Nicholas Folwell

Baron Scarpia

Bywgraffiad

Mae Nicholas Folwell wedi canu rhan Alberich Der Ring des Nibelungen i Nationale Reisopera, Opéra d’Angers-Nantes, Opéra de Dijon, Den Nye Opera, Opera Cenedlaethol Cymru a Scottish Opera. Ymysg uchafbwyntiau gyrfaol eraill mae Dreieinigkeitsmoses Aufstieg und Fall der Stadt Mahagonny (Nantes), Koroviev Der Meister und Margarita gan York Höller (Première byd-eang, Paris), Ottokar Der Freischütz (Gŵyl Zwingenberger), a Marullo Rigoletto (Frankfurt). Perfformiodd am y tro cyntaf gyda’r Opera Frenhinol fel Harašta The Cunning Little Vixen, a dychwelyd i berfformio Nachtigall Die Meistersinger von Nürnberg ac Antonio Le nozze di Figaro ac ymysg ei rannau niferus i Opera Cenedlaethol Lloegr mae Blond Eckbert, Papageno, Tonio a Falke. Mae gwaith diweddar yn cynnwys Kallenbach Satyagraha i Opera Cenedlaethol Lloegr, The Notari Ariadne auf Naxos, Ortel Die Meistersinger von Nurnberg a Der Haushofmeister Der Rosenkavalier i Ŵyl Glyndebourne, Alcindoro La Bohème i Grange Park Opera, Filip The Jacobin yng Ngŵyl Buxton, Offeiriad yn y perfformiad cyntaf erioed o The Trial gan Philip Glass i Theatr Gerdd Cymru a’r Baron Douphol La Traviata i Glyndebourne On Tour.