Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr – Music at your Place

Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr – Music at your Place
Prosiect a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Opera Canolbarth Cymru/Ensemble Cymru mewn ymateb i COVID-19

Mae argyfwng COVID-19 wedi cael effaith ddifrodus ar gymunedau cefn gwlad Cymru ac ar y diwydiannau creadigol. Chwalwyd yr incwm gan dwristiaeth yr oedd nifer o gymunedau’n dibynnu arno a diflannodd gwaith y rhan fwyaf o berfformwyr am hyd at flwyddyn.

Mae Opera Canolbarth Cymru ac Ensemble Cymru yn ymroddedig i ddod â cherddoriaeth fyw o ansawdd uchel i gymunedau ledled Cymru. Allwn ni ddim aros i ddechrau teithio eto gyda’r sioeau byw pan fydd modd, ond am y tro mae COVID-19 wedi ein gorfodi i newid ein ffocws. Rydym ni eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi cantorion, cerddorion a chyfansoddwyr – a’u helpu i gefnogi eu cymunedau eu hunain.

Rydym ni eisiau i artistiaid gael rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o gefnogi eu cymunedau er mwyn iddynt gael rhannu eu straeon, a straeon tirwedd a hanes cefn gwlad Cymru. Bydd hyn yn golygu nifer o brosiectau unigryw rhwng artistiaid a chymunedau, a symudiad tuag at fodel perfformio hybrid – digidol a byw – a’r hyblygrwydd i addasu i amodau sy’n newid drwy’r amser ac i gyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol.

Byddem yn hoffi…

  • I artistiaid roi cynnig ar ffordd newydd o weithio ochr yn ochr â’u cymunedau.
  • Hyfforddi artistiaid i fod yn hwyluswyr, i ymwneud â chymunedau drwy ddarllediadau digidol, podlediadau, blogiau fideo ac ati.
  • Cefnogi cysylltiadau newydd rhwng cymunedau, artistiaid, a phartneriaid a rhanddeiliaid prosiectau.
  • Datblygu partneriaethau newydd gyda sefydliadau anghelfyddydol sy’n gweithio mewn cymunedau er mwyn cefnogi iechyd meddwl a lles, archwilio sut y gellir defnyddio cerddoriaeth yn eu gwaith yn y dyfodol a’r ffordd y gall ein hartistiaid/hwyluswyr hyfforddedig barhau i gefnogi eu gwaith yn lleol.
  • Creu modelau newydd er mwyn gwerthuso ein gwaith, sy’n gadael i ni fesur effaith gymdeithasol y prosiect.

Gyda phwy rydym ni am i artistiaid gysylltu?

Rydym ni eisiau i artistiaid gysylltu ag oedolion a phlant o unrhyw oed sy’n lleol iddynt hwy ac na fyddai’n cael y cyfle fel arfer i rannu eu straeon drwy opera neu gerddoriaeth siambr. Gallai hyn olygu prosiectau unigol gydag ysgolion cynradd; gyda cherddorion ifanc yn cydweithio â cherddorion proffesiynol; gyda chorau a grwpiau eraill cerddorol; a chyda’r cyhoedd a chynulleidfaoedd presennol Opera Canolbarth Cymru/Ensemble Cymru. Dylai pob prosiect ymateb yn wahanol i bartneriaid, adnoddau ac amgylchiadau lleol.

Rydym ni’n diddori’n arbennig mewn cysylltu â phobl a phlant o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, grwpiau anabl neu ddifreintiedig.

Comisiynu

Er mai ar y cyd rhwng OCC ac EC y cyflwynir Milltir Sgwâr, bydd OCC yn cefnogi rhai prosiectau unigol drwy raglen gomisiynu agored. Byddwn yn galw ar gerddorion, cantorion a chyfansoddwyr i gynnal prosiectau opera, lleisiol neu offerynnol ar raddfa cerddoriaeth siambr. Dylai’r prosiectau hyn gael eu cyflwyno rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mawrth 2021.

Er mwyn symleiddio’r broses i artistiaid nad ydynt wedi arfer cynnal prosiectau, byddwn yn dechrau gyda chyfnod Mynegi Diddordeb. Byddwn yn gofyn am ddim ond un dudalen A4/300 o eiriau yn Gymraeg neu Saesneg (neu ffilm fer iawn – dim mwy na 3 munud os yn well gennych chi) yn egluro’r syniad sy’n sail i’r cynnig a pham fod arnoch chi eisiau gwneud y gwaith hwn yn eich cymuned. Byddwn wedyn yn dewis prosiectau ac yn helpu i’w datblygu’n syniadau mwy cyflawn (ond syml o hyd) ar gyfer rownd derfynol y broses ymgeisio.

Caiff pob prosiect gostio rhwng £500 a £5000, sy’n cynnwys ymgysylltu’r gymuned, costau cyflwyniad digidol y prosiect a’r holl ffioedd. Ein cyllideb gyfan ar gyfer y rhaglen gomisiynu yw £15,000. Gallwn helpu’r ymgeiswyr drwy roi cyngor ar agweddau perfformio ac agweddau technegol y gwaith a helpu gyda phob agwedd ar y gwaith marchnata.

Gallai’r gwaith fod mor fach â phrosiect canu a gyflwynir yn ddigidol gydag ysgol leol, neu’n brosiect mor fawr ag y gellir ei gynnal o fewn y gyllideb. Beth bynnag ei faint, mae angen canolbwyntio ar waith a ddatblygir drwy bartneriaeth wirioneddol gyda chymunedau a synnwyr gwirioneddol o le a chysylltiad lleol.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.