Cyngerdd Cyfeillion Opera Canolbarth Cymru yn Neuadd Gregynog yw uchafbwynt ein haf fel arfer, cyfle i gwrdd â’n Cyfeillion a mwynhau cerddoriaeth swynol, picnics a phroseco mewn lleoliad hanesyddol heb ei ail.
Er bod cyngerdd yr haf 2020 wedi ei ganslo oherwydd y pandemig, aethom ati i greu fersiwn ddigidol a gafodd ei ffilmio ym mis Awst, ac yn hytrach nag Ystafell Gerdd Gregynog, fe’i cynhaliwyd yn Ystafelloedd Cynnull a Llety’r Barnwr, Llanandras.
Rydym ni wedi bod yn rhannu’r fersiwn ddigidol o’n Gala gyda Chyfeillion Opera Canolbarth Cymru mewn tri rhan ac mae’n bleser gallu dangos y cyngerdd yn fwy cyhoeddus erbyn hyn. Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau’r rhaglen amrywiol a luniwyd gan Charlotte Forrest, a fyddai fel arfer yn cyflwyno ein cyngerdd yng Ngregynog, gyda pherfformiadau gan Fflur Wyn (soprano) a Robyn Lyn Evans (tenor).
Ffilmiwyd yn Ystafelloedd Cynnull a Llety’r Barnwr Llanandras ar 15fed o Awst 2020
Diolchiadau:
Translight, Mid Border Arts, The Judge’s Lodging, Cynthia Preston-Jones and Aled Hall Photography.
Giuseppe Verdi, La Traviata, Brindisi – Fflur Wyn a Robyn Lyn Evans
Wolfgang Amadeus Mozart, Die Zauberflöte, Dies Bildnis – Robyn Lyn Evans
Johann Strauss II, Die Fledermaus, The Laughing Song – Fflur Wyn
Franz Lehàr, The Merry Widow, Lippen Schweigen – Fflur Wyn a Robyn Lyn Evans
Marc-Antoine Charpentier, Louise, Depuis le jour – Fflur Wyn
Gaetano Donizetti, La Fille du Régiment, Ah! mes amis – Robyn Lyn Evans
Victor Herbert, Mlle. Modiste, Kiss me Again – Fflur Wyn
William Davies, O! Na byddai’n Haf o hyd – Robyn Lyn Evans
Johann Strauss II, Die Fledermaus, Champagne Trio – Fflur Wyn a Robyn Lyn Evans
Richard Strauss, Morgen! – Fflur Wyn
MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi