Rydym ni wedi bod yn ôl yn yr ysgol y mis yma – yn gyfrifol am y cwricwlwm cyfan am wythnos, yn ysgol Arddlin yn gyntaf ac yna yn ysgol Buttington Trewern, y ddwy ger y Trallwng ym Mhowys.

Rydym ni wedi gweithio gyda 102 o blant cynradd yn ystod y ddwy wythnos breswyl, gyda’r ddwy ysgol yn creu eu perfformiadau unigryw eu hunain i’w rhannu gyda’r plant meithrin a’u rhieni, y ddau berfformiad yn cynnwys straeon a chaneuon gwreiddiol – rydym ni’n dal i hymian rhai ohonynt i ni’n hunain!

Cyfarwyddwyr Artistig OCC Richard Studer a Jonathan Lyness oedd yn arwain yr wythnosau preswyl, gyda’r plant yn ysgrifennu eu caneuon a’u deialog eu hunain, gan greu plotiau a gwneud gwisgoedd o fagiau bin a chynnwys cypyrddau’r ysgolion, oedd yn amrywio o samplau o sari i fwa croes tegan!

Cafodd Jon a Richard gymorth medrus y gantores opera broffesiynol Maria Jagusz a’r ymarferydd theatr Danie Croft – gyda’n Cyfarwyddwr Gweithredol Lydia yn cynorthwyo gyda’r gwisgoedd. Ariennir y cyfnodau preswyl gan Cydweithio Creadigol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru – yn ogystal â bod yn ddifyr dros ben, mae’n weithgaredd sy’n plethu’n dynn ag adroddiadau Estyn yr ysgolion a’u cynlluniau datblygu. Dywedodd Colin Jenkins, Prifathro Buttington Trewern:

“Roeddem ni i gyd yn cytuno bod y prosiect hwn yn gyfle cyfoethogi ardderchog sy’n gweithio’n dda ofnadwy ochr yn ochr â’r cwricwlwm newydd gan ei fod yn bodloni cyfran helaeth o’r amcanion craidd a’r Meysydd Dysgu a Phrofiad.

“Roedd y cryfderau hyn yn amlwg drwy’r wythnos wrth i bawb ohonoch chi annog ac ysgogi dychymyg y disgyblion i gyd drwy’r celfyddydau mynegol gan gynnwys rhywfaint o ysgrifennu estynedig hyfryd. Roedd y gweithgaredd hwn yn briodol iawn ar gyfer yr amrywiaeth o alluoedd a thalentau. Roedd llais y disgyblion yn glir a’u cyfraniad hwy oedd yn arwain y prosiect.”

Llwyddodd un disgybl Dosbarth 3 yn Arddlin i fynegi ei farn yn llawer mwy cryno:

“Roedd mor mor mor mor mor mor mor mor wych….. roeddwn i wrth fy modd.”

Cychwynnodd y ddwy wythnos gyda strwythur sylfaenol, yn seiliedig ar stori o gartŵn am lwynog bach, yr ysbrydoliaeth wreiddiol i opera Janacek, The Cunning Little Vixen.

Dechreuodd y plant wedyn weithio mewn dau dîm i feddwl lle gallai’r llwynog fod wedi mynd nesaf – yn achos disgyblion Arddlin, aeth i fyd o dân a rhew a reolir gan ddraig o’r enw ‘She’ ac i’r gofod, yn hanes Buttington Trewern aeth i’r Arctig ac i Monte Carlo ar gyfer y Grand Prix.

Cawsom forfilod ungorn ac eirth gwynion, gloÿnnod byw’r gofod a dyfrgwn y gofod, llwynogod a bleiddiaid sy’n gyrru ceir F1 ac ieir sy’n bwyta lafa…. cawsom ein bwrw’n bedwar gan egni creadigol, di-bendraw o ddychmygol (os nad yn swrrealaidd braidd) plant ysgolion cynradd Powys ac roedd yn wych gweld cystal gwaith tîm!

Rhaid i ni ddiolch i athrawon amyneddgar iawn y ddwy ysgol – oedd â ffyrdd dyfeisgar iawn o roi cyrn morfilod ungorn yn sownd mewn helmedi plismyn a dioddef yr holl lud a defnydd a wasgarwyd yn hael o gwmpas yr ystafelloedd dosbarth. Diolch anferthol hefyd i’r holl ddisgyblion yn y ddwy ysgol a weithiodd mor galed – da iawn pawb! Rydych chi i gyd yn sêr!

Geirda a Lluniau o Ysgol Arddlin

“Hollol anhygoel, y teimlad gorau erioed. Roedd popeth yn ddifyr ac fe wnes i fwynhau gweithio gyda chi.” Dosbarth 3, Arddlin

“Fe wnes i fwynhau’r canu a’r dawnsio gan fy mod i’n mwynhau canu… roedd yn wych gan ein bod ni wedi cael defnyddio ein dychymyg.” Dosbarth 4, Arddlin

Geirda a Lluniau o Ysgol Buttington Trewern

“roedd pob un o’r caneuon y gwnaethom ni eu hysgrifennu yn swnio fel cân a allai fod ar y radio.” Blwyddyn 5, Buttington Trewern

“Roedd yn teimlo’n anhygoel cael ysgrifennu straeon a’u gweld yn y plot – ac roeddwn i’n teimlo mor falch o gael canu ‘cân yr heliwr’ ar ôl helpu i’w hysgrifennu.” Blwyddyn 3, Buttington Trewern

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.