Eugene Onegin: Cwrdd â Filipyevna

 

I Maria Jagusz, sy’n chwarae rhan nyrs Tatyana, Filipyevna, yn ein cynhyrchiad o Eugene Onegin, mae soniaredd personol i wreiddiau Rwsiaidd yr opera.

Cafodd Maria ysbrydoliaeth ar gyfer ei phortread o forwyn ffyddlon y teulu gan albwm luniau ei theulu ei hun. Meddai: “Daethum o hyd i lun o fy hen nain a thaid ac fe’i defnyddiais fel pwynt cychwyn ar gyfer y ffordd y gallai Filipyevna edrych.

“Rydw i’n dod o gefndir Dwyrain-Ewropeaidd ar ochr fy nhad a Gwyddelig ar ochr fy mam, felly cafodd fy mhlentyndod ei ddylanwadu’n gryf gan fenywod yr ydw i’n teimlo eu bod yn eithaf tebyg o ran cymeriad i Filipyevna.

“Menywod cariadus, gofalgar, da wedi eu trwytho mewn traddodiadau, ofergoelion a chrefydd. Nid yw Filipyevna’n cwestiynu’r ffaith nad oedd ganddi ddewis ond bod yn briod yn 13 oed. Mae hi’n amlwg yn caru Tatyana’n angerddol.”

Hyfforddodd Maria fel dawnswraig cyn cael lle yn y Royal Northern College of Music, ac mae cerddoriaeth Tchaikovsky wedi bod yn agos at ei chalon erioed – mae hi’n cofio cael ei chyffwrdd gan ei fale, Swan Lake, yn ei harddegau.

Ychwanegodd Maria: “Y diweddar Martin Isepp yn y Stiwdio Opera Genedlaethol a’m cyflwynodd i’r opera. Yn yr un modd â bale’r cyfansoddwr, roeddwn yn gweld y gerddoriaeth yn syfrdanol ac fe alla i ddeall pam ei fod yn annog ymateb emosiynol mor ddwys gan berfformwyr a chynulleidfaoedd.

“Pan fyddwch chi’n ychwanegu stori ardderchog i’r gerddoriaeth epig hon, sut allech chi beidio bod wrth eich bodd!”

Mae’r cynhyrchiad hefyd yn rhoi’r cyfle i Maria fod mewn cysylltiad eto ag Elizabeth Karani, sy’n chwarae Tatyana, a gastiodd mew cynhyrchiad myfyrwyr o Carmen a gyfarwyddwyd ganddi yn Cheltenham flynyddoedd lawer yn ôl – gwnaeth ei pherfformiad fel Micaëla argraff ddofn arni.

Mae cynhyrchiad newydd Opera Canolbarth Cymru o Eugene Onegin yn teithio yn awr   – dyddiadau a manylion yma.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.