Peryn Clement-Evans

Bywgraffiad

Peryn yw prif glarinetydd, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. Fel cerddor siambr, mae Peryn wedi cyflwyno perfformiadau cyntaf a chomisiynu cerddoriaeth gan gyfansoddwyr yng Nghymru gan gynnwys Mared Emlyn, Gareth Glyn, Lynne Plowman a John Metcalf.  Fel cerddor siambr, mae wedi perfformio mewn lleoliadau ar draws Cymru yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ac yng Ngŵyl Delynau Ryngwladol Caernarfon. Yn 2008 dyfarnwyd Gwobr Leo Abse & Cohen iddo gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei wasanaethau i gerddoriaeth. Ganwyd Peryn yn Lerpwl ac mae’n briod gyda phedwar o blant. Mae’n byw ym Mangor, Gogledd Cymru ac yn dysgu perfformiad clarinét ym Mhrifysgol Bangor.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.