Mae un o ddramâu mwyaf Shakespeare hefyd yn un o operâu mwyaf Verdi. Dewch i brofi hanes gwefreiddiol am bŵer, ystryw a chwymp echryslon wrth i Macbeth, cadfridog dewr, ildio i berswâd ei wraig, sy’n arwain at ymgyrch ddidrugaredd i ennill gorsedd yr Alban. Sgôr syfrdanol Verdi, gyda’i felodïau ysgubol a’i harmonïau cywrain, sy’n gyrru’r naratif seicolegol gwefreiddiol ac mae Act 4 yn cyflwyno tro modern gyda’r corws hiraethus o ffoaduriaid. Caiff yr opera ei chanu yn Saesneg, gyda chyfeiliant Ensemble Cymru, cast eang a chorysau cymunedol. Cyflwyna Opera Canolbarth Cymru ei gynhyrchiad cyntaf erioed o Macbeth Verdi fel uchafbwynt tymor Shakespeare.
—
Cerddoriaeth: Giuseppe Verdi
Trefniant Cerddorfaol: Jonathan Lyness
Libreto: Francesco Maria Piave
Yn seiliedig ar Macbeth William Shakespeare
Fersiwn Saesneg: Jeremy Sams
Perfformir trwy drefniant gyda Josef Weinberger Limited
—
Arweinydd: Jonathan Lyness
Cerddorfa: Ensemble Cymru
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins
—
Macbeth: Jean-Kristof Bouton
Yr Arglwyddes Macbeth: Mari Wyn Williams
Macduff: Robyn Lyn Evans
Banquo: Emyr Wyn Jones
Boneddiges Breswyl: Rebecca Afonwy-Jones
Acts 1 and 2 70 munud
EGWYL
Acts 3 and 4 60 munud