Mae’n Noswyl y Nadolig, uwch strydoedd Paris mae cnoc ar y drws yn ddechrau i stori garu ddiamser y bardd Rodolfo a’i gymdoges, Mimi. Teimla eu carwriaeth ledrithiol fel gwyrth y Nadolig, ond mae ias oer y gaeaf yn drech na gwres eu nwyd – mae Mimi yn ddifrifol wael, ac ni all Rodolfo na’i gyd-fohemiaid fforddio’r help sydd ei angen arni.
O groglofft myfyriwr i strydoedd bywiog Montmartre, mae gorchestwaith Puccini’n dathlu grym cariad a chyfeillgarwch. Ensemble Cymru sy’n perfformio sgôr odidog o atgofus Puccini, gyda rhai o ariâu mwyaf poblogaidd y byd opera yn creu naws caffi ym Mharis yn ogystal â realiti oeraidd ffordd o fyw o’r llaw i’r genau y bohemiaid.
Cerddoriaeth Giacomo Puccini
Trefniant Cerddorfaol Jonathan Lyness
Libreto Luigi Illica a Giuseppe Giacosa
Yn seiliedig ar Scènes de la vie de Bohème gan Henri Murger
Cyfieithiad Saesneg Richard Studer
Arweinydd Jonathan Lyness
Cerddorfa Ensemble Cymru
Cyfarwyddwr/Cynllunydd Richard Studer
Cynllunydd Goleuo Elanor Higgins
Rodolfo Robyn Lyn Evans
Mimi Galina Averina
Marcello Philip Smith
Musetta Mari Wyn Williams
Schaunard Dan D’Souza
Colline Emyr Wyn Jones
Benoit/Alcindoro Wyn Pencarreg
Corws Hazel Neighbour
Corws Meinir Wyn Roberts
Corws Elen Lloyd Roberts
Act 1 a 2: 55 munud
EGWYL
Act 3 a 4: 50 munud
Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.