Cyn i The Bear fynd i’w gaeafgwsg…

The Bear

Nos da a diolch gan ein Harth fodlon a blinedig.

Cyn i The Bear fynd i’w gaeafgwsg, rydym yn awyddus i ddiolch i bawb a ddaeth i’n taith Llwyfannau Bach gyntaf, ac i’r holl leoliadau a edrychodd ar ein holau mor dda ar hyd y ffordd!

Mae 1199 o bobl i gyd wedi gweld y sioe mewn 16 o leoliadau, o eglwysi a neuaddau pentrefi i theatrau lles glöwr a lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Cawsom dderbyniad ardderchog gan gynulleidfaoedd ym mhobman – gan Amanda o Ystrad Mynach, 19 oed, a welodd y sioe yng Nghwmbrân:

“Perfformiad gwych, cantorion a cherddorion ardderchog, wedi ei roi at ei gilydd yn dda ac yn ffordd ddiddorol iawn o gyflwyno opera.”

Gan ŵr a ymunodd â ni yn y Gelli Gandryll i weld ei opera gyntaf yn 71 oed

“Profiad gwych, opera fyw yn y Gelli Gandryll a’m hopera gyntaf yn 71 mlwydd oed, rhyfeddol”

Cawsom ymateb mewn Rwsieg “ОЧЕН ХОРОШО. СПАСИБО!” – ‘rydym ni’n gobeithio ei fod yn golygu “Da iawn, diolch.”

Ac rydym wedi difyrru pawb, gam gynnwys selogion opera sy’n adnabod ac yn caru opera fel y fenyw yma o Lanandras a gysylltodd â ni ar Facebook:

“Newydd weld/clywed eich perfformiad ardderchog yn Llanandras. Gwych a digrif. Cerddorion a chantorion talentog. Wrth fy modd efo’r holl beth a wnes i ddim stopio chwerthin – erioed wedi gweld opera fel hon. Efallai na fydd angen i mi deithio i Lundain i gael dos o opera o hyn ymlaen. Alla i ddim aros i weld Onegin yn Aberhonddu.”

Roedd grŵp o ferched ifanc yng Nghwmbrân a ddaeth i weld sut beth oedd opera – gan fwynhau pob eiliad, er gwaethaf y diffyg tedi bêr

“Fy nhro cyntaf ac fe wnes i fwynhau, ond roeddwn i’n aros am arth go iawn.”

Diolch yn fawr iawn hefyd i’n lleoliadau – am yr ystafelloedd newid dros dro a sefydlwyd mewn festrïoedd, y cymorth i lwytho a dadlwytho, y te, y coffi a’r amynedd ac am osod posteri a helpu i godi ymwybyddiaeth ymysg cynulleidfaoedd tra’r oeddem ni ar y daith.

Hon yw ein taith gyntaf yn gweithio gyda Noson Allan hefyd – cynllun gwych Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n helpu hyrwyddwyr gwirfoddol i ddod â rhaglenni celfyddydau byw i galon cymunedau ledled Cymru. Diolch yn fawr i hyrwyddwyr Noson Allan yn Aberdaron, Dinbych, Cilgerran, Amgueddfa Aberystwyth, Y Bermo, Aberdyfi, Y Gelli Gandryll a Chwmbrân am fod yn ddewr a rhannu ein gweledigaeth o ddod ag opera i bawb!

‘Doeddem ni ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl o’n taith Llwyfannau Bach gyntaf – roeddem ni’n gwybod ein bod ni eisiau mynd ag opera fyw, gyda threfniant a cherddorion gostyngol yn hytrach na dim ond piano – i fannau na fyddech yn gweld opera fel arfer. Roeddem ni eisiau rhannu ein cariad tuag at opera – a goresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag dod i weld opera.

Rydym ni wedi ein syfrdanu gan y derbyniad a gawsom (yn ogystal â’r gwynt 50 milltir yr awr yn Aberdaron) – diolch o galon! Rydym ni’n cynllunio ein hantur hydrefol ac allwn ni ddim aros i ddod ag opera fyw i gymunedau ledled Cymru yn y Gwanwyn eto gydag Eugene Onegin!

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.