Fy Mywyd yn y Byd Opera – Lydia Bassett Cyfarwyddwr Gweithredol OCC

Yn ystod ein taith o opera gomedi glasurol William Walton, The Bear – sy’n ymweld ag 16 lleoliad dros Gymru yn ystod y mis yma ac yn mynd dros y ffin i Lwydlo – cawsom gyfle i gael sgwrs gyda’n Cyfarwyddwr Gweithredol Lydia Bassett, sydd wedi gweithio gyda’r cwmni ers blwyddyn a hanner bellach. Mae hi’n gantores gorawl, yn ffliwtydd, yn fam i ddau ac yn byw yn Sir Drefaldwyn. Cawsom ei holi ynglŷn â’i llwybr i’r rôl a gwerth teithio i’r lleoliadau hyn sy’n fannau anarferol i opera arferol.

Wnewch chi gyflwyno eich hun a’ch swydd yn OCC?

Lydia Bassett, ac rydw i’n gyfarwyddwr gweithredol yn Opera Canolbarth Cymru. Mae’n swnio fel llond ceg, ond mae’n golygu codi arian, cynllunio, marchnata a sicrhau lleoliadau ar gyfer teithiau – cynnal popeth ond yr agwedd artistig ar daith mewn gwirionedd. Mae’n golygu gwaith tu ôl i’r llenni, a blaen tŷ wrth inni deithio! Fe fydda i’n aml yn gwerthu rhaglenni ar nosweithiau’r perfformiadau gan fy mod i’n teimlo bod adnabod a sgwrsio gyda’n cynulleidfa yn rhan hanfodol o godi arian. Os na fydd y gwaith hwnnw’n parhau, mae perygl inni anghofio’r hyn yr ydym ni’n ceisio ei gyflawni – rhannu ein cariad tuag at opera gyda phawb yr ydym yn eu cyfarfod a chysylltu gyda phobl drwy ein perfformiadau.

Mae fy swydd bresennol yn fy nghadw i’n fwy na phrysur ond mae egni gwirioneddol a naws gyffrous yn y cwmni ar hyn o bryd ac, o feddwl ein bod ni’n sefydliad bychan (gyda phedwar aelod o staff rhan amser) mae gennym ni syniadau mawr iawn.

Beth sy’n arbennig am Opera?

Cychwynnodd fy hoffter o opera gyda’r ffilm Room with a View ac O Mio Babbino Caro Puccini – os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r gân, gwrandewch ar Maria Callas.

Fe allai hi doddi’r galon galetaf (sef testun y gân… fy nhad, gad imi gael fy ffordd fy hun a phriodi’r gŵr ifanc anaddas hwn neu mi daflaf fy hun i’r afon)… doeddwn i ddim yn gwybod am y darn felly holais fy athro cerdd yn yr ysgol. Tynnodd fy sylw at albymau Puccini yn y llyfrgell (rydym ni’n sôn am gyfnod cyn google a chyn CDs yn fan hyn) Dydw i ddim yn arbenigwr ar opera, rydw i’n dysgu wrth fynd, sy’n golygu fy mod i’n adnabod y sioeau yr ydw i wedi gweithio arnyn nhw’n drylwyr iawn ond rydw i’n darganfod gwaith newydd drwy’r amser. Fe’m magwyd ar aelwyd llawn cerddoriaeth, o Jas yr 20au/30au i ganu enaid y Gogledd drwy ganu popeth o Handel i Andrew Lloyd-Webber yn yr ysgol. Rydw i wrth fy modd gyda drama ac emosiwn opera – a’r cyfuniad o’r wledd theatraidd a phŵer y llais fel dull mynegiant.

Pa bryd y dechreuodd y gwaith ar Lwyfannau Bach 17?

Cychwynnais weithio ar Llwyfannau Bach yng ngwanwyn 2016 am fod fy ngwaith yn dechrau gyda chodi arian ar gyfer prosiectau. Mae’n bleser gennym ni gael cefnogaeth Sefydliad Ashley Family Foundation, Foyle Foundation a Nidec/Control Techniques ar gyfer y daith hon, a fyddai hi ddim yn bosibl hebddynt. Rydym ni’n ymweld â 15 lleoliad gwahanol yng Nghymru ac ar ôl inni sicrhau’r arian, cychwynnais drefnu’r theatrau/eglwysi/neuaddau a’r lleoliadau eraill. Mae rhai ohonynt yn rhan o raglen Noson Allan wych Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n gwarantu cynyrchiadau ar gyfer hyrwyddwyr cymunedol. Mae rhai ohonynt yn theatrau bach yr ydym wedi gweithio ynddynt o’r blaen ac mae un yn digwydd mewn partneriaeth â Phenwythnos y Gaeaf Gŵyl y Gelli. Mae’r arian yn cael ei godi’n benodol ar gyfer lleoliadau gwledig, ac roeddem yn awyddus i sicrhau ein bod yn cyrraedd pob rhan o Gymru – rydym yn bendant wedi gwneud hynny gyda’r daith hon! Y perfformiad diwethaf a drefnwyd ar y daith oedd un Ystafelloedd Cynnull Llwydlo. Roedden nhw mor awyddus i gael sioe yno, fe wnaethom ni wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd.

Beth yw’r syniad sy’n wraidd i brosiect Llwyfannau Bach?

Cyrhaeddodd syniad Llwyfannau bach gyda Jon a Richard pan gymerodd y ddau awenau artistig OCC y llynedd – ond buan iawn y mabwysiadodd pawb y syniad. Mae ein Rheolwr Cynhyrchu, Bridget, wedi gweithio yn y theatr ers blynyddol a theithio gyda Theatr Powys ac Opra Cymru i lawer o’r mannau yr ydym yn ymweld â hwy. Roedd fy swydd flaenorol yn golygu gweithio gyda rhwydwaith o leoliadau o gwmpas canolbarth Cymru ac rydw i wedi mwynhau uniongyrchedd theatr a berfformir ar lwyfannau bach. Rydym yn ymweld â Chanolfan Les Ystradgynlais, sydd yn un o’r theatrau yr ydw i wedi gweithio iddi cyn hyn – lleoliad perffaith i The Bear!

Pam y dewisoch chi/ y tîm The Bear?

Y syniad gyda Llwyfannau Bach yw ein bod yn defnyddio darnau operatig un awr, un act o’r ugeinfed ganrif na fyddai modd iddynt gael eu perfformio ar ein prif daith. Mae angen iddynt fod yn ddigrif ac yn hygyrch, a bod â chast ac ensemble bychan. Maent hefyd yn cysylltu’n thematig â’n prif gynyrchiadau, felly mae The Bear yn rhannu thema Rwsiaidd â thaith Eugene Onegin Tchaikovsky yng ngwanwyn 2018. Mae gennym amserlen glir o sioeau hyd at 2022. Fel y gallwch ddychmygu, mae opera’n gofyn llawer o waith cynllunio! Roedd The Bear yn lle gwych i ddechrau! Mae’r opera’n 50 eleni, yn cyd-fynd â dathliadau R17 – canmlwyddiant y chwyldro yn Rwsia – ac yn ddifyr dros ben!

Pwy fyddech chi’n hoffi eu denu i’r sioeau?

Mae delwedd opera’n tueddu i fod yn neilltuedig – mae rhai pobl o’r farn mai picnic champagne a hetiau ffansi yw’r cyfan – ond nid felly mae The Bear. Rydym yn perfformio mewn neuaddau pentref, eglwysi a sefydliadau glowyr ac mae’r tocynnau’n costio tua £10.

Rydym eisiau dennu pobl sy’n mwynhau’r theatr ond heb weld opera, neu’n mwynhau cerddoriaeth glasurol ond ddim yn teimlo fod opera wedi bod yn rhywbeth iddyn nhw. Y syniad yw cael gwared ag unrhyw rodres a dennu pobl i weld y gwaith yn hytrach nag i weld beth mae pawb arall yn ei wisgo. Os hoffech chi noson ddifyr allan, dyma achlysur ardderchog! Dewch â’ch ffrindiau, mwynhewch lymaid yn ystod yr egwyl a sgwrs gyda’r Cyfarwyddwyr Artistig ar ôl y perfformiad. Bydd raffl yn llawer o’r lleoliadau hefyd!

Beth sydd nesa’ i OCC?

Ein prif daith y gwanwyn nesaf fydd Eugene Onegin Tchaikovsky. Rydym yn ymarfer ac yn agor y sioe yn Theatr Hafren, Casnewydd ddydd Sadwrn, 24 Chwefror 2018 ac rydym yn teithio i Aberystwyth, Bangor, Casnewydd, Yr Wyddgrug, Aberhonddu, Llanelli, Aberdaugleddau a gorffen yn Henffordd ar Ebrill 10. Mae’n ddarn hyfryd ac i mi mae’r gwrthgyferbyniad ynddo rhwng yr elit dinesig soffistigedig y mae Eugene Onegin yn perthyn iddo a symlrwydd a gonestrwydd bywyd gwledig yr arwres Tatyana yn adlais o rai o’r materion cysylltiedig â byw yng Nghymru wledig. Edrychir ar y ffordd yr ydym yn newid oherwydd y ddysg a gawn o grud i fedd.

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.