Seiniau’r Haf 2021

Cyngerdd Gardd Cyfeillion OCC

Seiniau’r Haf 2021

Cyngerdd Gardd Cyfeillion OCC

Cyfarwyddwr Cerdd – Charlotte Forrest

Mae Gala Cyfeillion Opera Canolbarth Cymru eleni yn digwydd yn yr awyr agored, yng ngerddi gogoneddus Neuadd Gregynog, yn hytrach nag yn yr Ystafell Gerddoriaeth sy’n brin iawn o le i gadw pellter cymdeithasol.

Mae’n bleser cael Charlotte Forrest yn ymuno â ni eto fel Cyfarwyddwr Cerdd, yn ogystal â thriawd o berfformwyr Ifanc newydd talentog – Meinir Wyn Roberts (soprano) Llio Evans (soprano) a Huw Ynyr (tenor).

Cyngerdd Gregynog sy’n lansio ein tymor fel arfer, a thema eleni yw ‘Puccini ym Mharis’ – a’n bwriad yw mynd ar daith LlwyfannauLlai gyda gorchest hwyr Puccini, Il Tabarro, yn yr hydref 2021, yn ogystal â’r daith PrifLwyfan gyda La Boheme y bu’n rhaid ei gohirio yng ngwanwyn 2022.

Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at ddod â phawb ynghyd i gael cyngerdd yn yr ardd a chael clywed cerddoriaeth fyw eto mewn lleoliad mor odidog.

Cynhelir y cyngerdd o flaen y Neuadd lle ceir eistedd ar y llwybrau a’r lawntiau o flaen y tŷ. Gofynnwn i chi i ddod â’ch cadair/blanced eich hun. Bydd lle penodol i eistedd yn cael ei neilltuo ar eich cyfer er mwyn sicrhau bod pellter cymdeithasol yn cael ei gynnal rhwng grwpiau.

Dilynir rheoliadau a chanllawiau cyfredol Covid-19.

Dewch â’ch picnic eich hun – bydd diodydd poeth, oer a chadarn ar werth yn y Neuadd.


Aros yn Neuadd Gregynog

Beth am aros am y penwythnos, i weld mwy ar harddwch Canolbarth Cymru ac aros yn Neuadd Gregynog? Pris ystafell sengl yw £75, ac ystafell ddwbl en-suite yn £85. 01686 650224 neu enquiries@gregynog.org

Archebu

Archebwch trwy Swyddfa Docynnau Hafren

www.thehafren.co.uk

  • Neuadd Gregynog ger y Drenewydd
  • Dydd Sul 25 Gorffennaf 5pm
    Egwyl am bicnic
  • £16

Performers

Llio Evans

soprano

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.