Tag

2018/19

Dido & Aeneas Purcell

/
Doedd llwyfannu opera mewn wythnos byth yn mynd i fod yn hawdd, a llwyfannu opera mewn wythnos gyda chast, corws a cherddorion pur amhrofiadol yn y maes opera – anos byth. Ond dydyn ni yn OCC ddim yn adnabyddus am wingo rhag sialens ac rydym ni wedi ein llorio yn llwyr gan lwyddiant prosiect cyntaf LlwyfannauAgored. Cychwynnodd yr ymarferion ar gyfer ein cynhyrchiad o Dido ac Aeneas yn Eglwys Sant Andras, Llanandras ddydd Llun Gŵyl y Banc, Ebrill 22ain 2019, ac fe’i perfformiwyd i ddwy gynulleidfa lawn ar y dydd Sadwrn canlynol, Ebrill 27ain.

Tosca Puccini

/ /
Mae grym ac angerdd yn gwrthdaro yng nghampwaith syfrdanol Puccini Tosca. Wedi eu dal mewn brwydr bywyd a marwolaeth yn erbyn y pennaeth heddlu llwgr Scarpia, mae’r brif gantores, Tosca a’i chariad, yr artist, yn wynebu’r aberth eithaf. Yn ein cynhyrchiad newydd sbon, cyfarwyddodd gan Richard Studer, roedd ein cantorion ni’n ymuno â mwy na chant aelod y corws cymunedol ledled Cymru. Roedd Ensemble Cymru yn ymuno â ni eto, arweinodd gan Jonathan Lyness. Roedd y canlyniad ‘cynhyrchiad gafaelgar’ efo ‘lleisiau gwych’ a ‘cerddorfa yn arbennig iawn’.

Awr Sbaenaidd – L’heure espagnole gan Ravel

/ /
Yn hydref 2018 gwelson OCC yn ôl ar daith gydag ail gynhyrchiad LlwyfannauLlai y cwmni, ffars ystafell wely un act llawn bywyd gan Ravel, L’heure espagnole. Perfformiwyd L’heure espagnole am y tro cyntaf ym Mharis yn 1911 ac mae’r opera wedi ei gosod mewn siop glociau yn Toledo, canol Sbaen. Dilynir ffawd Torquemada, y clociwr gweithgar wrth i’w wraig, Concepción, yn ystod un prynhawn poeth, weithio ei ffordd drwy ei chasgliad o gariadon ynfyd. Mae cerddoriaeth Ravel yn llawn alawon bachog, dawnsfeydd habanera bywiog ac elfennau eraill o ganeuon gwerin Sbaeneg a fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.