Cyffrous yw cael cyhoeddi cast cynhyrchiad cyntaf erioed Opera Canolbarth Cymru o opera arbennig Humperdinck am stori dylwyth teg Hansel a Gretel.

Bydd rhai wynebau cyfarwydd o daith Puss in Boots yn ymuno â ni gan gynnwys Philip Smith (Tad) ac Alys Mererid Roberts (Gretel) a byddwn hefyd yn croesawu’r perfformwyr ifanc talentog Charlotte Badham (Hansel), Sian Roberts (Tylwyth Teg y Gwlith) a Beca Davies (Huwcyn Cwsg) i’w cynhyrchiad cyntaf gydag OCC.

Pleser hefyd yw cael croesawu Rebecca Afonwy-Jones i rannau’r Fam/y Wrach (sefyllfa sy’n gyfarwydd i nifer o rieni o bosib). Mae Rebecca wedi canu i gwmnïau clodfawr dros Brydain a thu hwnt ac rydym ni wrth ein boddau ei bod yn dychwelyd i’n sir ni ac i’r sir lle’i magwyd, sir Drefaldwyn i ganu mewn cynhyrchiad OCC am y tro cyntaf.

Mae Hansel a Gretel yn agor yn theatr Hafren, y Drenewydd ddydd Sadwrn y 4ydd o Fawrth 2023 ac yna’n teithio dros Gymru a’r Gororau. Cewch y dyddiadau a’r manylion yma ar ein gwefan, ynghyd â bywgraffiadau ein cantorion.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Help get Mid Wales Opera back on the road

Help get Mid Wales Opera back on the road

Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.

… or find out more

You have Successfully Subscribed!