Crynodeb Eugene Onegin Tchaikovsky

ACT I

Golygfa 1

Ystâd Larin

Mae Tatyana ac Olga’n canu cân werin, tra bod eu mam, Madam Larina, yn hel atgofion am golli ei chariad cyntaf a’r ffaith iddi ddysgu derbyn ei phriodas ddiserch a drefnwyd ar ei chyfer. Cefnoga Filipyevna, nyrs y chwiorydd, farn bragmatig Larina nad oedd y ddelfryd ramantaidd yng nghân y genethod yr un mor bwysig â phriodas gadarn a da yn eu dydd hwy. Daw’r gwerinwyr yn ôl o’r caeau gyda gweddill y cynhaeaf. Dethlir drwy ddawnsio a chanu gydag egni sy’n tarfu ar Tatyana ond sy’n cyffroi Olga. Mae Olga’n tynnu ar ei chwaer bruddglwyfus gyda’i hagwedd gadarnhaol ei hun tuag at fywyd drwy gân a dawns. Mae’r gwerinwyr yn gadael. Mae Madam Larina’n poeni am Tatyana ac yn ei sicrhau mai dim ond straeon ffug yw’r hanesion am gariad mewn nofelau. Cyhoeddir cyrhaeddiad dyweddi Olga, y bardd Lensky, a’i gyfaill Onegin sydd wedi gadael ei fywyd yn y ddinas dros dro i ymweld ag ystâd ei ddiweddar ewythr. Yn breifat, mae’r ddau ŵr yn cymharu rhinweddau’r ddwy chwaer, tra bod Tatyana’n cael ei denu tuag at Onegin soffistigedig ar unwaith, gan ei adnabod fel dyn delfrydol. Ymatebir i ddatganiadau tanbaid Lensky o gariad tuag at Olga gyda phrofocio ysgafn ond hoffus, wrth i Onegin a Tatyana siarad yn fwy difrifol. Mae Filipyevna’n gwylio’r cwpl ifanc yn dawel ac yn poeni ynglŷn â hoffter amlwg Tatyana o’r gŵr hwn.

Golygfa 2

Yn hwyrach, fin nos

Ceisia Filipyevna ddwyn perswâd ar Tatyana i fynd i’w gwely i gysgu, ond mae Tatyana’n aflonydd ac eisiau siarad. Mae Filipyevna’n disgrifio ei charwriaeth anffodus ei hun a’r briodas a drefnwyd ar ei chyfer, gan gynhyrfu Tatyana sy’n datgan ei bod mewn cariad. Ar ei phen ei hun, mae hi’n ysgrifennu i Onegin, gan ddatgan ei chariad yn angerddol a chynnig ei bywyd iddo. Gyda’r wawr, mae Tatyana’n mynnu bod Filipyevna’n mynd â’r llythyr i Onegin. Mae hi’n disgwyl yn anniddig.

Golygfa 3

Yn ddiweddarach, bore

Yn y pellter, mae’r genethod gwerinol ar yr ystâd yn canu wrth weithio. Mae Tatyana’n dal i aros am ateb i’w llythyr pan ymddengys Onegin ei hun. Er iddo gyfaddef bod llythyr Tatyana wedi ei gyffroi, mae’n honni nad all ei charu a bod y syniad o briodas, iddo ef, yn amhosibl. Mae’n gofyn i Tatyana dderbyn ei ymateb fel y gwirionedd ac yn ei dwrdio am fod mor ddi-flewyn-ar-dafod.

EGWYL

Act II

Golygfa 1

Pen-blwydd Tatyana, gyda’r nos

Mae’r cymdogion wedi cynnull i gael parti yn nhŷ Madam Larina. Maent yn dawnsio, yn canu ac yn clebran, yn enwedig am Tatyana ac Onegin. Mae Onegin yn teimlo’n anniddig ac yn chwerw ynglŷn â hyn. Mae’n cael pleser gwyrdroëdig o gythruddo Lensky drwy ddawnsio a fflyrtio gydag Olga. Parha Olga hithau i dynnu ar Lensky drwy ymddangos i ymateb i gynigion Onegin. Daw perygl o ddadl i ben pan ddaw cân i dynnu sylw pawb gan Ffrancwr lleol, Monsieur Triquet, sy’n canu teyrnged ben-blwydd i Tatyana. Pan ddaw’r gân i ben, fodd bynnag, mae’r ddadl yn parhau rhwng Onegin a Lensky ynglŷn ag Olga. Er mawr ddychryn i Madame Larina, mae Lensky’n sarhau Onegin yn agored ac yn ei herio i ornest. Er mawr syndod, derbynnir yr her a daw’r parti i ben â dagrau a dryswch.

Golygfa 2

Cefn gwlad, yn gynnar y bore

Mae Lensky a’i eilydd, Zaretsky, yn aros am Onegin. Mae Onegin yn hwyr a thrafoda Lensky ei gariad tuag at Olga a’r ffaith fod arno ofn marw. Cyrhaedda Onegin, gan ddod â’i was fel ei eilydd. Mae edifeirwch a chariad rhannol y naill tuag at y llall yn mynd drwy feddwl y ddau ŵr. Fodd bynnag aiff yr ornest yn ei blaen a chaiff Lensky ei ladd. Gadewir Onegin yn fud.

EGWYL

Act III

Golygfa 1

Tŷ’r Tywysog Gremin yn St. Petersburg, bedair blynedd yn ddiweddarach

Mae dawns i’r boneddigion yn cael ei chynnal ac mae Onegin yno. Bu’n teithio’n eang drwy lysoedd Ewrop yn y gobaith o anghofio am hunllef marwolaeth Lensky. Ymddengys ei fywyd yn wag a’i fodolaeth yn ddibwys. Delir ei sylw, fodd bynnag, pan gyrhaedda’r Tywysog Gremin a’i osgordd. Mae Onegin yn gweld mai Tatyana yw hi, ac o holi Gremin mae’n dysgu ei bod yn wraig iddo. Trefnwyd y briodas ar eu cyfer ac mae Gremin yn egluro bod ei didwylledd a’i hysbryd wedi dod â serch a bywiogrwydd iddo yn ei henaint. Nid yw Tatyana, sydd wedi adnabod Onegin, yn dangos unrhyw emosiwn wrth gael ei chyflwyno iddo. Mae hi’n gwneud ei hesgusodion ac yn gadael ar fraich ei gŵr. Sylweddola Onegin yn y fan a’r lle ei fod wedi gwneud camgymeriad enfawr a’i fod, yn wir, mewn cariad â hi.

Golygfa 2

Yn ddiweddarach, gyda’r wawr

Mae Onegin wedi ysgrifennu i Tatyana, yn cyfaddef ei gariad. Cyffroir Tatyana, sydd ar ei phen ei hun, gan ei angerdd ac mae hi’n cyfaddef iddi ei hun ei bod yn dal yn ei garu. Yn sydyn, daw Onegin i mewn. Mae Tatyana’n ei atgoffa i ddechrau o’i ymddygiad dideimlad tuag ati. Fodd bynnag mae Onegin yn ei pherswadio fod ei gariad yn ddidwyll ac mae hi’n cyfaddef o’r diwedd ei bod yn ei garu. Mewn dirboen oherwydd eu sefyllfa, gofynna Onegin i Tatyana ddianc i’w briodi ond mae hi’n gwrthod, gan ddatgan ei phenderfyniad i aros yn ffyddlon i’w gŵr. Ar ôl brwydr chwerw â’i chydwybod ei hun, mae hi’n gadael Onegin yn ei drallod, wedi ei ddinistrio gan y cariad a wrthododd.


 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.