Credyd: Gwaith celf baner gan Clive Hicks-Jenkins

Hunllef yw Straeon Tylwyth Teg, nid breuddwydion. Maent yn chwarae ar ein hofnau sylfaenol. Y gnoc yn y nos, cangen yn cracio, troed ar y grisiau yn eich deffro o’ch cwsg.

Y straeon yw ein cwmpawd moesol cyntaf, sy’n ein llywio trwy blentyndod, yn rhybuddio am ganlyniadau cyfeiliorni yn ein hieuenctid. Crwydrwch oddi ar y llwybr a bydd y gosb yn gyflym. Tresbaswch ar y bont waharddedig, cefnwch ar y brics melyn, blaswch y ffrwythau gwaharddedig a chewch eich melltithio’n dragywydd, oherwydd bydd y blaidd (neu’r ellyll) yn siŵr o’ch cael chi. Mewn byd o dywysogesau a dreigiau, gwrachod a mamau bedydd, mae marwolaeth yn filain, byth bron yn drugarog ac yn hynod gymhleth…

Mae gan Disney lawer i ateb drosto am buro’r genre – yn animeiddio arswyd mewn technicolor godidog lle mae popeth yn lliw candi ac wedi’i orchuddio â baw unicorn lliw enfys pefriog. Ym myd siwgr a sbeis y stiwdio mae malais wedi’i feddalu. Rhaid inni beidio â sôn gormod am yr erchyllterau sy’n llechu yn y coed. Yn hytrach, rhaid i ni ganu mewn llawenydd a hapusrwydd pur a diniwed – “Canwch blant”, “Canwch!” gyda phrydferthwch a nerth Elsa ar ruthr siwgr, “Canwch” nes i adar y nen, yn gelfydd a chywrain, wehyddu gwisg i chi. “Canwch” nes bydd eich Tywysog yn cyrraedd… Diolch i Dduw nad oedd y parêd yma o goegwychder gorfelys yn bodoli yn y 1890au, rwy’n ofni y byddai opera Humperdink wedi bod yn sioe wahanol iawn…

Mae fersiwn Humperdink yn ffyddlon i isgerrynt tywyll y stori. Mae’r hanes yn chwarae gyda chywirdeb balistig ar y creaduriaid sylfaenol a gaethiwir yn ei naratif, yn blant ac yn oedolion. Yr un yw ofn angerddol y fam sy’n troi ei chefn am eiliad ac yn colli ei phlentyn yn yr archfarchnad, ag ofn Tad a Mam Hansel a Gretel wrth iddynt sylweddoli bod eu gefeilliaid euraid ar goll yn y goedwig.

Onid ydi pob rhiant cariadus, mewn eiliad o rwystredigaeth, wedi anfon ei blentyn ymaith – gan ddatod llinynnau’r ffedog yn gynamserol dros dro. Mae rhieni Hansel a Gretel yn eu caru, ond mae eu sefyllfa yn greulon ac yng nghanol tlodi mawr, gyda her diweithdra’r tad ac ymdeimlad y fam o annigonolrwydd, mae’n hawdd deall pam ei bod wedi sgrechian ar y plant. Am fod Humperdinck yn pwysleisio’r tlodi y mae’r aelwyd yn ei wynebu, rydym yn cydymdeimlo â’r rhieni, pan fyddai’n hawdd ar yr olwg gyntaf eu barnu’n chwyrn yn y golygfeydd agoriadol.

Daw’r arswyd yn Hansel a Gretel o’r pethau cyfarwydd. Mae’r plant yn eu naïfrwydd wedi’u syfrdannu i’r fath raddau gan y danteithion, nes bod perygl dieithriaid yn bell o’u hymwybod. Daw bregusrwydd y plentyn o’i gred ddiwyro yn anffaeledigrwydd yr oedolyn. Nid Hansel a Gretel yw’r rhai cyntaf i gael eu twyllgo gan hen wraig fach ddiniwed. Er bod yr Hugan Fach Goch fach yn methu â gwneud y cysylltiad rhwng dannedd ffyrnig ei mam-gu â’r rhan yng ‘nghinio i ddau’ y blaidd, mae Hansel a Gretel yn anghofio amau cymhelliant y melysydd annisgwyl. Wrth i’r stori fynd rhagddi, cawn ein hunain yn cuddio tu ôl i’r soffa yn sgrechian ‘peidiwch â mynd trwy’r drws!’, fel pe baem yn gwylio ffilm arswyd.

Yng ngwlad hyd a lledrith, fel mewn bywyd go iawn, nid oes dim yn union fel yr ymddengys. Mae nifer ohonom wedi cael ein twyllo gan lygredd yn cuddio tu ôl i fasg normalrwydd. Pan oeddem ni fel plant yn gwylio Jim yn gwireddu breuddwydion ar y sgrin, sut allem ni fod wedi gwybod? Pan oeddem ni’n blant yn gwylio Maggie’n dal ei fflasgiau o sudd betys i ddangos prawf litmws elfennol gyda gwyddoniaeth y gegin – sut allem ni fod wedi gwybod? Yno ar y teledu yn ystafell ffrynt fy Mam, 14 modfedd syfrdanol o ddu a gwyn, roedd hi’n hudo ac yn cyfareddu yn enw addysg a gwyddoniaeth i ddenu’r plant. Sut allem ni fod wedi gwybod, tu ôl i’r ddelwedd euraid ‘ar y llong dda ‘Blue Peter’, fod y Cipiwr Llaeth yn llechu…

Celf gan Clive-Hicks-Jenkins

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.