod yn noson fythgofiadwy na ddylech ei cholli!

 

Archebu

Ddydd Sadwrn, 9 Awst 6:30yp
Castell a Gardd Powis, Y Trallwng
£29 oedolion
£19 person ifanc (oed 13-25)

Archebu arlein

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!