Eugene Onegin: Cyflwyno… Tatyana

Rydym yn y cyfnod cyffrous o ddod ag elfennau terfynol taith y gwanwyn at ei gilydd – Eugene Onegin Tchaikovsky – sy’n agor yn Hafren, y Drenewydd ar Chwefror 24ain 2018.

Gweler y holl dyddiadau ar gyfer daith Eugene Onegin

I’r rhai nad ydynt yn adnabod y darn, rydym yn awyddus i’ch cyflwyno i un o gymeriadau canolog yr hanes. Wrth wraidd opera Tchaikovsky, a’r nofel fydryddol y mae’r opera’n seiliedig arni, mae hanes Tatyana. Pan ddaw i’r golwg yn yr Act gyntaf, mae Tatyana’n ferch syml o’r wlad, sy’n byw gartref gyda’i mam, ei chwaer a’r nyrs.

Mae’r tryblith yn cychwyn pan gyrhaedda dyweddi ei chwaer, Lensky, o St Petersburg gyda’i gyfaill Eugene Onegin. Mae hi’n ysgrifennu llythyr hir ac emosiynol iddo yn cyfaddef ei chariad – golygfa’r llythyr, a genir yma mewn Rwsieg gan Anna Netrebko, yw un o orchestweithiau soprano enwocaf y byd opera – llawn drama a phathos emosiwn a breuddwydion merch ifanc.

Bydd rhan Tatyana yn ein cynhyrchiad teithiol yn cael ei chwarae gan y Soprano Brydeinig Elizabeth Karani, a astudiodd yn y National Opera Studio ac yn Ysgol Gerddoriaeth a Drama’r Guildhall dan warchodaeth Susan McCulloch. Cyn hynny bu’n hyfforddi yn y Royal Northen College of Music dan warchodaeth Susan Roper.

Meddai Elizabeth:

“Dwi’n meddwl mai’r hyn sy’n gyffrous am Tatyana yw ei bod yn ferch gyffredin, ac er ei bod yn freuddwydiwr, dylai fod yn byw bywyd cyffredin iawn. Ond, mae’r pethau sy’n digwydd iddi a’r siwrnai y mae hi’n mynd arni yn rhoi cyfle iddi archwilio a mynegi ehangder o emosiwn dyfn.

Mae’n hawdd iawn i aelod o gynulleidfa uniaethu gyda hi a’r cymeriadau eraill i gyd yn Eugene Onegin ac mae hyn, law yn llaw â’r gerddoriaeth wych, yn golygu noson ddifyr ac emosiynol iawn.”

Fel y bydd y rhai a welodd The Bear yn gwybod o ail hanner ein perfformiad, caiff llythyr caru Tatyana ei wrthod gen Onegin, sy’n teimlo nad yw wedi ei greu i fod mewn priodas. Ym mharti pen-blwydd Tatyana, caiff ddigon ar gymdogion yn clebran am eu perthynas ac mae’n fflyrtio ac yn dawnsio’n fwriadol gyda chwaer Tatyana, Olga, sydd wedi dyweddïo gyda’i gyfaill Lensky. Mewn cenfigen gynddeiriog, mae Lensky ac Onegin yn dadlau – ac yn cytuno i ymladd.

Erbyn y bore nesaf, mae Lensky, yn llawn edifeirwch, yn cwyno am ei benderfyniad ac yn cyfaddef ei gariad tuag at Olga a’i fod ofn marw yn ei aria ingol, ond ni wnaiff y naill na’r llall dynnu’n ôl ac mae Onegin yn saethu ei gyfaill yn farw.

Aiff pum mlynedd heibio, a gwelwn Tatyana eto yn St Petersburg, bellach yn wraig fonheddig ac yn briod â’r Tywysog Gremin. Cyrhaedda Onegin i’r ddawns yn eu cartref glamoraidd yn y ddinas a chaiff ei gyfareddu ar unwaith gan y fenyw – yr un Tatyana y gwnaeth ei gwrthod yr holl flynyddoedd yn ôl. Mae gweld Onegin eto yn ei hatgoffa o’r hen deimladau o gariad a dyhead, ond mae Tatyana’n benderfynol o aros yn ffyddlon i’r dyn a briododd er nad yw’n ei garu.

Yn ôl ein harfer, bydd ein perfformiadau’n cael eu canu yn Saesneg a cherddorfa hyfryd y daith hon yw Ensemble Cymru, sy’n ymuno â ni am y tro cyntaf.

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Artistig OCC Richard Studer a’r Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness. Cafodd eu cynhyrchiad mwyaf diweddar o Eugene Onegin, ym Mryste yn 2012 ei ganmol yn arw ac ysgrifennodd adolygydd y Guardian:

“Gadewais y theatr yn siglo ar ôl y profiad. Gwireddwyd y cyfan gyda’r gwerthoedd cerddorol gorau, cast anhygoel o gryf ac fe’i portreadwyd yn fyw dan gyfarwyddyd Richard Studer.”

Mae’r tocynnau ar werth yn barod ar gyfer y rhan fwyaf o’r lleoliadau – gweler y dyddiadau a’r manylion isod.

Mid Wales Opera yn cyflwyno Eugene Onegin 2018

Nos Sadwrn 24ain o Chwefror Hafren, y Drenewydd
Nos Fercher 28ain o Chwefror Canolfan Celfyddydau Aberystwyth 
Nos Iau 8fed o Fawrth Pontio, Bangor
Nos Wener 16eg o Fawrth The Riverfront, Newport
Nos Sul 18fed o Fawrth Theatr Clwyd, Mold
Nod Fercher 21ain o Fawrth Theatr Brycheiniog, Brecon
Nos Iau 29ain o Fawrth Ffwrnes, Llanelli
Nos Fercher 4ydd o Ebrill  The Torch, Milford Haven
Nos Fawrth 10fed o Ebrill The Courtyard, Hereford

 

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.