Puccini’n swyno gyda synau’r Seine – creu trefniant cerddorfaol newydd ar gyfer Il tabarro

Dechreuodd ein Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness ei lafur cariad, creu sgôr newydd i bedwar offeryn allu perfformio Il tabarrogan Puccini, ym mis Chwefror 2019. Nawr, flwyddyn yn hwyrach na’r disgwyl oherwydd pandemig Covid, mae’n paratoi’r rhannau offerynnol yn barod i’w hanfon at ei dri gyd-gerddor a dod â’r gwaith yn fyw am y tro cyntaf ar daith LlwyfannauLlai. Yn ei flog diweddaraf mae Jon yn ein cyflwyno i Il tabarro, a Pharis y 1900au gyda’r nos a greir yn atgofus gan Puccini.

Mae’n ymddangos bod Puccini wedi teimlo perthynas arbennig â Pharis, i’r graddau nes bod OCC, wrth lunio ei dymor “Puccini ym Mharis” yn cael trafferth yn dewis gwaith. Er mai cyfansoddwr Eidalaidd oedd Puccini, nid oes amheuaeth ei fod wedi treulio ei fywyd yn cyfansoddi operâu wedi eu gosod mewn mannau eraill. Mewn trefn gronolegol, gosododd ei operâu yn yr Almaen, Fflandrys, Ffrainc / America, Ffrainc, yr Eidal, Japan, America, Ffrainc, Ffrainc, yr Eidal, yr Eidal a Tsieina. Mae stamp Puccini, fel pob cyfansoddwr gwych, yn amlwg ar bob un ohonynt, a hynny’n baradocsaidd o ystyried mor dda mae’n llwyddo i ymgolli yn lliw cerddorol y lleoliad daearyddol y mae’n ei fabwysiadwyd dros dro.

Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer Il tabarro i Puccini ym 1912 pan welodd, ym Mharis, y ddrama La Houppelande (Y Clogyn) gan Didier Gold. Roedd Puccini yn dymuno o’r dechrau cyfansoddi tair opera un act i gael eu perfformio gyda’i gilydd mewn un noson ond dim ond yn 1916, ar ôl iddo gwblhau Il tabarro yr aeth i’r afael â’r ddau bwnc newydd a grëwyd gan y dramodydd ifanc, Giovacchino Forzano: Suor Angelica (wedi’i gosod mewn lleiandy yn Siena) a Gianni Schicchi (wedi’i gosod yn Fflorens ac wedi’i seilio ar linellau o Infernogan Dante). Gweithiodd Puccini yn gyflym ar ei ‘opera lleian’, fel y’i galwodd, a Gianni Schicchi, gan orffen y ddwy erbyn Ebrill 1918.

Nesaf, roedd angen teitl cyffredinol ar y tair opera, ac ystyriwyd syniadau amrywiol, megis trinomio (trinomaidd), treppiede (trybedd) a triangolo (triongl!). Yn y diwedd dewiswyd Il trittico (triptych), er bod hwn yn gamenwad mewn gwirionedd. Mae triptych fel arfer yn un gwaith celf mewn tair adran. Ni ddyfeisiwyd tair opera Puccini â thema gyffredin, er bod rhai wedi ceisio dod o hyd i un, fel y syniad eu bod yn adlewyrchiad o Inferno, Purgatorio a Paradiso Dante, neu fod nodwedd plot ‘marwolaeth gudd’ yn cysylltu’r tair . Beth bynnag, Il trittico oedd hi ac, oherwydd y rhyfel, cynhaliwyd y premiere yn Y Met yn Efrog Newydd. Rhagfyr 1918 oedd hi, tua mis ar ôl y Cadoediad, a chan fod teithio trawsatlantig yn dal yn beryglus oherwydd ffrwydrynnau, roedd y cyfansoddwr am y tro cyntaf yn methu â mynychu perfformiadau cyntaf ei opera ei hun.

Ar y dechrau, gwrthwynebodd Puccini i’r syniad y gallai’r operâu gael eu perfformio ar wahân, ond roedd yn amhosibl iddo wadu bod Il trittico yn golygu noson hir. Rydw i wedi gweld Il trittico yn fyw ar y llwyfan, unwaith, gan Opera Cenedlaethol Lloegr, tua 20 mlynedd yn ôl bellach. Mae hi’n noson hir, ond y gwir yw bod y cyferbyniad rhwng pob opera yn cynyddu effaith ddramatig pob un. Ac mae dilyniant naturiol – o felodrama (neu verismo – realaeth Eidalaidd) Il tabarro, i drasiedi ysbrydol Suor Angelica, i gomedi morbid Gianni Schicchi. Bellach fe’u perfformir ar wahân (neu ar y cyd ag operâu un act eraill) mae gan y tair eu cefnogwyr penodol, a heb os pe bai MWO yn perfformio’r tair gyda’i gilydd gallai ein cynulleidfaoedd ddadlau pa un yw’r orau ymysg ei gilydd!

MaeIl tabarro yn cynnwys un o sgoriau mwyaf modern ac argraffiadol Puccini, ac roedd Debussy a hyd yn oed Stravinsky yn ddylanwadau amlwg. Mae thema nofiol gofiadwy’r agoriad – ‘cerddoriaeth yr afon’ – gyda’i symudiad siglog rheolaidd, yn creu llif swrth dyfroedd yr afon Seine, yr ymdrech a’r blinder ar ddiwedd diwrnod gwaith, undonedd bywyd ar y cwch a gwres Paris gyda’r nos. Mae cân waith y badwyr yn torri ar bethau, yn fras ei natur (mae Puccini yn nodi ma ruvido – garw, yn y sgôr) cyn i gerddoriaeth yr afon ddychwelyd, fel y gwna trwy gydol yr opera.

Fodd bynnag, peidiwch â digalonni! Ar ôl y cyflwyniad eithaf llwm hwn, mae’r cyfansoddwr yn bywiogi pethau. Yn gyntaf, cawn gân yfed galonnog gan y Luigi ifanc. Dilynir hyn gan waltz Ffrengig ar organ stryd sy’n hollol allan o diwn; mae Puccini yn sgorio hyn gyda chlarinetau a ffliwtiau ‘allan o diwn’, gan chwarae nid mewn wythfedau ond mewn seithfedau mwyaf. Yna daw gwerthwr caneuon i geisio dennu cwsmeriaid gyda chân fer yn adrodd stori Mimi, sy’n cynnwys cyfeiriad cerddorol clir at Mimi gan Puccini ei hun o’i opera gynharach La bohème. Nid Puccini oedd y cyntaf i gyfeirio at ei gerddoriaeth ei hun; Gwnaeth Mozart hynny yn Don Giovanni, a Wagner yn Die Meistersinger.

Cyrhaedda La Frugola, y casglwr rhacs, gan hercian gyda sach yn llawn hen bethau, gan gyrraedd i gasglu ei gŵr Talpa. Mae ganddi ddwy gân, y ddwy yn gyntefig a braidd yn afreal, ac mae’r gyntaf yn cynnwys pizzicato diddiwedd, nodiadau bas aflafar gydag addurnodau sy’n swnio’n swta a rhan lle rhoddir y cyfarwyddyd imitando il gatto – swnio fel cath, i’r cerddorion, sydd wedi dysgu gwneud hyn yn gynnar yn eu hyfforddiant! Nid yw ail gân La Frugola yn llai swrrealaidd – cân seiliedig ar ymadrodd, lle mae un nodyn o yn cael ei ailadrodd lawer gwaith.

Pan fo La Frugola yn gadael y llwyfan o’r diwedd fe’n gadewir gyda’n tri phrif gymeriad – Giorgetta, ei gŵr Michele, a’i chariad ifanc Luigi. Mae’r triongl cariad hwn sy’n mudferwi wedi bod yno yr holl amser, yn loetran yn y gwres a’r cysgodion. O’r fan hon ymlaen, serch hynny, does dim troi’n ôl, ac mae’r opera’n dod yn ddarn chwimwth o ffilm noir. Dim ond Humphrey Bogart sydd ar goll wrth i Puccini ein rhuthro ymlaen gyda’i ddawn ddramatig amlwg a’i frys telynegol tuag at gasgliad trychinebus yr opera. Dim ond un waith yr oedir ar y ffordd, i bâr o gariadon gyda’r nos, yn crwydro glannau’r afon a galwad biwgl o’r barics pell.

Er gwaethaf y ffaith bod Puccini’n defnyddio cerddorfa fawr, disgrifiwyd y sgôr fel un o ‘gerddoriaeth siambr gerddorfaol’, gyda’r llinellau cerddorfaol fel pe baent wedi ‘eu llunio gyda phen yn lle brwsh’. Wrth edrych trwy’r sgôr wrth baratoi i greu’r trefniant siambr i OCC roedd yn ymddangos i mi y byddai’r cyfuniad o offerynnau yr oeddwn wedi’u defnyddio o’r blaen ar gyfer L’heure espagnole OCC yn fuddiol – sef telyn, ffidil, basŵn a phiano, gyda rhywfaint o offerynnau taro bach. Dechreuais weithio ym mis Tachwedd 2019 a chwblhau drafft o’r sgôr ym mis Chwefror 2020. Trwy gydol y pandemig rydw i wedi dal i botsian gyda’r sgôr, a nawr wrth i mi ysgrifennu rwy’n paratoi’r rhannau offerynnol eithaf anodd i’r cerddorion. Mynnodd Puccini fod yn rhaid codi’r llen cyn i’r gerddoriaeth ddechrau, fel bod argraff gyntaf y gynulleidfa yn un weledol. O ystyried nad oes llen ar gyfyl yr un o LwyfannauLlai OCC, dyna’r sialens gyntaf wedi ei chyflawni o leiaf!

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.