Trouble in Tahiti gan Bernstein: Beth yw ystyr y teitl?

Treuliodd fy nai Ed Lyness fis Awst yn perfformio mewn sioe newydd wych o’r enw Ada and Bron: The Origin of Love yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Roedd llu o berfformiadau dros sawl wythnos, ac rwy’n crybwyll hyn oherwydd, yn rhyfedd iawn, roedd yr holl berfformiadau yn dechrau am 11.00pm! Fe wnaeth hyn fy nharo fel amser cychwyn braidd yn anwaraidd ar gyfer sioe, ac yna cofiais fod perfformiad cyntaf opera Bernstein, sef Trouble in Tahiti hefyd wedi dechrau am 11.00pm. Felly, roedd sioe Ed mewn cwmni da iawn! Roedd amser hwyr perfformiad cyntaf opera Bernstein, ym Mhrifysgol Brandeis, ger Boston ar 12 Mehefin 1952, yn ddyledus i raddau helaeth am ei fod yn dilyn symposiwm hir ar gyflwr y celfyddydau yn America, a gafodd ei gadeirio gan Bernstein ei hun. Bydd darllenwyr yn falch o wybod, fwy na 70 mlynedd yn ddiweddarach, bod cyfleoedd rheolaidd o hyd i fynd i symposia hirfaith ar gyflwr y celfyddydau yn America ac yma yn y DU!

 

Leonard Bernstein yn gweithio, tua 1950

 

Mae The Origin of Love, a welais yn Llundain yn gynharach yr haf hwn, yn astudiaeth ddoniol o anturiaethau rhamantus, cariadon a pherthnasoedd rhyfedd. Mae Trouble in Tahiti yn astudiaeth drafferthus o’r berthynas rhwng cwpl priod sydd, ar yr wyneb, yn ymddangos yn berffaith, ond o dan y cyfan, mae pethau’n ddiflas iawn. Mae amser cychwyn The Origin of Love, sef 11.00pm, yn ôl pob tebyg yn talu ar ei ganfed i gynulleidfa ifanc sydd â digon o amser ymlaen llaw i fwynhau eu hunain yn y bar. Roedd yn ymddangos nad oedd yr amser cychwyn o 11.00pm i Trouble in Tahiti yn gweddu i’r opera, gan fod y gynulleidfa wedi hen flino ar ôl y symposiwm a chyn i’r sioe ddechrau hyd yn oed. Perfformiwyd The Origin of Love i gynulleidfa mewn theatr fach oedd dan ei sang. Roedd y gynulleidfa o dair mil ym mherfformiad Trouble in Tahiti yn eistedd yn Amffitheatr Ullman yn yr awyr agored a oedd newydd gael ei hadeiladu. Roedd y sain yn wael yno, ac roedd synau coed, trenau a gweithwyr i’w clywed hefyd a oedd yn dal wrthi’n ceisio cwblhau’r gwaith yn y theatr!

 

Torfeydd yn llenwi Amffitheatr Ullman yng Ngŵyl agoriadol y Celfyddydau Creadigol yn 1952

 

Erbyn hyn efallai eich bod wedi dyfalu bod noson agoriadol opera Bernstein, a agorodd Ŵyl Gelfyddydau Creadigol pedwar diwrnod newydd, yn siom. Nid oedd gan Bernstein unrhyw ddewis ond ceisio anghofio am y noson, ac roedd gweddill yr ŵyl oedd wedi’i threfnu, ac a gynhaliwyd yng nghysgod ymgyrchoedd Comiwnyddol McCarthy a phrofi’r bom hydrogen cyntaf, yn llwyddiant mawr. Roedd y rhaglen yn cynnwys prynhawn jazz hanesyddol, y perfformiad cyntaf buddugoliaethus o gyfieithiad Americanaidd newydd o Threepenny Opera, gan Kurt Weill, arddangosfeydd celf, dangosiadau ffilm, trafodaethau llenyddol a llu o gerddoriaeth newydd a gyfansoddwyd yn ddiweddar. Yn ddiweddarach yr haf hwnnw, ailysgrifennodd Bernstein olygfa olaf Trouble in Tahiti, a pherfformiwyd yr opera ddwywaith yn Tanglewood lle cafodd gryn lwyddiant.

Mae The Origin of Love yn ymdrin â tharddiad cariad. Dydy Trouble in Tahiti ddim yn cynnwys unrhyw drafferthion yn Tahiti! Bydd y rhai sy’n gobeithio am anturiaethau ar ynys drofannol yn cael eu siomi. Nid yw’r opera wedi’i lleoli ar Tahiti – mae wedi’i lleoli mewn gwirionedd mewn ‘tŷ bach gwyn’ ar stryd faestrefol weddol gyfoethog mewn tref gymharol gyfoethog a allai fod yn unrhyw le yn America. Mae gwreiddiau’r stori yn deillio o hanes rhieni Bernstein ei hun, a’u henwau oedd Sam a Jennie. Cadwodd Bernstein yr enw Sam, ond newidiodd yr enw Jennie i Dinah, enw ei nain ac enw sy’n haws ei ganu, fel y bydd unrhyw un sy’n hoffi caneuon Fats Waller yn eich hysbysu! I gwblhau’r cast, ychwanegodd Bernstein ‘gorws Groegaidd’ o dri, sef triawd ‘scat’ jazz yn yr achos hwn – sy’n egluro’r cefndir ar y dechrau ac yn parhau i sylwebu’n eironig ar ba mor wych yw popeth.

 

Leonard Bernstein, ei wraig Felicia a’u mab Jamie Bernstein, yn eu cartref yn Hillsdale, Efrog Newydd, haf 1953

 

Felly, beth yw ystyr y teitl Trouble in Tahiti? Mae’r cyfan yn dod yn glir tua thri chwarter y ffordd drwodd. Mae Dinah mewn siop hetiau, ac yn dweud wrth rywun am ffilm mae hi wedi ei gweld y prynhawn hwnnw – Trouble in Tahiti – y math o stori am ramant a ffantasi ym Môr y de roedd Hollywood wedi dechrau dod yn hoff ohoni yn y cyfnod hwnnw. Roedd y sioe gerdd South Pacific wedi ei chyfansoddi ychydig flynyddoedd ynghynt, yn dilyn campweithiau yn y sinema fel Tahiti Honey ym 1943! Gan grynhoi’r plot, sydd yn hollol chwerthinllyd ym marn Dinah, mae hi yn mynd i fyd dychmygol, gan ailadrodd cân fawr y ffilm, sef Island Magic, gyda chefnogaeth ecstatig y triawd ‘scat’, nes iddi ddeffro o’i breuddwyd o’r diwedd a chofio lle mae hi a bod rhaid iddi fynd adref i baratoi swper i Sam!

 

Poster ar gyfer Tahiti Honey (1943), yn debyg i'r ffilm ffuglennol y mae Dinah yn ei gweld. Mae'n ddyluniad wedi'i baentio â llaw, yn nodweddiadol o'r cyfnod, yn cynnwys menyw bert â gwallt tywyll mewn sgert wedi'i gwneud o ddail banana, cerddorion o'r gerddorfa ac arweinydd y band yn chwarae'r piano. Roedd yn ffilm Republic ac roedd Simone Simon a Dennis O'Keefe yn serennu ynddi.

 

Ar wahân i Sam, Dinah a’r ‘triawd scat’, nid oes unrhyw gymeriad arall yn ymddangos yn yr opera. Mae gan Sam a Dinah fab, ‘Junior’, y maen nhw’n ei esgeuluso ac nad ydyn ni’n ei weld. Gwelwn Sam yn siarad ar y ffôn â chydweithiwr busnes – ymddengys mai dyma oes yr operâu ‘ffôn’, gan fod Menotti wedi cyfansoddi The Telephone ym 1947 a La Voix humaine gan Poulenc wedi ymddangos ym 1959. Yn y cyfamser, mae Dinah yn bwrw ei bol wrth seiciatrydd dychmygol ac yn ddiweddarach, wrth gwrs, wrth weithiwr y siop hetiau.

Y thema drwyddi draw yw marwolaeth cariad, a phrin y gallai Bernstein fod wedi bod yn fwy didostur yn agored wrth ddarlunio ei blentyndod truenus a’i rieni digariad. Roedd cynulleidfaoedd cynnar yn ymwybodol o hyn er i Bernstein ei hun, efallai mewn ymdrech i gynyddu ei apêl, fynd ati i ddisgrifio’r gwaith fel “darn ysgafn…wedi’i ysbrydoli gan gân adnabyddus” ac yn deillio o gomedi gerddorol “neu hyd yn oed yn well, Theatr Gerdd America”. Mae’r dyfyniad olaf hwnnw’n wir bob gair, ond nid oedd angen i Bernstein boeni am boblogrwydd y gwaith; gyda’i niferoedd mawr, rhythmau beiddgar, egni ffyrnig a’r ‘triawd scat‘ bythgofiadwy na ddylai, fel y mae Bernstein yn mynnu “fyth stopio gwenu.” Mae’r opera yn sicr wedi dal ei thir yn y repertoire. Cofiwch, bu’n rhaid aros tua 30 mlynedd am y perfformiad cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Gobeithio na fydd rhaid i The Origin of Love aros am 30 mlynedd cyn cyrraedd America!

 

Bernstein tua 1921 gyda’i rieni Samuel a Jennie

 

Related Posts

Gadewch Sylw

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.