Mae’r dyddiadau hyn i gyd yn y gorffennol.
Daw tymor straeon tylwyth teg Opera Canolbarth Cymru i ben gyda chynhyrchiad newydd o glasur Humperdinck o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Hansel a Gretel. Fe’i seilir ar stori dylwyth teg y brodyr Grimm, lle caiff dau blentyn eu halltudio i’r goedwig gan eu rhieni rhwystredig a newynog. Yno, maent yn crwydro i grafangau gwrach ddrwg sydd â’i bryd ar eu pesgi a’u troi yn dorthau sinsir, cyn cael ei threchu ar yr eiliad dyngedfennol.
Mae gwaith pwysicaf Humperdinck wedi bod yn un o brif gynhalwyr tai opera dros y byd ers y perfformiad cyntaf yn 1893. Digwydda mewn byd unigryw ei sain, llawn telynegiaeth gyfoethog ac apêl felodaidd sy’n plethu’r gerddoriaeth yn dynn gyda chanu gwerin, lle daw anturiaethau’r plant yn fyw.
Cenir y cynhyrchiad newydd hwn yn Saesneg gyda chast o gantorion ifanc proffesiynol, a bydd corws o blant lleol i’r theatr yn ymuno ym mhob lleoliad. Creodd Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness, offeryniaeth newydd arbennig ar gyfer sgôr wyrthiol Humperdinck, a berfformir gan gerddorfa bartner OCC, Ensemble Cymru.
David Truslove, Opera Today
“Now on tour across Wales until March 23rd, this show will charm and captivate … Mid Wales Opera has done it again and delivered a corker of a production.”
Cerddoriaeth: Engelbert Humperdinck
Trefniant Cerddorfaol: Jonathan Lyness
Libreto: Adelheid Wette
Yn seiliedig ar stori dylwyth teg y brodyr Grimm
Cyfieithiad Saesneg: David Pountney
Arweinydd: Jonathan Lyness
Cerddorfa: Ensemble Cymru
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Hansel – Charlotte Badham
Gretel – Alys Mererid Roberts
Tad – Philip Smith
Mam/Gwrach – Rebecca Afonwy-Jones
Tylwyth Teg y Gwlith – Siân Roberts
Huwcyn Cwsg – Beca Davies
Act 1 a 2: 60 munud
EGWYL
Act 3: 40 munud
Richard Bratby, The Arts Desk
“if there’s one thing that this company does supremely well, it’s putting on an entertaining show….If you’re in the business of taking opera to Abermule and Llandinam, you either give your public a great night out or you fold.”
Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.