Tag

LlwyfannauLlai

Beatrice a Benedict

/ /
Mae opera derfynol Berlioz yn gosod ar gerddoriaeth chwyrlwynt afresymegol syrthio mewn cariad, gan ddod â dyfeisgarwch cynnes i Shakespeare nas gwelwyd gan gyfansoddwr arall. Mae cynhyrchiad OCC yn cynnwys chwech o gantorion a phedwar offerynnwr, gyda chyfansoddiad Saesneg o’r caneuon gan Amanda Holden, ynghyd â thestun gwreiddiol Shakespeare sydd wedi ei addasu gan Richard Studer a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness.

Puss in Boots (El Gato con Botas)

/ /
Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Barcelona yn 1948 ac anaml y caiff ei pherfformio heddiw. Mae’r stori oesol hon i blant yn adrodd hanes cath ddawnus sydd, yn gyfnewid am het a chleddyf a phâr o esgidiau uchel, yn llwyddo i sicrhau bod ei feistr ifanc (mab i felinydd) yn ennill teyrnas, llaw tywysoges mewn priodas a chastell gan ellyll ar hyd y ffordd.

Il tabarro – Puccini

/ /
Cyflwyna Opera Canolbarth Cymru orchestwaith hwyr Puccini, Il tabarro neu ‘Y Clogyn’. Stori fer yw’r opera un act hon, wedi’i gosodd ar lannau’r Seine, am berchennog cwch camlas o’r enw Michele, sy’n amau bod ei wraig, Giorgetta, yn bod yn anffyddlon. Mae’r opera’n llawn is-blotiau ac is-gymeriadau, a chyfeiriadau at olygfeydd a synau Paris yn y 1900au. Daw’r opera i ddiweddglo dramatig pan ddalia Michele gariad ei wraig yn annisgwyl ar daniad matsien. Gyda melodïau cyfareddol a thyndra cyffrous, mae Il tabarro yn dangos gwaith y cyfansoddwr gwych pan oedd ei allu ar ei anterth.

Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage

/ /
Prancia tîm LlwyfannauLlai OCC yn ôl ar y llwyfan gydag ailwampiad radical o waith John Gay o 1728, The Beggar’s Opera – Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage. Ymunwch â Mrs Peachum, Polly ei merch a’r Cardotyn yn eu dehongliad beiddgar o berthnasau a rhinweddau cymharol gwyryfdod. Mae’n bleser gan OCC berfformio’r opera un act hon, wedi’i haddasu gan Richard Studer, mewn fersiwn gerddorol newydd gan Jonathan Lyness, am y tro cyntaf. Daw cyfeiliant gan Ensemble LlwyfannauLlai o bedwar cerddor, y mezzo soprano o Ogledd Iwerddon, Carolyn Dobbin yw Mrs Peachum a’r soprano Gymreig Alys Mererid Roberts yw ei merch ddi-glem.

Awr Sbaenaidd – L’heure espagnole gan Ravel

/ /
Yn hydref 2018 gwelson OCC yn ôl ar daith gydag ail gynhyrchiad LlwyfannauLlai y cwmni, ffars ystafell wely un act llawn bywyd gan Ravel, L’heure espagnole. Perfformiwyd L’heure espagnole am y tro cyntaf ym Mharis yn 1911 ac mae’r opera wedi ei gosod mewn siop glociau yn Toledo, canol Sbaen. Dilynir ffawd Torquemada, y clociwr gweithgar wrth i’w wraig, Concepción, yn ystod un prynhawn poeth, weithio ei ffordd drwy ei chasgliad o gariadon ynfyd. Mae cerddoriaeth Ravel yn llawn alawon bachog, dawnsfeydd habanera bywiog ac elfennau eraill o ganeuon gwerin Sbaeneg a fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.