Erin Fflur Williams

mezzo

Bywgraffiad

Mae Erin Fflur yn wreiddiol o Y Felinheli, Gogledd Cymru ac ar hyn o bryd mae hi yn ei blwyddyn gyntaf ol radd yn astudio cerddoriaeth gyda astudiaethau lleisiol ac opera yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd yn Manceinion. Wedi iddi gael ei hyffordd gan Rhys Meirion (Tenor) ac Ann Taylor Mezzo-Soprano), mae Erin bellach yn cael ei hyffroddi gan Louise Winter (Mezzo-Soprano). Cefnogir ei hastudiaethau’n hael gan y Cymorth Talent Masonic, Alice Orrell a Gwobr A & N Kendall, Sefydliad Addysg Mario Lanza a Gwobr Goffa John Llewelyn Roberts. Dyfarnwyd Erin yr ail wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nghaerdydd y llynedd yn yr Unawd Mezzo-Soprano 19-25 mlwydd oed. 

Ymddangosodd Erin yn ei opera gyntaf erioed yn 10 mlwydd oed fel cymeriad Catrin yn y cynhyrchiad o Cath Wyllt hefo Opera Cenedlaethol Cymru. Erbyn 12 mlwydd oed roedd hi’n aelod o gorws yng nghynhyrchiad Opra Cymru o Cei Lawn Cyffro gan Bill Evans. Yn ystod ei hamser yn y coleg, mae Erin wedi ymddangos fel aelod or corws ar gyfer yr opera Alcina a Rodelinda gan Handel yn Opera Scenes yr RNCM. Yn 2016 bu’n aelod o’r corws ar gyfer cynhyrchiad yr RNCM o Street Scene gan Kurt Weill. Mae ei cymeriadau or Opera Scenes yn yr RNCM yn cynnwys Minskwoman o Flight gan Jonathan Dove, Mere Marie o’r Dialogues des Carmelites gan Poulenc a Bianca o opera Rape of Lucretia gan Benjamin Britten. Y llynedd, fe’i dewiswyd i dan astudio un o’r Sprite yn yr opera Cendrillon gan Massenet. Eleni, bydd hi’n mynd rhagddo i edrych ar gymeriad Cup Bearer a Madam Bubble yn yr opera Pilgrim’s Progress gan Vaughan Williams. Mae gan Erin angerdd fawr i Oratorio. Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn gweithio gyda chôr cymysg Dyffryn Conwy a chymdeithas gorawl yr Wyddgrug a’r Cylch fel unawdydd ar gyfer y oratorios – Meseia a Samson gan Handel, Requiem gan Mozart a Elijah gan Mendelssohn.

Yn mis Mai bydd Erin yn tafeilio i’r Almaen i gymeryd rhan mewn cyngerddau yn ardal Cologne ac Frankfurt ac yna yn yr haf bydd Erin yn brysur yn trafeilio ar hyd a lled Prydain yn gweithio i gwmni opera Gilbert and Sullivan lle y bydd yn perfformio fel aelod o’r corws ar gyfer yr operau – Pirates of Penzance, The Gondoliers, Yeomen of the Guards ac Mikado.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.