Sgwrs gyda’n Cyfarwyddwr Artistig

1. Fe wnawn ni ddechrau’n syml – pwy ydych chi, a sut fyddech chi’n cyflwyno’ch hun i rywun newydd?

Richard ydw i a fi yw cyfarwyddwr artistig Opera Canolbarth Cymru. Yn syml, yr hyn rydych chi’n ei weld yw’r hyn rwy’n ei wneud! Fy mhrif gyfrifoldeb yw cyfarwyddo a dylunio’r cynyrchiadau i OCC ond mae llawer mwy i’r gwaith. Mae Opera Canolbarth Cymru yn dîm bach a gyda’n gilydd rydyn ni’n gweithio i greu rhaglen o ddigwyddiadau, prosiectau allgymorth a phrosiectau cymunedol sy’n cefnogi’r prif gynyrchiadau ond sydd hefyd yn adeiladu ac yn cysylltu â’n cynulleidfaoedd a’r cymunedau rydym ni’n gweithio ynddynt.

2. Sut mae diwrnod nodweddiadol yn edrych i chi, a ble/sut mae’r prosiect yma yn ffitio i’ch bywyd?

Does dim byd yn nodweddiadol! Mae gwaith creadigol fel popeth arall yn gofyn am lefel o reolaeth a gweinyddiaeth felly gall diwrnod fod yn gymysgedd o gyfarfodydd, gwaith stiwdio, datblygu strategaethau neu weithdai. Y rhan ddifyrraf wrth gwrs yw’r ymarfer – ar y pwynt yma mae’r holl waith cynllunio wedi’i wneud gobeithio ac mae’n amser bod yn greadigol go iawn, gweithio gyda’r cantorion, y tîm rheoli llwyfan a’r theatrau i saernïo’r perfformiad.

3. Beth wnaeth eich denu ar y dechrau i ymwneud â’r math yma o brosiectau?

Rwy’n credu ei bod yn gyfrifoldeb ar bob artist ar unrhyw lefel i sicrhau bod llinyn o’u gwaith yn ymroddedig i gysylltu â chynulleidfaoedd newydd a hyrwyddo eu celfyddyd. Does dim ots pa lefel rydych chi wedi’i chyrraedd yn eich gyrfa, neu ble rydych chi o ran gwerthfawrogiad, roedden ni i gyd yn dechrau arni ar ryw adeg! Un o’r pethau gorau am brosiectau LlwyfannauAgored OCC fel y cynhyrchiad hwn o Dido & Aeneas yw ei fod yn gyfle i gantorion ar ddechrau eu gyrfa, amaturiaid a gweithwyr proffesiynol weithio ochr yn ochr mewn amgylchedd cefnogol.

4. Rhowch gip inni ar y bobl (neu’r anifeiliaid!) rydych chi’n rhannu eich bywyd â nhw y tu allan i’r gwaith.

Rwy’n byw ar y Gororau yng nghymuned hynod greadigol Llanandras. Y tu allan i opera rwy’n rhan o’r gymuned wych hon o artistiaid ond fy nghydymaith cyson yw Jack Russell bach, diflas ar brydiau, o’r enw Mabel sy’n mynd i bob man efo mi, gan gynnwys yr ymarferion – mae hi wedi cysgu trwy fwy o operâu na’r rhan fwyaf o bobl!

Mabel (Jack Russel Richard)

5. Pa foment o’r 12 mis diwethaf sy’n sefyll allan yn benodol i chi mewn ffordd gadarnhaol?

Mae’r un fath bob blwyddyn – ‘Wythnos ysgolion’ lle mae OCC yn mynd i ysgol gynradd ac yn helpu’r plant i ysgrifennu, creu a pherfformio eu hopera fach eu hunain i’w cyd-ddisgyblion a’u rhieni. Mae’n bum niwrnod anhygoel o ddwys ond mae’n gymaint o bleser creu’r atgofion parhaol gyda chenhedlaeth newydd sydd weithiau’n darganfod y celfyddydau am y tro cyntaf.

6. Ac ar yr ochr arall, beth sydd wedi bod yn anoddach, a sut wnaethoch chi ymdopi?

Nid un digwyddiad penodol ond y frwydr barhaus o godi arian. Os ydyn ni am barhau i gyflwyno opera fyw ledled Cymru, teithio i bob cornel a chymuned am brisiau fforddiadwy mae angen cefnogaeth arnom ni a gan fod cyllid i’r celfyddydau yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn dros y byd mae’r frwydr i ddal i fynd yn mynd yn anos.

7. Beth sy’n eich ysgogi pan fydd pethau’n teimlo’n heriol, mewn bywyd neu o fewn y prosiect?

Rhaid i chi gamu’n ôl, anadlu a meddwl am yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni, hyd yn oed os nad yw pethau’n berffaith neu ddim yn troi allan yn union fel roeddech chi’n obeithio, mae’r ymdrech yn beth cadarnhaol bob amser.

8. Oes ‘na rywun rydych chi’n ei edmygu sydd wedi eich dylanwadu?

Mae ‘na fwy nag y gallaf eu crybwyll ond mae’n werth cofio ein bod yn sefyll ar ysgwyddau’r rhai a ddaeth o’n blaenau, boed yn gyfansoddwr yr opera rydych chi’n gweithio arni neu’r athro cerdd a roddodd yr hwb a’r hyder i chi ddilyn eich diddordeb (diolch Mrs Wilson!)

9. Pe byddech chi’n cael dewis un pŵer i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, beth fyddai’r pŵer hwnnw?

Rydw i wedi dweud hyn o’r blaen mewn cyfweliadau – y gallu i newid amser. Mae amser yn lleddfu, yn rhoi lle i chi fyfyrio cyn symud ymlaen mewn unrhyw gyfeiriad penodol. Byddai’r byd yn lle gwell pe bai mwy o amser wedi ei roi i rai penderfyniadau!

10. Beth yw rhywbeth bach (neu syml) sy’n dod â llawer o fodlonrwydd i chi?

Gwylio Mabel yn syrthio oddi ar wal yr ardd am fod rhywbeth yn mynd â‘i sylw.

11. Pryd oedd y tro diwethaf i rywbeth annisgwyl wneud i chi chwerthin?

Eto – unrhyw beth mae Mabel yn ei wneud a phob tro mae un o’r cantorion yn cyrraedd yn hyderus i’r lle anghywir ar y llwyfan – jest doniol.

12. Pe baem yn rhoi rhyddid llwyr a chyllideb ddiderfyn i chi, beth fyddech chi’n hoffi ei greu neu ei wneud gydag Opera Canolbarth Cymru?

Yn yr hinsawdd bresennol, creu ateb i sicrhau cyllido etifeddol i bob un o’r celfyddydau.

13. Beth yw eich hoff olygfa neu ddarn o opera i’w gynhyrchu / berfformio / gwylio a pham?

Y sioe rydw i’n gweithio arni ar hyn o bryd yw’r ateb ‘cywir’ bob tro (ond rhyngoch chi a fi The Barber of Seville, Rossini – dwi wrth fy modd gyda slapstic a theatr yr absẃrd…)

14. Pe byddech chi’n gorfod cynrychioli eich gwlad ar lwyfan byd-eang, beth fyddech chi’n dewis ei wneud?

Wel, dim chwaraeon ond rwy’n sibrydwr cŵn da iawn.

15. Gall cerddoriaeth fod yn bwerus, a oes darn o gerddoriaeth rydych chi’n dod yn ôl ato dro ar ôl tro, a pham ei fod o bwysig i chi?

Mae sawl un, ond un o’r rhai mwyaf pwerus yw Galarnad Dido ar ddiwedd yr opera. Fe wnes i ei chyfarwyddo am y tro cyntaf y bore ar ôl y diwrnod y bu fy nhaid farw, ac roedd yn arwr llwyr i mi. Mae’n un o’r darnau hynny sy’n fy ngadael yn agored yn emosiynol – sy’n beth da iawn ond alla i ddim dal i’w ailadrodd yn yr ymarferion. Rydyn ni’n siarad trwy’r aria, yn rhedeg trwyddi unwaith ac yna mae’n rhaid i mi adael.

16. Tipyn o hwyl – pa un o’r rhaglenni teledu cystadleuol ydych chi’n meddwl y byddech chi’n rhagori arni ar y slei? Goroesi mewn jyngl, canu, talent, coginio ac ati.

Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n rhagori ond fe fyddwn i wrth fy modd yn ceisio gwneud i Keith Brymer Jones grio ar y Great Pottery Throwdown.

17. Os gallech chi wahodd unrhyw bedwar o bobl i swper, pwy fydden nhw a beth fyddai ar y fwydlen?

Tracey Emin, Lucien Freud, Hogarth a Daisy May Cooper. Fe fydden ni’n gloddesta ar siarc Damien Hirst mewn protest yn erbyn cyffredinedd ei waith diweddarach…

19. A oes lle sy’n teimlo’n arbennig o ystyrlon i chi, rhywle rydych chi’n dychwelyd iddo neu’n meddwl amdano’n aml?

Desg fy stiwdio. Hapusrwydd yw beiro a darn o bapur a chael creu.

20. Yn olaf, beth mae bod yn rhan o’r prosiect hwn wedi ei olygu i chi hyd yn hyn neu pa effaith mae prosiectau tebyg wedi eu cael arnoch chi?

Nid yr ystumiau crand na’r perfformiadau caboledig yw’r pethau mwyaf, ond y momentau bach o gysylltiad, pawb yn gweithio at yr un nod.

Related Posts

Gadewch Sylw

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.