Gyda llai na mis i fynd tan y noson agoriadol yn y Drenewydd ar Fawrth y 4ydd, cawsom gyfle i gael gair gyda sêr ein cynhyrchiad cyntaf erioed o Hansel a Gretel yn yr ymarferion.

Rydym ni’n gweithio gyda rhai wynebau cyfarwydd – gan gynnwys y soprano Alys Mererid Roberts a’r bariton Philip Smith, ein Tywysoges a’n Brenin o daith yr hydref o Pws Esgid Uchel sy’n parhau â’u perthynas tad/merch fel Gretel a’i Thad. Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu rhai newydd-ddyfodiaid i OCC gan gynnwys y gantores Charlotte Badham, a aned yn Plymouth, ac sy’n ymuno â ni fel Hansel.

Cafodd Charlotte ei magu gyda cherddoriaeth werin, a Hansel oedd ei phrif rôl gyntaf yn y coleg felly mae hi wrth ei bodd yn ymuno â’n cwmni i berfformio’r opera chwedlonol hon a ysbrydolwyd gan lên gwerin. Meddai: “Mae’r darn yn frith o themâu cerddoriaeth werin sy’n wirioneddol yn apelio ataf fel canwr – rydw i wedi fy magu’n gwrando ar lawer o gerddoriaeth werin ac fe gewch hyd i mi mewn aml i ŵyl sianti fôr ym mhellafion dyfnaf Cernyw.

Un o’r alawon gwerin mae Gretel yn ei chanu ar ddechrau Act II oedd y gân gyntaf i mi ei dysgu gyda fy athrawes ganu gyntaf erioed yn 7 oed – rydw i braidd yn drist nad yw Hansel yn cael ei chanu ond mae’n dal i deimlo fel cylch llawn.

Rebecca Afonwy Jones

Rydym hefyd wrth ein bodd bod y mezzo soprano o Sir Drefaldwyn, Rebecca Afonwy-Jones, yn ymuno gyda ni ar lwyfan Opera Canolbarth Cymru am y tro cyntaf, a’i hymddangosiad cyntaf erioed yn ei theatr gartref, Hafren, y Drenewydd.

Mae Rebecca, a gafodd ei magu yn Sir Drefaldwyn ac sy’n dal i fyw dim ond 12 milltir o’r Drenewydd, wedi canu i gwmnïau clodfawr ledled Prydain a thu hwnt. Arferai ymweld â Theatr Hafren yn rheolaidd yn blentyn ac mae hi wedi cefnogi ffrindiau oedd yn ymddangos ym mherfformiadau blaenorol OCC – ond hwn fydd y tro cyntaf iddi hi ei hun berfformio yno. Mae hi’n ymuno â ni yn y ddwy ran Mam/Wrach ac yn dychwelyd i’w sir enedigol a’n sir enedigol ninnau, Sir Drefaldwyn i ganu yn ei chynhyrchiad MWO cyntaf.

Meddai Rebecca:- “Pan oeddwn i’n blentyn roedden ni’n arfer gweld pob math o bethau yn theatr Hafren ac rydw i wedi gwylio nifer o gyngherddau BBC NOW ac, wrth gwrs, cefnogi cydweithwyr mewn sioeau OCC yn y gorffennol, ond dydw i erioed wedi perfformio yno. O ystyried mai dyma’r theatr agosaf at fy nghartref – tua 12 milltir! – bydd yn achlysur hyfryd ac rwy’n meddwl efallai y bydd ychydig o ffrindiau a pherthnasau lleol yn ffendio’u ffordd yno i’n cefnogi ni!

Mae Hansel a Gretel yn seiliedig ar stori dylwyth teg y Brodyr Grimm. Caiff dau blentyn eu halltudio i’r goedwig hud gan eu mam lwglyd, rwystredig. Pan ddaw eu tad adref a chlywed lle mae’r plant, mae’n datgelu i’w mam wir arswyd y Wrach, ac mae’r ddau’n brysio i ddod o hyd iddynt.

Yn y cyfamser, allan yn y coed, mae’r ddau blentyn yn mynd ar goll cyn crwydro i grafangau’r Wrach sy’n benderfynol o’u pesgi a’u troi’n ddynion sinsir. Ar y funud olaf mae’r Wrach yn cael ei thwyllo, a datgelir mai plant sy’n aros i gael dod yn ôl yn fyw yw’r ffigurau sinsir sy’n amgylchynu tŷ’r Wrach.

Mae’r soprano o ogledd Cymru, Siân Roberts, a gafodd ei magu yn Llandrillo-yn-Rhos, hefyd yn perfformio am y tro cyntaf gydag OCC, gan chwarae rhan Tylwyth Teg y Gwlith yn opera dylwyth teg Humperdinck Hansel a Gretel yn Pontio ym Mangor.

Meddai Sian: “Rwy’n caru Gogledd Cymru ac rwy’n ôl yno cyn amled â phosib i weld fy nheulu, dwi wir yn meddwl nad oes unman harddach! Fy rôl yw Tylwyth Teg y Gwlith! Rwy’n deffro’r plant o’u cwsg ac yn croesawu’r bore. Er mai dim ond rhan fach yw hi, mae’n rhan mor hwyliog ac yn gwireddu breuddwyd plentyndod – onid oedd pawb eisiau bod yn dylwyth teg pan oedden nhw’n fach?!

Bydd plant o gorau lleol ac ysgolion theatr yn ymuno ag OCC ym mhob un o’n lleoliadau i berfformio corws plant yr opera mewn cyfieithiad Cymraeg newydd gan y tenor sy’n un o wynebau cyfarwydd OCC, Robyn Lyn Evans. Bydd ein corws plant cyntaf yn dod o Ysgol Theatr Ieuenctid MA yn y Drenewydd a berfformiodd i gynulleidfa lawn yn eu theatr gartref hwy a’n theatr gartref ninnau fis diwethaf mewn digwyddiad codi arian ‘Stand Up to Cancer’.

“Am gyfle” meddai Melanie Jayne Lee, sy’n cynnal dosbarthiadau ysgol lwyfan y celfyddydau cerddorol yn y Drenewydd a’r Trallwng, yn cynnig hyfforddiant actio, dawns a chanu i bobl ifanc rhwng 4 a 18 oed. Mae hi wrth ei bodd bod ei phlant wedi cael eu gwahodd i fod yn rhan o berfformiad y noson agoriadol.

Mae ein perfformwyr proffesiynol yn edrych ymlaen at gael cwmni sêr y dyfodol ar y llwyfan – Rachel Morás o Abertawe, a berfformiodd ddiwethaf gydag OCC fel y Wrach yn ein cynhyrchiad cymunedol LlwyfannauAgored o Dido ac Aeneas adeg y Pasg 2019 ac sy’n ddirprwy ar gyfer rhan y Wrach ac yn cymryd rhan fel corws. Meddai: “Mae’n hyfryd bod y plant yn mynd i fod yn ymuno â ni, mae’n mynd i ychwanegu rhywbeth arbennig iawn i’r cynhyrchiad. Rwy’n meddwl eu bod nhw’n mynd i fod mor wrth eu boddau’n ymuno, mae’n mynd i fod yn hyfryd.”

Mae Rachel yn edrych ymlaen at weld yr antur sydd ar y gweill – ac at ei rhannu gyda chynulleidfaoedd ar draws Cymru a’r gororau. Meddai: “Mae cymaint o gyffro yn gysylltiedig â Hansel and Gretel, y stori hyfryd, gyfarwydd, y gerddoriaeth hyfryd sy’n eich tywys o olygfa i olygfa.

Yr antur y maen nhw arni, y peryglon maen nhw’n eu hwynebu, mae yna hwyl a chyffro, ac rydw i wrth fy modd gyda’r ffaith eu bod yn trechu’r wrach ac yn achub eu hunain trwy fod yn gyfrwys a dewr. Rydw i wrth fy modd gyda’r gerddoriaeth hyfryd ac atmosfferig. Mae’n llwyddo i fod yn hardd ac ar yr un pryd yn rhoi ymdeimlad o berygl eu sefyllfa a’r drygioni blasus yn ystod Reid y Wrach gyffrous. Mae’n ddarn gwych llawn antur a gobaith.

Bydd Hansel a Gretel yn agor yn Theatr Hafren, y Drenewydd ddydd Sadwrn Mawrth y 4ydd ac yn teithio Cymru drwy fis Mawrth yn ogystal ag ymweld â’r Courtyard, Henffordd. Mae’r dyddiadau a’r manylion i gyd ar y tudalen Hansel a Gretel. Mae’r cynhyrchiad yn addas i blant 8 oed a hŷn.

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.