Puss in Boots (El Gato con Botas)

Montsalvatge

OCC LlwyfannauLlai
Hydref 2022

 

David Truslove, Opera Today

“If you’re not familiar with Montsalvatge, there’s no need to worry, for his wonderfully communicative and comic score (not unlike a panto) is packed with engaging tunes”

Opera Today – darllenwch y adolygiad llawn

Mae’r dyddiadau hyn i gyd yn y gorffennol.

Pumed daith LlwyfannauLlai Opera Canolbarth Cymru sy’n tanio ein tymor o straeon tylwyth teg, gyda fersiwn un act o hanes cyfarwydd ‘Pws Esgid Uchel’, El Gato con botas, wedi ei saernïo’n grefftus i un act gan y cyfansoddwr Catalan, Montsalvatge.

Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Barcelona yn 1948 ac anaml y caiff ei pherfformio heddiw. Mae’r stori oesol hon i blant yn adrodd hanes cath ddawnus sydd, yn gyfnewid am het a chleddyf a phâr o esgidiau uchel, yn llwyddo i sicrhau bod ei feistr ifanc (mab i felinydd) yn ennill teyrnas, llaw tywysoges mewn priodas a chastell gan ellyll ar hyd y ffordd.

O’r cychwyn cyntaf mae cerddoriaeth Montsalvatge yn llawn egni, yn soniarus, gyda rhythm gafaelgar, alawon cyfoethog ac effeithiau cerddorol cathaidd! Mae cynhyrchiad OCC yn cynnwys 5 o gantorion, sy’n canu yn Saesneg, a 5 offerynnwr sy’n chwarae trefniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Bydd yr ail hanner yn gyflwyniad steil cabare o eitemau poblogaidd a difyr gan y perfformwyr i gyd.

Cenir yn Saesneg

Sad 15 HydrefSpArC, Trefesgob
Mer 19 HydrefCanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe [gyda dehongliad BSL gan Julie Doyle]
Iau 10 TachweddTheatr Brycheiniog, Aberhonddu Lleoliad newydd
Sad 12 TachweddNeuadd Dyfi, Aberdyfi


Cerddoriaeth: Xavier Montsalvatge
Trefniant y Siambr: Jonathan Lyness
Libretto: Néstor Luján
Cyfieithiad Saesneg: Richard Studer

Perfformir trwy drefniant gyda Faber Music Ltd, Llundain ar ran Peermusic Classical.

Opera: 60 munud
EGWYL
Adloniant ail hanner: 35 munud

Cast

Cath: Martha Jones
Melinydd: Huw Ynyr
Brenin: Philip Smith
Tywysoges: Alys Mererid Roberts
Cawr: Trevor Eliot Bowes

Cerddorion

Ffidil: Elenid Owen
Basŵn: Alanna Pennar-Macfarlane
Trwmped: Jac Thomas
Taro: James Harrison
Piano: Jonathan Lyness

Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cyfarwydwr Cerdd: Jonathan Lyness

 

dod yn fuan

PrifLwyfannau 2023

 

Hansel a Gretel

Cenir y cynhyrchiad newydd hwn yn Saesneg gyda chast o gantorion ifanc proffesiynol, a bydd corws o blant lleol i’r theatr yn ymuno ym mhob lleoliad.

Darganfod mwy

Blog

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.