L'heure espagnole - Ravel

Taith SmallStages - Hydref 2018

Perfformiadau yn y gorffennol

9/11/18Theatr Llwyn, Llanfyllin (mewn partneriaeth â Hafren, Y Drenewydd
10/11/18LLEOLIAD NEWYDD Black Mountain Barns, Longtown
11/11/18Ystafelloedd Cynulliad Llanandras
15/11/18Theatr Richard Burton, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
16/11/18Theatr-y-Ddraig, Abermaw
17/11/18Neuadd Dyfi, Aberdyfi
21/11/18Canolfan Celfyddydau Pontardawe
22/11/18Eglwys St Mary, Y Gelli Gandryll
23/11/18Theatr Gwaun, Abergwaun
24/11/18Neuadd Goffa Trefeglwys (mewn partneriaeth â Hafren, Y Drenewydd
29/11/18SpArC, Tre'r Esgob (Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Sir Amwythig
30/11/18Theatr Emlyn Williams, Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
1/12/18Neuadd Goffa Cricieth
5/12/18Theatr Colwyn, Bae Colwyn
6/12/18Canolfan Gymunedol Abermiwl (mewn partneriaeth â Hafren, Y Drenewydd
7/12/18Eglwys St Laurence, Llwydlo

 

Yn hydref 2018 gwelir OCC yn ôl ar daith gydag ail gynhyrchiad LlwyfannauLlai y cwmni, ffars ystafell wely un act llawn bywyd gan Ravel, L’heure espagnole. Byddwn yn dychwelyd i rai o’r lleoliadau y gwnaethom eu mwynhau ar daith The Bear Walton yn 2017, yn ogystal â nifer o leoliadau newydd yr ydym yn ysu i’w gweld.

Perfformiwyd L’heure espagnole am y tro cyntaf ym Mharis yn 1911 ac mae’r opera wedi ei gosod mewn siop glociau yn Toledo, canol Sbaen. Dilynir ffawd Torquemada, y clociwr gweithgar wrth i’w wraig, Concepción, yn ystod un prynhawn poeth, weithio ei ffordd drwy ei chasgliad o gariadon ynfyd. Mae cerddoriaeth Ravel yn llawn alawon bachog, dawnsfeydd habanera bywiog ac elfennau eraill o ganeuon gwerin Sbaeneg a fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd.

Mae hon yn opera i bawb – yn llawn cast rhagorol o bum canwr ifanc yn ogystal â phedwar cerddor gwych, yn perfformio cyfieithiad Saesneg newydd gan ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer a threfniant newydd o sgôr egsotig Ravel a grëwyd gan ein Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness.

Yn ail hanner y noswaith, mwynhewch flas eclectig a difyr o Sbaen – efo rhai hen ffefrynnau a phleserau newydd mewn cerddoriaeth a chân.

a simple, but artful and engagingly funny, Spanish parody
The Stage – darllenwch y adolygiad llawn

Mid Wales Opera has scored an indisputable bullseye in this highly approachable and hilarious new staging of L’Heure espagnole
Wales Arts Review – darllenwch y adolygiad llawn

It is impossible to fault this production. It dazzles and pleases … I can thoroughly recommend this and urge anyone interested in opera, even those who are merely curious, to [go].
Get the Chance – darllenwch y adolygiad llawn

Crynodeb

Siop Glociau Torquemada – Toledo, Sbaen

Mae’r awr Sbaenaidd bron ar ddod, yr un awr yn yr wythnos pan fydd Concepcion yn croesawu ei chariadon…

Daw’r gyrrwr mulod, Ramiro i mewn i siop Torquemada i gael trwsio ei oriawr. Torra Concepcion ar eu traws gan ddweud y drefn wrth ei gŵr am fod yn hwyr i’w waith a pheidio â gosod cloc yn ei hystafell wely. Dan gwyno eu bod yn rhy drwm i’w symud, mae Torquemada’n gadael ac yn gofyn i Ramiro aros. Gofynna Concepcion i Ramiro gyhyrog gario cloc i’w hystafell ac mae’n gadael gyda’r cloc wrth i’r bardd, Gonzalve gyrraedd. Torrir ar draws y cariadon pan ddaw Ramiro yn ei ôl. Gan esgus camgymeriad, gofynna Concepcion i Ramiro ddod â’r cloc yn ôl a chario’r ail gloc i fyny’r grisiau.

Wrth i Ramiro ddiflannu, mae Concepcion yn cuddio Gonzalve yn y cloc cyntaf cyn i’w hail gariad gyrraedd, y bancwr Don Inigo Gomez. Achubir hi rhag rhodres Inigo pan ddaw Ramiro yn ei ôl; gafaela Ramiro yn y cloc gwreiddiol (y mae Gonzalve y tu mewn iddo erbyn hyn) a’i gario i fyny’r grisiau. Mae Concepcion yn esgusodi ei hun ac yn gadael Inigo gan ddilyn Ramiro. Ag yntau ar ben ei hun, penderfyna Inigo fod yn gariad mwy chwareus a chuddio yn yr ail gloc. Daw Ramiro yn ôl i’r golwg ar ôl cael cyfarwyddyd i edrych ar ôl y siop. Daw Concepcion yn ôl dan cwyno am y cloc yn ei hystafell wely a gofyn i Ramiro ddod ag ef yn ôl i lawr iddi.

Mae’r ddau ar eu pennau eu hunain ac mae Inigo’n dod i’r golwg ac yn datgan ei fod yn caru Concepcion ond torrir ar ei draws unwaith eto gan Ramiro. Gofynna Concepcion i Ramiro fynd â’r ail gloc (y mae Inigo yn ei grombil) i fyny’r grisiau. Mae hi wedyn yn ymdrechu ac yn methu cael gwared â Gonzalve farddol ac yn gadael. Daw Ramiro yn ei ôl a myfyrio y byddai yntau’n hoffi bod yn glociwr gyda Concepcion yn wraig iddo. Daw Concepcion yn ei hôl a gofyn iddo fynd â’r cloc (sy’n cynnwys Inigo) o’i hystafell wely. Mae hi erbyn hyn wedi ei delwi gan gryfder y gyrrwr mulod a, phan ddaw’n ôl, mae hi’n gorchymyn ei fod yn mynd yn ôl i’w hystafell wely (heb gloc!) ac yna’n ei ddilyn…

Mae’r ddau ŵr (Gonzalve ac Inigo) yn sbecian allan o’u clociau wrth i Torquemada ddychwelyd. Ymddiheura am wneud iddynt aros a, gan dybio mai cwsmeriaid ydynt, mae’n perswadio’r ddau siomedig i brynu’r clociau. Daw Concepcion a Ramiro yn ôl i ymuno yn y foeswers: ar drywydd cariad, daw adeg pan fo’r gyrrwr mulod yn cael ei dro…

 

Torquemada: Peter Van Hulle
Concepción: Catherine Backhouse
Gonzalve: Anthony Flaum
Ramiro: Nicholas Morton
Don Inigo Gomez: Matthew Buswell

Feiolín – Naomi Rump / Edward McCullagh
Telyn – Elfair Grug Dyer
Basŵn – Alexandra Callanan
Piano – Jonathan Lyness

Hyd perfformiad: Awr a phum-ar-ddeugain o funud

Cerddoriaeth: Maurice Ravel
Libreto:
Franc-Nohain
Trefniant:
Jonathan Lyness
Cyfieithu:
Richard Studer

Cyfarwyddwr Cerdd: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer

 

Rhaglen ar Gyfer yr Ail Hanner

Alan Ridout: Ferdinand the Bull
Peter Van Hulle (narrator), Naomi Rump (violin)

Manuel de Falla: Nana, No. 5 from Siete Canciones Populares Españolas
Catherine Backhouse (mezzo)

Pablo Sorozábal: No puede ser
Anthony Flaum (tenor)

Georges Bizet: Seguidilla, from Carmen
Catherine Backhouse (mezzo)

Georges Bizet: Toreador Song, from Carmen
Nicholas Morton (baritone), Full Company

Frederico García Lorca: El Cafe de Chinitas, No. 7 from Trece Canciones Españolas Antiguas
Full Company

Agustín Lara: Granada
Anthony Flaum (tenor), Peter Van Hulle (tenor)

 

Cefnogir gan Gronfa Loteri CCC, Ymddiriedolaeth Garfield Weston, Hanfod Cymru, Elusen Gwendoline & Margaret Davies a Nidec Control Techniques.

 

Tîm Creadigol

Richard Studer

Cyfarwyddwr/ Cynllunydd

Jonathan Lyness

Cyfarwyddwr Cerdd

Cast

Matthew Buswell

Don Inigo Gomez

Peter Van Hulle

Torquemada

Cerddorion

Naomi Rump

Y Ffidil

Edward McCullagh

Y Ffidil (29 Tachwedd – 7 Rhagfyr)

Blog

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.