Kiefer Jones

baritôn

Bywgraffiad

Cafodd Kiefer Jones hyfforddiant clasurol ym Mhrifysgol Bangor gyda Marian Bryfdir. Ers graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth Cyntaf mewn cerddoriaeth, mae Kiefer yn gweithio fel canwr/athro llais llawrydd, yn darlithio ar berfformio yng Ngholeg Menai yng Ngogledd Cymru. Ym mis Medi 2017, dechreuodd Kiefer astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd o dan y bariton, Donald Maxwell. Mynychodd Kiefer gwrs academi clodfawr Glyndebourne yn 2017.

Yn 2018, perfformiodd Kiefer ei ran broffesiynol gyntaf gydag Opra Cymru, (Dr. Malatesta yn Don Pasquale Donizetti). Wedi hyn cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Gus Christie gan Glyndebourne. Bydd Kiefer yn canu Aeneas i Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.