Ydych chi’n gerddor, yn ganwr, yn gyfansoddwr opera, cerddoriaeth leisiol neu gerddoriaeth siambr?
Hoffech chi wneud rhywbeth cadarnhaol yn ystod Covid-19 i gysylltu a chreu cerddoriaeth gyda’ch cymuned leol yng Nghymru?
Allwch chi feddwl am brosiect newydd y gellir ei sefydlu a’i gyflwyno gyda grŵp cymunedol yn eich ardal leol?
Os mai ‘ydw, hoffwn a gallaf’ yw’r atebion i’r uchod, darllenwch ymlaen!
eglurwch eich syniad yn FYR – yn Gymraeg neu Saesneg – un ai mewn 300 gair ysgrifenedig neu mewn recordiad 2 funud, sy’n cynnwys:
Dylai’r syniadau ein cyrraedd ni erbyn 5pm ddydd Gwener, Tachwedd y 6ed, anfonwch e-bost at lydia@midwalesopera.co.uk.
Byddwn wedyn yn rhoi gwybod i chi erbyn dydd Gwener, Tachwedd 13eg os byddwn yn eich dewis i ymuno â ni i ddatblygu eich prosiect i fynd ymlaen i’r ail gam, a fydd yn golygu anfon mwy o fanylion atom ni.
Darllenwch fwy am Cerddoriaeth eich Milltir Sgwar / Music at Your Place – Prosiect a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Opera Canolbarth Cymru/Ensemble Cymru mewn ymateb i COVID-19.