Dim ond ychydig fisoedd yn ôl roeddem ni’n pryderu bod cyfnod Opera Canolbarth Cymru wedi dod i ben. Nawr, diolch i raff achub gan Gyngor Sir Powys*, rydym ni’n agos iawn at gael cynllun cynaliadwy er mwyn parhau i gynhyrchu operâu byw a lleol dros Gymru am dair blynedd o leiaf.
Dim ond codi £50,000 sydd ei angen! Ac rydym ni wedi sicrhau £15,000 yn barod gan ddau gyfrannydd anhygoel sydd, gyda’i gilydd, wedi addo bron i draean o’n targed!
Mae’r gefnogaeth foesol rydym ni wedi ei chael dros yr ychydig fisoedd diwethaf ers i Gyngor Celfyddydau Cymru roi diwedd ar ein cyllid wedi bod yn anhygoel.
Nawr rydym ni’n gofyn i chi drosi’r gefnogaeth honno yn arian er mwyn inni gael parhau â’r teithio. Boed yn £5 neu’n £5000 cewch gyfrannu yma!
Ac os rydych chi’n drethdalwr yn y DU, gallwch ychwanegu 25% i’ch cyfraniad gyda Rhodd Cymorth.
Neu cysylltwch gyda ni drwy admin@midwalesopera.co.uk os hoffech chi drafod ymhellach.
Diolch yn fawr!
*The UK Shared Prosperity Fund is a central pillar of the UK government’s Levelling Up agenda and provides £2.6 billion of funding for local investment by March 2025. The Fund aims to improve pride in place and increase life chances across the UK investing in communities and place, supporting local business, and people and skills. For more information, visit https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus