Byddwch yn Llysgennad OCC!

The Bear, Hydref 2017

Os ydych chi’n byw yn neu yng nghyffiniau Llandinam, Llanfair Caereinion, Aber-miwl, Aberdaron, Criccieth, Dinbych, Cilgerran, Aberystwyth, Ystradgynlais, Abermo, Aberdyfi, y Gelli Gandryll, Llwydlo, Rhydaman, Cwmbrân neu Lanandras, rydym ni angen eich cymorth!

Dim ond ychydig oriau o’ch amser sydd eu hangen arnom er mwyn helpu i osod posteri, rhannu cardiau post mewn cyngerdd neu ddigwyddiad, rhannu ein sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a chreu brwdfrydedd cyffredinol ynglŷn â dod i weld y sioe ymysg eich ffrindiau a’ch teulu, ac unrhyw un arall yr ydych chi’n eu hadnabod yn lleol.

Mae tocynnau’n costio tua £10 a bydd y sioeau’n llawn hwyl. Bydd yr awr gyntaf yn berfformiad llawn o The Bear, cyn egwyl ac yna “Tameidiau Tatyana” – cymysgfa o gerddoriaeth, barddoniaeth a rhyddiaith, rhai yn gyfarwydd, eraill yn llai cyfarwydd fel rhagarweiniad i berfformiadau OCC o opera fawr Tchaikovsky, Eugene Onegin, sydd ar daith yng Ngwanwyn 2018.

Byddwn yn diolch i chi drwy roi tocyn am ddim i chi i’n perfformiad a’r cyfle i gyfarfod tîm OCC – yn ogystal â’r teimlad cynnes o wybod eich bod wedi helpu i ddod ag opera fyw i gymunedau ym mhob rhan o Gymru!

Bod yn Llysgennad

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Dewch i gael profiad o opera gyda ni

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.