My covid bubble is my safety bubble, family gets me, family accepts me.
Can I remember how to be social? Please don’t make me.


Mae prosiect Gareth Churchill ar gyfer ein rhaglen, Cerddoriaeth Eich Milltir Sgwâr, wedi bod yn archwiliad personol iawn o brofiad unigolion sydd wedi cael anafiadau i’r pen o’r pandemig.

Gareth Churchill

Dywedodd:

“Fel artist sy’n byw gyda niwed i’r ymennydd, rydw i wedi bod eisiau creu gwaith sy’n cysylltu gyda’r profiad gwirioneddol o anabledd, ond ‘dyw’r cyfle ddim wedi codi.”

Gyda chomisiwn gan Opera Canolbarth Cymru, gweithiodd Gareth gyda Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru, yr elusen leol sy’n cefnogi pobl sydd â niwed i’r ymennydd a defnyddwyr gwasanaeth yr elusen honno, gyda’r bwriad o greu cylch o ganeuon i roi llais i’r profiad o gadw pellter cymdeithasol o safbwynt rhywun y mae cymdeithasu yn her enfawr iddynt yn barod.

Eglurodd:

“Cynhaliais gyfres o gyfarfodydd ar-lein gyda staff Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru a phum unigolyn sy’n defnyddio eu gwasanaeth ac sy’n diddori mewn cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol.

“Gan ddefnyddio ysbrydoliaeth eiriol/ysgrifenedig a staff Headway a minnau’n hwyluso’r sesiynau, roedd modd i ddefnyddwyr y gwasanaeth gyfansoddi cyfres o destunau byr (‘libretti’) y gwnes innau wedyn eu defnyddio fel pwynt cychwyn ar gyfer fy nghaneuon.”

Gan weithio drwy WhatsApp gyda’r sielydd Nicola Pearce a’r mezzo soprano Rebecca Afonwy-Jones, cynhaliodd Gareth wedyn weithdai gyda’r deunydd, ac yn y pen draw cafodd y darnau eu recordio o bell, a’r recordiadau terfynol eu rhannu â phobl sy’n defnyddio gwasanaeth Headway.

Un o amcanion allweddol y prosiect oedd dod o hyd i ffordd o rannu profiadau o’r pandemig o safbwynt pobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd. Roedd profiad Gareth ei hun o waith Headway, sy’n cefnogi adferiad, yn golygu ei fod yn teimlo cysylltiad dwfn â’r straeon a phwysigrwydd dod o hyd i ffordd o roi llais iddynt.

Meddai Rebecca Pearce (Cyfarwyddwr), Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru:

“Roedd ein haelodau’n gwerthfawrogi’r cyfle i gydweithio â Gareth yn ofnadwy. Roedd ei brofiad personol o niwed i’r ymennydd yn eu sicrhau eu bod yn gweithio gyda rhywun fyddai’n deall eu profiadau. Mae pobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael cydnabyddiaeth a’u bod yn cael eu camddeall ac roedd y prosiect hwn yn rhoi’r cyfle iddynt fynegi eu hunain yn greadigol, yn ogystal â’u cyflwyno i genre gerddorol nad ydynt o bosib yn gyfarwydd iawn â hi.”

Nid yw’r cerddor a’r gantores sy’n cymryd rhan yn y prosiect wedi cyfarfod ei gilydd erioed na chyfarfod Gareth. Ei uchelgais yw gweld y cylch o ganeuon yn cael eu perfformio yn fyw, pan fydd hynny’n bosib, o flaen y bobl y mae eu geiriau wrth wraidd y gwaith. Am y tro, mae’r darnau cymhellol yn gofnod rhithiol o effaith ddofn y pandemig ar rai o bobl fwyaf bregus y gymdeithas – ac arnom ni i gyd:

many ‘normal’ people now feel ‘broken’.


Grey Matters

Cylch dramatig o ganeuon gan Gareth Churchill yn archwilio’r profiad o gadw pellter cymdeithasol.

Yn seiliedig ar dystiolaeth unigolion sydd wedi goroesi niwed i’r ymennydd ac wedi ei greu ar y cyd â Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru yn ystod Pandemig Covid-19.

 

Grey Matters I.

I suffer from fatigue, anxiety, loss of focus; many don’t understand that.
My avoidance mechanism lessens stressful contact; loss of human interaction over shadows that.
Covid’s reinforcement of negative mental habits will make re-connection difficult;
many ‘normal’ people now feel ‘broken’.

 

Grey Matters II.

Always two steps behind, always chasing, chasing, chasing, never catching up with your
conversation. My covid bubble is my safety bubble, family gets me, family accepts me.
Can I remember how to be social? Please don’t make me.

 

Grey Matters III.

Keep away! This Virus is a weapon of mass destruction! That’s what I say!
Distance is my saviour, don’t reach out your hand. What part of “Back Off” don’t you understand.
A different kind of “Normal” whatever that is and I shall go forward avoiding the abyss.

 

Grey Matters IV.

Having a ‘hidden disability’ is a daily battle and I didn’t want others to struggle like I had.
You have no control over your emotions, so to battle with the adaptation of the world is
very unnerving. The normal you wish for is something you’ll never get back.
You feel like a stranger in your own head.

 

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.