Doedd llwyfannu opera mewn wythnos byth yn mynd i fod yn hawdd, a llwyfannu opera mewn wythnos gyda chast, corws a cherddorion pur amhrofiadol yn y maes opera – anos byth. Ond dydyn ni yn OCC ddim yn adnabyddus am wingo rhag sialens ac rydym ni wedi ein llorio yn llwyr gan lwyddiant prosiect cyntaf LlwyfannauAgored.

Cychwynnodd yr ymarferion ar gyfer ein cynhyrchiad o Dido ac Aeneas yn Eglwys Sant Andras, Llanandras ddydd Llun Gŵyl y Banc, Ebrill 22ain, ac fe’i perfformiwyd i ddwy gynulleidfa lawn ar y dydd Sadwrn canlynol, Ebrill 27ain. Erbyn hanner nos ar y nos Sadwrn, roedd yr eglwys yn ôl yn eglwys, yn barod ar gyfer yr oedfa, a dim ond ychydig dameidiau o ddalenni aur i’w gweld yn sgleinio hwnt ac yma.

Yr egwyddor y tu ôl i’r cynhyrchiad oedd rhan o genhadaeth OCC i rannu ein cariad at opera, cynyddu cynulleidfaoedd a chreu cysylltiadau yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt. Roedd ein Cyfarwyddwr Artistig, Richard Studer a’n Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness wedi bod yn cynllunio wythnos o brosiect opera cymunedol ers blynyddoedd ac roedd Pasg 2019 yn Llanandras yn teimlo fel yr amser a’r lle perffaith ar gyfer ein digwyddiad cyntaf.

Ein nod oedd gweithio gyda chantorion a cherddorion amatur o bob cwr o Gymru a’r Gororau, ynghyd â llond llaw o fyfyrwyr ifanc ac un neu ddau aelod proffesiynol a fyddai’n barod i roi eu hamser i chwarae’r rhannau allweddol.

Roedd y cynhyrchiad y tu hwnt i’n disgwyliadau ym mhob ffordd bosib. Roedd yn waith blinedig a bywiocaol ar yr un pryd ac roedd ymroddiad a phroffesiynoldeb pawb a gymerodd ran yn eithriadol. Yn bwysicach na dim, fel y gobeithiwyd, roedd yn ddifyr dros ben! Cafodd ein Cyfarwyddwr Gweithredol ymuno â’r corws hyd yn oed!

Mae hi wedi bod yn wythnos emosiynol… fel y dywedodd ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer:

“O’r cyfarfyddiad cyntaf â’r cwmni fore dydd Llun hyd at y perfformiadau terfynol, mae’r prosiect hwn wedi bod yn bleser pur.

“Daeth uchafbwyntiau’r wythnos ar adegau annisgwyl (rydw i wedi crio cryn dipyn!) ond yr atgof sy’n sefyll allan yw’r llif dienw o ymwelwyr a eisteddodd yn dawel yng nghefn yr eglwys gyda’u mamau, eu ffrindiau, eu hwyrion a’u hwyresau, eu partneriaid ayyb a roddodd rhywfaint o amser o’u diwrnod i wrando a gwylio wrth i ni greu’r perfformiad.”

Roedd Dido and Aeneas yn gynhyrchiad perffaith ar gyfer prosiect cyntaf LlwyfannauAgored, opera lawn mewn ychydig dros 50 munud gyda digon o gorysau a’r cyfle i lwyfannu’r gwaith mewn lleoliad syml, di-lol gydag ychydig iawn o wisgoedd a set.

Roedd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o rannau gwych i’n cantorion ieuengach eu perfformio. Ar ddechrau’r broses o gynllunio, dim ond Dido (Monique Simone), Belinda (Organ Prawang) ac Aeneas (Kiefer Jones) a oedd wedi eu castio – cantorion ifanc i gyd sydd wedi gweithio gydag OCC ar berfformiadau Gala ond nid mewn gwaith wedi ei lwyfannu – ac roeddem ni hefyd wedi recriwtio athrawes ffidil leol, Ceri Essex, fel arweinydd y gerddorfa. Cyrhaeddodd pawb arall drwy’r clyweliadau agored a phenderfynwyd ar y cast ar sail CVs a cheisiadau – yn ffodus iawn fe weithiodd hyn yn berffaith a chyrhaeddodd y bobl iawn i’r rhannau iawn. Cynhaliwyd yr ymarferion bob dydd yn yr eglwys ac yn neuadd yr eglwys, a phawb yn dod at ei gilydd i fwynhau pryd o fwyd bob gyda’r nos wedi ei baratoi gan yr anhygoel Pandora – gyda chymorth ei thîm gwych o wirfoddolwyr.

Rhoddodd perfformiad HausMusik nos Iau yn Llety’r Barnwr gyfle i’n hunawdwyr ifanc arddangos eu talent mewn lleoliad unigryw ac atmosfferig, gydag amrywiaeth o berfformiadau wedi eu lleoli dros yr adeilad o Queen of the Night odidog Gloria Chan i ganu gwerin Emyr Jones yn y seler. Daeth y noswaith i ben gyda Galarnad Dido yn ystafell y llys – cyfle euraid i berfformio diweddglo gwefreiddiol Aeneas yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Erbyn dydd Sadwrn roedd y sioe yn barod i’w pherfformio – gyda gwisgoedd syml ond effeithiol, dalenni aur wedi eu paentio ar wynebau i roi tamaid o ddrama a thwrbanau wedi eu clymu ar ochrau pennau gan dîm medrus y corws.

Roedd tocynnau’r ddwy sioe wedi eu gwerthu i gyd erbyn bore dydd Sadwrn er gwaethaf ein hymdrechion i ychwanegu mwy o seddi ac roedd ymateb y gynulleidfa yn unfryd ac yn gadarnhaol, y cast a’r band wrth eu boddau a’r bwcedi arian oedd yn cael eu hysgwyd y tu allan i’r eglwys i gefnogi ein gwaith addysg yn prysur lenwi! Mae’r awydd cyffredinol i “wneud hynna eto” yn cael ei ystyried o ddifri. Rhagor am hyn maes o law…

Ymateb y gynulleidfa

“Ardderchog, wedi ei gydlynu’n wych ac yn llawn dychymyg, bravo”

“Hyfryd, cyffrous ac effeithiol iawn, llwyfan hardd a syml”

“Rhoi gwefr i lawr asgwrn y cefn, gwaith anhygoel mewn wythnos, llwyfan syml ond syfrdanol, wrth fy modd”

Diolch

Mae llawer gormod o bobl y mae angen diolch iddynt:

  • Pobl dda Llanandras ac Eglwys Sant Andras am eu croeso a’u lletygarwch – gan gynnwys rhoi lle i rai o’r cantorion aros
  • Andrew ac Alison Giles a Gŵyl Llanandras am eu cefnogaeth, am roi benthyg y llwyfan i ni ac am eu gwaith blaen tŷ gwych ac yn rhedeg y bar
  • Pandora a’r tîm am yr arlwyo
  • Pawb a gymerodd ran yn y perfformiad ac a gefnogodd prosiect cyntaf erioed LlwyfannauAgored. Rydych chi i gyd yn anhygoel
  • … A thîm technegol a logistaidd OCC ei hun dan arweiniad Bridget Wallbank (ac yn cynnwys y rhai sy’n ddigon ffodus o fod yn perthyn i ni neu’n ffrindiau, a gafodd eu llusgo i wneud gwaith llwyfan/cyfrif arian/golchi ‘llestri/hwfro ayb… mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd)

Ymateb y rhai a gymerodd ran

Andrew – aelod o’r corws “Roedd yn fraint enfawr canu gyda’r holl dalent ifanc – mae gen i gymaint o barch nawr tuag at eu hymroddiad i’w celfyddyd. Roedd yn brofiad anhygoel ar y cyfan ac fe wnes i ei fwynhau yn fawr. Gobeithio bydd cyfleoedd tebyg yn codi yn y dyfodol. Pob llwyddiant i bawb ohonoch chi – roedd yn gynhyrchiad wedi ei lunio a’i gyflwyno’n dda iawn – dim ond ymateb cadarnhaol iawn a gefais gan y rhai yr oeddwn yn eu hadnabod yn y gynulleidfa.”

Ros – Viola “Wrth fy modd efo’r holl beth… Y cyfle i gymryd rhan, yr amgylchedd cyfeillgar, y sylw i fanylder – roeddwn i’n teimlo bod y cwmni’n edrych ar ein holau ni ar bob lefel. Bwyd hyfryd, y standiau cerddoriaeth yn barod bob amser. Roeddem ni’n cael ein hannog i chwarae’n well bob amser, ond nid y tu hwnt i’r hyn y gallem ni ei gyflawni’n rhesymol. Roedd digon o amser i ymarfer ac ailadrodd y gerddoriaeth er mwyn teimlo’n ddigon hyderus i berfformio ac nid oeddem ni’n teimlo ein bod yn cael ein beirniadu’n bersonol mewn unrhyw fodd.”

Corinna – aelod o’r corws “Fe gefais i wythnos wych ac rydw i’n ddiolchgar iawn i OCC am drefnu’r digwyddiad hwn. Cawsom ein trin mewn ffordd ddi-lol, gyfeillgar a chynhwysol a chawsom roi ein hegni i ganolbwyntio ar gynhyrchu perfformiad gwerth chweil.”

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.