Beth am i ni ddechrau’n syml – pwy wyt ti, a sut fyddet ti’n cyflwyno dy hun i rywun newydd?
Cefais fy magu yng Ngorllewin Lloegr gyda thad artistig a theatrig iawn, a mam a oedd yn ymarferol a di-lol. Aeth fy nhad i weithio i’r byd cyfreithiol gan ddod yn farnwr, felly roedd yn cael gwisgo i fyny a bod yn theatrig ond cael ennill cyflog gwell! Rydyn ni’n rhannu’r un cariad at y celfyddydau a’r theatr, ac wrth ein bodd erioed â geiriau a cherddoriaeth, er byddai’n rhaid holi Richard Strauss pa un sy’n dod gyntaf…. Roedd fy mam bob amser yn cadw fy nhraed ar y ddaear.
Fe hoffwn i feddwl fy mod i, dros yr ugain mlynedd diwethaf, wedi helpu pobl i ddarganfod cerddoriaeth glasurol mewn ffyrdd sy’n teimlo’n groesawgar ac yn eu hysbrydoli. P’un a ydw i’n perfformio fel cyfeilydd, yn hyfforddi cantorion ifanc, yn dyfeisio rhaglenni neu’n ymgysylltu â’r gymuned, mae gen i ddiddordeb bob amser yn y cysylltiad a grëir gan gerddoriaeth rhwng pobl o bob math.

2. Sut mae diwrnod nodweddiadol yn edrych i ti, a ble/sut mae’r prosiect hwn yn ffitio i dy fywyd di?
Mae pob diwrnod yn wahanol. Un diwrnod fe allwn i fod yn hyfforddi prif artistiaid neu artistiaid ifanc yng Nglyndebourne; neu’n cynnal dosbarthiadau perfformio ôl-raddedig yn yr Academi Gerdd Frenhinol; yn cyfarwyddo golygfeydd opera yn y Royal Birmingham Conservatoire neu’n beirniadu cystadleuaeth ganu; yn chwarae Bach yn 415 (sef dull Baróc o diwnio i lawr hanner tôn o’r traw cyngerdd safonol) ar gyfer y Constellation Choir dan arweiniad John Eliot Gardiner; yn dyfeisio ac yn cynnal gweithdy mewn ysgol gynradd; yn eistedd ar banel clyweliad; yn mynd i gyfarfod Bwrdd gydag ETO (lle’r ydw i’n ymddiriedolwr); yn dyfeisio strategaeth ariannu 3 blynedd ar gyfer y Springhead Constellation (yn fy swydd fel Arweinydd Datblygu); neu’n cynllunio’r tymor nesaf yng Ngŵyl Opera West Green House (fi ydy’r Cyfarwyddwr Artistig newydd). Un o’m hoff bethau ydy trefnu rhaglenni ac ymarfer at gyngerdd – yn enwedig os ydw i’n cael thema benodol a bod angen creu stori o amgylch y thema honno. Cysylltodd Opera Canolbarth Cymru gyda mi am y tro cyntaf i gynnal eu cyngerdd Cyfeillion blynyddol tua 12 mlynedd yn ôl, a dwi wedi bod wrth fy modd efo pob prosiect ers hynny. Mae’n bosib y byddwch chi hefyd yn dod o hyd i mi ar lawr ein tŷ ni’n chwarae ‘ceir’ am ryw awran gyda fy nau fab… Dwi ddim yn siŵr be’ sydd fwyaf caled!
3. Beth wnaeth dy ddenu di ar y dechrau i gymryd rhan yn y math yma o brosiectau?
Dwi wedi credu erioed bod opera’n perthyn i bawb. Yn gynnar yn fy ngyrfa fe wnes i sylweddoli fod rhai o’r adegau mwyaf gwerthfawr yn digwydd pan oedd rhywun yn profi opera am y tro cyntaf a/neu’n darganfod rhywbeth wnaeth eu synnu neu wnaeth argraff arnyn nhw, yn hytrach na rhywbeth ddigwyddodd ar y llwyfan ei hun. Mae opera fawreddog yn un agwedd ogoneddus ar opera ond nid dyma’r darlun cyfan, a gallai unrhyw ragdybiaethau rwystro rhywun rhag mynd i weld perfformiad neu hyd yn oed rhag ei fwynhau. Yn sicr, gyda phrofiad cyntaf, pe byddai’r rhagdybiaethau hyn yn cael eu chwalu neu eu dileu, gallai helpu i wneud y profiad cyntaf o’r gelfyddyd wych hon yn un sy’n agos atoch chi ac yn hygyrch i bawb. Dwi newydd ddod yn ôl o gyfres o gyngherddau yn Awstria lle’r oedd un aelod o’r gynulleidfa wedi dod yno gyda’i ffrindiau, ac yn ôl pob golwg, yn erbyn ei ewyllys braodd! Roedd wedi dweud wrthyn nhw dro ar ôl tro nad oedd yn hoffi opera ac na allai ddangos unrhyw ddiddordeb ynddi. Ar ddiwedd y cyngerdd, daeth aton ni yn llawn cyffro gan gyfaddef ein bod wedi ‘newid ei feddwl yn llwyr!’
4. Allet ti roi cipolwg inni ar y bobl (neu’r anifeiliaid!) rwyt ti’n rhannu dy fywyd â nhw y tu allan i’r gwaith.
Dwi’n byw mewn cartref llawn bechgyn: fy ngŵr a’n dau fab, sef Gabriel (8 oed) a Raphael (3 oed); enwau angylaidd ond dydw i ddim yn rhy siŵr os ydyn nhw’n gweddu ar hyn o bryd… Mae fy ngŵr yn aelod o Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, sy’n ystyriol o deuluoedd, felly mae ein plant eisoes wedi bod mewn sawl cyngerdd yn y Symphony Hall, er fy mod wedi ceisio mynd â Gabriel i symffoni yr Atgyfodiad pan oedd yn dair oed… Mae Gabriel yn canu yng nghorws plant CBSO felly mae wedi canu yn y Symphony Hall sawl gwaith gyda’i Dad yn chwarae’r ffidil. Mae Gabriel a Raphy wrth eu bodd yn gwisgo i fyny ac yn canu, felly mae’n gartref swnllyd iawn. Mae ganddyn nhw fam-gu answyddogol, sef Caroline, sydd wedi bod yn gofalu amdanyn nhw ers i fy mam fynd yn sâl yn sydyn ddwy flynedd yn ôl. Ac mae ganddyn nhw fam fedydd fendigedig, enwog o Gymru, sef Fflur Wyn!

5. Pa ddigwyddiad yn ystod y 12 mis diwethaf sy’n sefyll allan yn benodol i ti mewn ffordd gadarnhaol?
Y llynedd, thema Gala Opera Canolbarth Cymru oedd Y Freuddwyd Americanaidd ac fe wnes i ganolbwyntio ar y llu o dalent gerddorol o Ewrop a ddaeth i America yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Ar ddiwedd y cyngerdd, daeth gŵr oedrannus aton ni yn amlwg dan deimlad. Yn ei acen Americanaidd feddal, fe gyfaddefodd nad oedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan brynodd ei docyn ond ei fod wedi cael profiad personol iawn. Ar ôl ymfudo i America yn 13 oed, dywedodd fod y perfformiad fel petai wedi “adrodd ei hanes yn uniongyrchol.” Roedd wedi ei gyffwrdd mewn ffordd nad oedd wedi ei ragweld, gan ddwyn i gof emosiynau ac atgofion oedd wedi mynd yn angof ers blynyddoedd. Fe wnaeth ei ymateb argraff fawr arnaf ac roedd yn ein hatgoffa pam ein bod ni’n adrodd y straeon hyn: i ddod â chenedlaethau at ei gilydd a chysylltu celf â phrofiad byw.
6. Ac ar y llaw arall felly, beth sydd wedi bod yn anoddach, a sut wnaethost ti ddelio â hynny?
Fel llawer o bobl sy’n gweithio yn y celfyddydau, yn enwedig yn y Deyrnas Unedig, dwi wedi teimlo’r straen o gael y cydbwysedd iawn rhwng gwaith a bywyd adref, yn enwedig o ran magu plant. Dwi wedi gorfod addasu’r hyn dwi’n ei wneud, ble a pha bryd. Cyn i mi gael plant byddwn i’n aml yn rhan o fwy nag un opera’r flwyddyn, gyda llawer ohonyn nhw’n cael eu hymarfer am fisoedd ar fisoedd, ymhell o adref. Pan ddaw plant, dydy hynny ddim yn bosib, naill ai’n ymarferol, yn emosiynol neu’n economaidd. Yn ffodus, dwi’n un weithgar erioed ac wedi rhoi cynnig ar lawer o bethau. Mae’r hyblygrwydd hwnnw, wrth ddefnyddio sgiliau trosglwyddadwy, wedi fy ngalluogi i adeiladu gyrfa bortffolio. Yn raddol, dwi’n dysgu i beidio â bod ofn gofyn i bobl am gyngor neu gymorth. Y peth nesaf y mae angen i mi ei ddysgu ydy peidio â bod mor gaeth i ateb negeseuon e-bost, negeseuon testun neu negeseuon llais ar unwaith. Mae’n anodd gosod ffiniau pan wyt i’n weithiwr llawrydd ond mae’n angenrheidiol os wyt ti am i dy deulu a dy ffrindiau ddal i siarad efo ti!

7. Beth sy’n dy gymell di pan fydd pethau’n teimlo’n heriol, yn dy fywyd neu o ran y
prosiect?
Cerddoriaeth. Mae’n ffynhonnell cariad, egni, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth ddiderfyn. A hefyd, pobl. Mae rhannu pryderon gyda chydweithwyr, gweld cyfranogwyr yn magu hyder, clywed aelodau’r gynulleidfa’n sgwrsio am yr hyn y mae perfformiad yn ei olygu iddyn nhw, neu wylio canwr ifanc yn darganfod ei lais yn fy atgoffa i pam fod y gwaith yn bwysig. Mae cerddoriaeth hefyd yn rhywbeth cydweithredol felly mae rhannu syniadau a chreu gyda phobl eraill yn gymhelliant gwych, yn feddyliol ac yn gorfforol!
8. Oes rhywun rwyt ti’n ei edmygu sydd wedi dylanwadu arnat ti?
Fy ngŵr, sydd yn chwarae’r ffidil mor hyfryd ond hefyd y person mwyaf meddylgar a theg dwi’n ei nabod. Dwi’n sicr yn llai byrbwyll ac yn fwy ystyriol ers i mi gwrdd ag o. Fy mhlant, sy’n ddi-ofn ac yn llawn egni a chwerthin. Fy rhieni, sydd wedi fy nysgu bod unrhyw beth yn bosib, ynghyd ag ymdeimlad o lawenydd ac antur. Yn y proffesiwn dwi wedi bod yn ffodus i weithio gyda llawer o gerddorion, addysgwyr a chrewyr ysbrydoledig dros y blynyddoedd, fel llawer ohonon ni yn y wlad yma a thramor. Yr artistiaid sydd wedi rhannu eu gwybodaeth yn rhydd ac wedi gwneud i eraill fod yn ymwybodol o’u gwerth sydd wedi dylanwadu fwyaf arna i.
Am 20 mlynedd rydw i wedi cael y fraint o weithio’n agos gyda John Eliot Gardiner ar dros 40 o brosiectau, o Monteverdi i Percy Grainger, gydag ambell i opera yn eu mysg. Mae’n ŵr deallus dros ben, ac mae ganddo lif diddiwedd o straeon gwych, yn ogystal â dealltwriaeth fanwl o nifer o ieithoedd, y mae’n ei rhannu’n achlysurol yn ystod ymarferion. Mae ei ymrwymiad i wneud i berfformiadau deimlo mor fyw â phetai’r gerddoriaeth yn newydd sbon, hyd yn oed os yw’n digwydd bod yn ganrifoedd oed, yn ddi-baid a heb ei ail. Does dim byd yn ddiflas nac yn rhagweladwy. Dyna pam mae ei gerddorion mor ffyddlon.
9. Os gallet ti gael un pŵer arbennig i wneud gwahaniaeth yn dy gymuned, beth fyddai’r pŵer hwnnw?
Byddwn i wrth fy modd yn gallu cael gwared ar bob rhwystr artiffisial neu ymarferol sy’n atal pobl rhag ymgysylltu â’r celfyddydau – boed hynny’n gost, diffyg hyder, trafnidiaeth, neu deimlo nad yw rhywbeth ‘ar eu cyfer nhw’. (Os ga i fod yn hunanol, gan fy mod yn byw ym Mirmingham, hoffwn i hefyd chwifio ffon hud dros y Cyngor, gan roi digon o arian iddyn nhw i adfer y casgliadau biniau ailgylchu, gwella gwasanaethau lleol, a llenwi’r tyllau ar y ffyrdd…!)
10. Beth sy’n dod â hapusrwydd i ti – boed yn fawr neu’n fach?
Mae fy ngŵr yn dod â phaned o de i mi yn y bore ac WEITHIAU bydda i’n cael ei yfed mewn heddwch cyn i draed bach ddod i mewn…
Ein gardd pan mae’n llawn blodau; mae gennym ystafell gerddoriaeth ym mhen pella’r ardd felly mae’n hyfryd edrych drwy’r ffenest a gweld y rhosod pan fydda i’n ymarfer neu’n hyfforddi.
Pan fydd unrhyw un o’n plant yn dweud rhywbeth annisgwyl neu ddoniol!
Hefyd, sesiwn da o ymarfer: mae rhywbeth hudolus am ‘stafell sy’n llawn pobl yn anadlu gyda’i gilydd ac yn creu rhywbeth mwy na nhw eu hunain.
Rhywbeth sy’n amlwg efallai, ond y pethau bach caredig. Maen nhw’n brin iawn y dyddiau yma.
Pan fydda i’n gyrru adref i Wlad yr Haf – cyn gynted ag y gwela’ i’r caeau gwyrdd yn y pellter, mae fy nghalon yn llawn.
11. Pryd oedd y tro diwethaf i rywbeth annisgwyl wneud i ti chwerthin?
Roeddwn i’n chwarae mewn cyngerdd ychydig wythnosau yn ôl. Roedden ni wedi cael gwybod y byddai piano cyngerdd yno, ond yn y diwedd piano cyngerdd trydanol oedd wedi ei logi gan yr hyrwyddwyr…. Hanner ffordd trwy ddiweddglo’r Ffliwt Hud daeth y botwm ‘curiad’ ymlaen a bu’n rhaid ni drio ein gorau glas i beidio â chwerthin yn uchel wrth i gerddoriaeth arbennig Mozart swnio’n debyg i gân bop o’r 80au!
12. Pe baem yn rhoi rhyddid llwyr a chyllideb ddiderfyn i ti, beth fyddet ti’n hoffi ei greu neu ei wneud gydag Opera Canolbarth Cymru?
Fe hoffwn i sicrhau sefydlogrwydd ariannol fel y gallan nhw barhau i greu rhaglen drwy gydol y flwyddyn sy’n cyrraedd pob cwr o Gymru, gan sicrhau bod pob aelod creadigol a gweinyddol yn cael ei dalu’n briodol. I lawer o gymunedau, cynyrchiadau teithiol yw’r unig ffordd y gallan nhw ymgysylltu â’r celfyddydau, sy’n hanfodol i’w llesiant, ond ddylai hynny ddim golygu bod cwmnïau nac artistiaid ar eu colled neu’n noddi’r gwaith hanfodol hwn eu hunain.
13. Beth yw dy hoff ddarn neu olygfa o opera i’w gynhyrchu/berfformio/gwylio a pham?
Dwi’n siŵr ei bod yn ystrydeb enfawr ond dydw i ddim yn credu bod unrhyw opera sy’n well na Phriodas Figaro (mae Don Giovanni yn ail agos). Mae diweddglo Act II neu Act IV yn feistrolgar o ran cyflymder, amseru a dyfeisgarwch. Bob tro dwi’n eu profi, dwi’n darganfod rhywbeth newydd.
Mae yna bob amser un rhan o opera Handel lle mae’n ychwanegu aria sy’n dy swyno’n llwyr, er enghraifft Credete al mio dolore yn Alcina neu Se pieta yn Giulio Cesare, ac rwyt ti’n gwybod na fyddi di fyth yr un fath wedyn.
Triawd Act III Rosenkavalier, yn amlwg, oherwydd ei fod yn fendigedig ac yn dorcalonnus ar yr un pryd.
Un profiad theatrig lle cefais fy nychryn yn llwyr oedd pan oedd pobl frefog tref Suffolk yn sgrechian ‘Peter Grimes’ ar y gynulleidfa. Profiad cyffrous wnaeth hefyd godi ias arna i.
14. Pe byddet ti’n gorfod cynrychioli dy wlad ar lwyfan byd-eang, beth fyddet ti’n dewis ei wneud?
Wel, yn gyntaf, byddwn i’n eithaf pryderus o ran be sydd wedi digwydd i’r bobl eraill a fyddai’n fwy addas na fi i gynrychioli eu gwlad. Ond yna ar ôl deall y sefyllfa’n llawn, byddwn i’n awyddus i hybu addysg gelfyddydol a chyfranogiad diwylliannol. Dwi’n credu nad ydy creadigrwydd yn ddewis ychwanegol; mae’n rhan hanfodol o’r ffordd y mae pobl ifanc yn dysgu a chymunedau’n ffynnu. Dwi hefyd yn credu’n gryf nad oes angen ei wneud yn symlach na meddwl amdano fel rhywbeth dibwys. Mae bron pob thema mewn opera yn gyffredinol: cariad, casineb, cenfigen, ofn a chwant, marwolaeth a dial. Yn aml, yr elfennau allanol sy’n sefyll yn y ffordd.
15. Gall cerddoriaeth fod yn bwerus. Oes darn o gerddoriaeth rwyt ti’n dod yn ôl ato dro ar ôl tro, a pham ei fod yn bwysig i ti?
O, dyna gwestiwn anodd. Mae cymaint o ddarnau sy’n fy nghysylltu â phobl, lleoedd a digwyddiadau yn fy mywyd. Cefais fy nghyflwyno i gerddoriaeth glasurol, a cheir cyflym gan fy nhad pan oeddwn i’n ifanc iawn. Dwi’n cofio crwydro ar hyd cefn gwlad Gwlad yr Haf gyda Fantasia on a Theme by Thomas Tallis gan Vaughan Williams yn chwarae dros y lle. Roedd yn bwerus ac yn gyffrous. Mae’n ddarn fydd yn fy nghysylltu am byth â’m cartref a’m plentyndod.
16. Cwestiwn difyr – pa fath o her neu gystadleuaeth oddi ar y teledu wyt ti’n meddwl y byddet ti’n rhagori arni’n gyfrinachol? Dysgu sut i oroesi, canu, dangos rhyw ddawn arbennig neu goginio efallai?
Dwi bob amser yn hapus i fynd yn ôl i’r Alban felly byddwn i’n rhoi cynnig ar y Traitors, yn bennaf i gael gwledda bob amser brecwast a chael awgrymiadau steilio gan Claudia. Ond byddai’n rhaid i mi fod yn un o’r rhai “ffyddlon”. Dwi’n da i ddim am ddweud celwydd!
17. Os gallet ti wahodd unrhyw bedwar o bobl i swper, pwy fydden nhw a beth fyddai ar y fwydlen?
Aristotle, Jane Austen, P.G.Wodehouse, a naill ai J. S Bach neu Giacomo Puccini. Alla i ddim penderfynu pa un, ond fyddwn i ddim yn disgwyl y byddai’r un ohonyn nhw’n ymddwyn yn briodol. (Ga i hefyd wahodd Sarah Vaughan a’i band i ddiddanu pawb ar ôl swper?)
Dyma’r fwydlen:
Martinis neu Gin a physgod cregyn i ddechrau. Wellington Cig Eidion, gratin ffenigl a siampên.
Caws. Crêpes Suzette wedi’u fflamio wrth y bwrdd er mwyn creu awyrgylch mwy dramatig, a digon o sgwrsio bywiog.
19. Oes rhywle sydd ag ystyr arbennig i ti, rhywle rwyt ti’n dychwelyd iddo dro ar ôl tro, neu rhywle rwyt ti’n meddwl amdano’n aml?
Mae Gwlad yr Haf a’r Mendips lle cefais fy magu yn edrych dros y môr, yn lle arbennig ac yn agos iawn at fy nghalon. Mae’n lle sy’n llawn teulu, llên gwerin, amaethyddiaeth, aer hallt, a phobl garedig dros ben. Dwi’n gweld eisiau Caeredin, lle roeddwn i’n byw am bum mlynedd, a dwi bob amser wrth fy modd pan fydda i’n dychwelyd. Roeddwn i’n byw yn Llundain am ddeng mlynedd ac yn gweld eisiau ei bywiogrwydd a’i pharodrwydd i dderbyn natur amrywiol pobl: Dwi bob amser yn hapus fy myd pan fydda i’n camu oddi ar y trên yn Marylebone. Pan fydda i’n gyrru i fyny i’r Gogledd trwy ddyffryn Elan i Fetws-y-Coed, mae gwên fawr ar fy wyneb wrth imi edrych i fyny ar y dirwedd ddramatig. Dwi wrth fy modd â pha mor bwerus mae byd natur yn ymddangos a pha mor fach a di-nod y mae’n gwneud i mi deimlo: atgof iach, yn y byd sydd ohoni, o drefn naturiol pethau.
20. Yn olaf, beth mae bod yn rhan o’r prosiect hwn wedi ei olygu i ti hyd yn hyn neu pa effaith mae prosiectau tebyg wedi eu cael arnat ti?
Dwi’n cael fy nenu’n fawr at y profiad creadigol o gael briff a rhestr o ariâu/caneuon sy’n cael eu dewis ac yna meddwl am ffyrdd o droi’r pethau hynny yn stori newydd, gymhellol. Yn aml mae’n rhaid i mi ysgrifennu sgript neu ddarn o naratif parhaus, felly mae prosiectau fel hyn wir yn tanio fy meddwl. Ond yn bwysicach fyth, mae prosiectau o’r fath yn fy atgoffa mai pobl sydd wrth wraidd opera. Maen nhw’n creu cyfleoedd i gysylltu, dysgu a rhannu profiadau sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r perfformiad ei hun.

