Mae Jac Thomas yn gerddor clasurol Cymreig sy’n byw ym Manceinion. Yn wreiddiol o Aberdâr, dechreuodd ar ei lwybr cerddorol yn ifanc iawn. Ar ôl datblygu drwy Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion. Mae wedi gweithio i gerddorfeydd ledled Prydain gydag ensembles fel Opera Cenedlaethol Cymru, yr Halle Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera North. Mae rhai o uchafbwyntiau personol Jac yn cynnwys perfformiadau ym Mhalas Buckingham ar gyfer Ei Uchelder Tywysog Cymru a’r cyfle i gydweithio ag arweinwyr a chyfansoddwyr enwog fel Karl Jenkins a Mark Elder.