Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr: Eve Goodman yn cael ysbrydoliaeth gerddorol gan saer cychod wedi ymddeol yn Y Felinheli

Fel rhan o raglen Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr, mae’r gantores a’r cyfansoddwr Eve Goodman wedi bod yn rhannu straeon trwy ganeuon gyda’i chymuned yn Y Felinheli ar lannau’r Fenai. Cewch wrando ar rywfaint o’i gwaith newydd hyfryd ar ei gwefan www.evegoodman.co.uk.

Yma, cawn glywed gan Eve am stori Glyn ac mae hi’n rhannu geiriau’r gân a ysgrifennodd gyda’r ysbrydoliaeth o’u sgyrsiau:

Cefais fy nghyflwyno i Glyn gan ffrind arall yn y pentref o’r enw Sue. Fel saer cychod wedi ymddeol ac un cerddorol ei fryd, cynhesais ato’n syth. Cawsom sgwrs hyfryd am grefftwriaeth, cerddoriaeth a hanes, a soniodd am ei biano hoff o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd, iddo ef, yn ymgorfforiad o’r tri pheth hyn.

Dysgodd chwarae’r piano pan yn ŵr ifanc drwy wylio ei dad, cerddor naturiol oedd gan ‘glust dda, rhythm ac enaid’ fel roedd Glyn yn dweud. Dysgodd Glyn y sgiliau hyn o wylio’i dad a dysgodd chwarae’n reddfol ei hun. Ni ddaeth byth i feistroli’r grefft o ddarllen cerddoriaeth.

Gallaf uniaethu gyda hyn yn gryf iawn, gan mai’n reddfol y dysgais innau chwarae, ac mae nodiant ffurfiol yn edrych fel dotiau ar dudalen i mi. Daeth hyn â ni’n agosach, a deilliodd y gân a ysgrifennais i Glyn o’r syniad o chwarae cerddoriaeth o’r galon yn hytrach nag oddi ar y dudalen. Roeddem ni’n cymharu’r dull hwn gyda hwylio; gall natur anrhagweladwy’r môr a’r berthynas reddfol y gellir ei datblygu gyda chwch, y môr neu offeryn fod yn un mor werthfawr ac iachusol, ac anodd eu rhoi mewn geiriau.

Ysgrifennwyd y gân yng nghanol y pandemig, ac mae’n sôn am gerddoriaeth fel dihangfa hyfryd rhag realiti, fel hwylio, mewn nifer o ffyrdd. Y cysylltiadau a’r tebygrwydd rhwng cerddoriaeth a’r môr a’m harweiniodd i ysgrifennu’r gân hon. Roedd Glyn wrth ei fodd gyda’r gân, a gallai uniaethu’n gryf. Bu Jonathan Lyness o OCC yn ddigon caredig i drawsysgrifio fy recordiad o’r gân i’r piano, ac erbyn hyn mae gan Glyn gopi o’r nodiadau’n eistedd yn falch ar ei biano, os caiff awydd i ymarfer ei sgiliau darllen cerddoriaeth

Music Like the Sea

Geiriau a Cherddoriaeth gan Eve Goodman

Pennill 1
Sail away on my piano
I’ll weather out this storm
Just like me, she’s still in key,
I’ll set her sail and go

Cyn-gytgan
Sail away
I’ll weather out this storm
x2

Pennill 2
Father knew just how to move
Through music, like the sea
He spent his days in sound waves
He passed this on to me

CYTGAN
Music is an ocean
I’ll lose my heart at sea
Music heals what’s broken
It is a part of me

Cyn-gytgan

Offerynnol

Pennill 3
I read the music note by note
A basic melody
I feel it deeply in my bones
But I lack the fluency

Pennill 4
Instead I play it from my heart
I let the music flow
The melody is like a wave
Who knows where it will go?

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Help get Mid Wales Opera back on the road

Help get Mid Wales Opera back on the road

Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.

… or find out more

You have Successfully Subscribed!