Un tro, comisiynwyd awdur i gynhyrchu stori ddymunol fel llyfr elfennol i blant i’w helpu i ddysgu darllen. Roedd yn teimlo’r fath rwystredigaeth gyda’r rhestr o eiriau rhagnodedig nes iddo, un diwrnod, wrth eistedd wrth ei ddesg benderfynu gwau stori o gwmpas y ddau air cyntaf yn y rhestr oedd yn odli. Y ddau air oedd Hat a Cat, ac yn yr eiliad honno ganed un o hoff lyfrau’r byd a bu’r awdur fyw yn hapus iawn byth mwy.

Pwy sydd ddim yn hoffi anifail mewn gwisg? Bydd chwiliad sydyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos llu o ddelweddau (os ydych chi’n fy amau, yna rhowch ‘dog, fancy dress costume, for sale‘… yn google..) ac mae arwr opera un act fer Montsalvatge, Puss in Boots yn un cymeriad o’r fath – cath anthropomorffaidd mewn pâr o esgidiau enfawr.

Mae naratif Puss In Boots bron mor hen â’r bryniau. Mae’r fersiwn ysgrifenedig gyntaf y gwyddys amdani o gath yn ceisio gwneud ei ffortiwn mewn palas Brenin yn dyddio’n ôl i’r ail ganrif CC yn y Panchatantra – casgliad o Chwedlau Hindŵaidd sy’n seiliedig ar draddodiadau llafar hŷn. Ar ei ffurf Ewropeaidd fodern gellir olrhain y stori i’r cyhoeddiad o tua 1550 gan yr awdur Eidalaidd Giovanni Straparola. Aeth awduron eraill i’r afael â’r chwedl – Basile yn 1634 ac argraffiad mwy enwog yn 1697 gan Charles Perrault, aelod o’r Academie Francaise, dan y teitl ‘Histoires ou contes du temps passe, avec des moralites’ (Straeon o’r gorffennol gyda moeswersi). Is-deitl y llyfr yw Mother Goose’s Tales – teitl mwy cyfarwydd i lawer.

Mae pawb yn gyfarwydd â’r straeon yng nghasgliad Perrault, Little Red Riding Hood, Cinderella, Bluebeard ac ati ac i gynulleidfa fodern mae moeswersi nifer ohonynt yn glir ac amlwg. Fel naratif eponymaidd Dr Seuss, addysgu plant oedd y swyddogaeth, ond nid, fel yn achos The Cat in a Hat, mewn llythrennedd ond fel rhan o’u haddysg foesol. Yr hyn sy’n gwneud i Puss in Boots sefyll allan i ddarllenydd modern yw bod y stori’n ymddangos, yn ein cymdeithas bresennol (ac eithrio o bosib y cynllwynion gwleidyddol presennol) yn groes iawn i addysg ‘foesol’ dda. Yma mae gennym gymeriad sy’n dweud celwydd, yn dwyn, yn twyllo yn fodlon torri unrhyw god moesol modern cyfoes er mwyn cyrraedd ei nod.

Mae Puss in Boots yn stori anfoesol – ond nid, fel llawer o straeon tylwyth teg, yn stori rybuddiol. Yr hyn y mae Pws yn ei gynnig yw’r gobaith, trwy ddiwydrwydd, gwaith caled ac ymrwymiad, y gall hyd yn oed y gwannaf oroesi, cyn belled â’i fod yn gwisgo’n smart ac yn dod yn ‘gymeradwy’ i’w well. Ni allwn farnu Puss in Boots trwy lygaid modern; daeth y stori yn ei ffurf bresennol i amlygrwydd yn ystod yr Oes Oleuedig, cyfnod pan allai gwaith caled a dawn dynion eu dyrchafu i lysoedd uchaf y wlad. Efallai nad yw’n fawr o ddringwr coed ond mae Puss in Boots yn profi ei fod yn wych am ddringo’r ysgol gymdeithasol. Mae Pws yn hunangeisiol, yn hunanddyrchafol ac, a dweud y gwir, yn gnaf. Yn y traddodiad gwerin mae Pws Esgid Uchel yn perthyn i gategori ‘anifail fel cynorthwy-ydd’ ond amharir ar y cymorth y mae’n ei roi i’r melinydd tlawd gan ei nod olaf – sef sicrhau bywyd o foethusrwydd peraidd iddo’i hun.

Portread o Charles Perrault gan Charles Le Brun (manylion)

Mae Pws yn sôn llawer yn y stori am ei angen am bâr o esgidiau gwych, clogyn o sidan coch, cleddyf, byclau arian a sombrero gyda thwffyn o blu. Ym myd Charles Perrault, byddai haen arall o arwyddocâd i’r ffasiynau gwych hyn. Roedd Perrault yn llenor, ond hefyd yn wladweinydd, ac yn gyfrifol am bolisïau artistig a llenyddol Louis XIV fel Ysgrifennydd y Petite Académie a sefydlwyd yn 1663. Goruchwyliodd y gwaith adeiladu yn y Louvre a’r Versailles ac fel ffigwr allweddol yn llys coegwych y ‘Sun King’s’, roedd Perrault yn ymwybodol iawn o’r angen i greu argraff gyda’i wisg. Cyhoeddwyd ei straeon pan oedd yn 69 oed, ar ôl iddo gwympo oddi wrth ras yn llys Ffrainc, ac mae eu helfennau tanseiliol – Cinderella y forwyn yn codi’n uwch na’i chwiorydd bonheddig, y melinydd isel yn esgus bod yn Marquis de Carabas – yn ddyledus i’w arsylwadau ef ei hun o fywydau’r rhai oedd yn rhan o chwyrligwgan cymdeithasol bywyd y palas, lle’r oedd dewedd yn bwysicach na statws cymdeithasol. Ym 1668 pasiodd y Brenin Louis orchymyn oedd yn ei gwneud yn ofynnol i holl ŵyr ei lys wisgo’n ffasiynol, roedd y Brenin ei hun yn gwisgo sodlau coch fel symbol o’i safle uwchben gweddill y ddynoliaeth. Datganodd hefyd y byddai unrhyw un wedi’i wisgo’n ddigon da yn cael mynediad i erddi Versailles – roedd hwn yn fyd y gallai cath, o wisgo’n gywir yn ffasiwn y dydd, edrych ar frenin.

Hawdd yw chwerthin ar y syniad o gath mewn het gywrain ond mae Pws (a Perrault) yn gwybod yn well, oherwydd dyma’r arfau y bydd yn eu defnyddio i sicrhau ei ddyrchafiad i’r palas a phwy a ŵyr efallai hyd yn oed i’r orsedd (am ambell gyntun) a bywyd sy’n ‘hapus byth mwy…’

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.