Opera am frawd a chwaer, wedi’i hysgrifennu gan frawd a chwaer arall…

“Ni fyddai Hansel a Gretel Humperdinck wedi bodoli erioed oni bai am chwaer y cyfansoddwr, Adelheid Wette, oedd yn frwd dros lên gwerin yr Almaen”

Adelheid Wette

Dechreua hanes Hansel a Gretel ym 1812 pan gyhoeddodd dau frawd academaidd, Jacob a Wilhelm Grimm, gyfres o straeon o’r enw Kinder und Hausmärchen (Chwedlau Plant a Theuluoedd). Roedd y casgliad yn enfawr ac yn cynnwys yr hen chwedl Almaeneg am Hansel a Gretel. Ond fyddai’r opera rydyn ni’n ei hadnabod heddiw erioed wedi bodoli oni bai am yr awdur, y cyfansoddwr, y bardd ac un oedd yn frwd dros lên gwerin yr Almaen, Adelheid Wette.

Ganed Adelheid yn Siegburg, ger Bonn, yn 1858, a dechreuodd ei diddordeb mewn llenyddiaeth a llên gwerin yn gynnar iawn. Ym 1881 priododd Dr Hermann Wette, yntau’n ‘llên-gwerinwr’ brwd ac yn libretydd rhan amser. Wrth i’w teulu dyfu, dechreuodd Adelheid ysgrifennu dramâu byr ar gyfer perfformiadau preifat, gyda’i phlant yn aml yn chwarae’r rhannau. Ym 1888 ysgrifennodd fersiwn o’r stori dylwyth teg Schneewittchen (Eira Wen). Roedd angen rhywfaint o gerddoriaeth i adrodd yr hanes felly ysgrifennodd at ei brawd hŷn, Engelbert yn gofyn iddo greu gosodiadau cerddorol ar gyfer rhai o’i phenillion.

Englebert Humperdinck 1893

Astudiodd Engelbert Humperdinck gerddoriaeth yn Ysgol Gerddoriaeth Cologne ac, yn ddiweddarach, yn yr Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol ym Munich. Ym 1879 cyfarfu â Richard Wagner a estynnodd wahoddiad iddo i Bayreuth i’w gynorthwyo i baratoi ei opera olaf, Parsifal. Am ddwy flynedd ymdrwythodd Humperdinck yng ngherddoriaeth Wagner a Parsifal yn arbennig, honnir iddo ysgrifennu ychydig o linellau bar yr opera hyd yn oed!

Erbyn diwedd y 1880au roedd Humperdinck yn byw yn Cologne yn ceisio ennill bri fel cyfansoddwr. Ar ôl derbyn cais ei chwaer, gosododd wyth cân ar gyfer côr plant a phiano. Bu mwy o gydweithio wedi hynny. Ac yna, ar ddechrau 1890, dechreuodd Adelheid weithio ar ddrafft o Hansel a Gretel. Byddai ei gŵr Hermann yn dathlu ei ben-blwydd yn 34 ar 16 Mai ac roedd Adelheid wedi cynllunio sypreis, sef perfformiad teuluol preifat o’i drama. Gyda dim ond mis i fynd, ysgrifennodd at ei brawd gyda cheisiadau penodol iawn: roedd angen Tanzlied (cân ddawns), Waldlied (can goedwig), Schlummerlied (hwiangerdd) a Kickerickilied (cân coc-a-dŵdl-dŵ)! Anfonodd yr holl benillion, rhythmau ar gyfer y gân ddawns ac alaw i’r hwiangerdd hyd yn oed.

Gweithiodd Humperdinck yn gyflym, gan fod yn ystyriol o syniadau cerddorol Adelheid a chwblhau’r pedair cân o fewn ychydig ddyddiau. Gosodwyd y caneuon ar gyfer dau lais ifanc a phiano a chawsant eu canu gan ddwy ferch hynaf y Wettes yn y perfformiad a gynhaliwyd, yn ôl y bwriad, i ddathlu pen-blwydd Hermann. Roedd y perfformiad mor llwyddiannus nes y gwnaed cynlluniau i ehangu’r gwaith yn singspiel, ffurf Almaenaidd o theatr gerdd, a’r enwocaf ohonynt oedd The Magic Flute a gyfansoddwyd bron union ganrif yn gynharach. Aeth gŵr Adelheid i’r afael â’r dasg hefyd, gan helpu gyda’r testun, ac erbyn y Nadolig 1890 roedd y fersiwn newydd, ynghyd â nifer o ganeuon a deialogau, yn cael ei pherfformio’n breifat yn nhŷ’r Wettes. Roedd yn gampwaith, a pherswadiwyd Humperdinck ar unwaith y gellid ehangu’r gwaith yn opera gyflawn.

Humperdinck yn dawnsio gyda’r wrach a’r plant

Bellach yn byw yn Frankfurt, treuliodd Humperdinck gyfran helaeth o dair blynedd yn gweithio ar yr opera. Adelheid ddarparodd y testun. Ychwanegodd at y stori gyda’i gwybodaeth am chwedlau tylwyth teg, gan blethu’n gelfydd nifer o eiriau a dywediadau adnabyddus o ganu gwerin i’r gwaith. Ychwanegodd Huwcyn a Thylwyth Teg y Gwlith, ac roedd ei empathi tuag at y plant yn hollbwysig. Felly hefyd ei chydymdeimlad â’r fam a’r tad. Cymhellir y gynulleidfa i deimlo dros y ddau riant yn hytrach na chael eu gosod yn erbyn y fam, ac ar y diwedd y rhieni pryderus sy’n dod o hyd i’w plant annwyl. Roedd ei greddf o ran y llwyfan a’i manylder yn allweddol, ac Adelheid a ddarparodd fframwaith cyffredinol yr opera i’w brawd.

Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf ar 23 Rhagfyr 1893, yn Weimar. Arweiniwyd y cyfan gan y cyfansoddwr Richard Strauss, heb yr agorawd gan na chyrhaeddodd y rhannau mewn pryd! Roedd yn llwyddiant ar unwaith. Swynwyd cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, a lledaenodd y gwaith fel tân gwyllt ar draws Ewrop, gan gyrraedd Llundain ym 1895. Hon oedd yr opera Almaeneg arwyddocaol gyntaf ers marwolaeth Wagner ac roedd yn berffaith o groes i’r gweithiau oedd yn prysur ymddangos gan yr ysgol realaeth Eidalaidd dan arweiniad Mascagni, Leoncavallo a’r Puccini ifanc.

 

Sgôr Lleisiol yn Saesneg, Argraffwyd 1895

Mae opera Humperdinck yn gyfuniad unigryw o symlrwydd a chymhlethdod. Mewn gwirionedd, mae’n dipyn o wyrth, ac ni ddylai fod wedi gweithio o gwbl, oherwydd mae’n gosod stori syml i blant dros sgôr gyfoethog sy’n gydnaws â diwedd y mudiad rhamantaidd. Nid yw ‘Wagner a’r stori dylwyth teg’ yn swnio fel uniad delfrydol. Ac eto rywsut llwyddodd y cyfansoddwr i ddileu unrhyw anghydnawsedd a allai fod wedi bodoli rhwng ei offeryniaeth foethus a’i alawon diniwed. Digwyddodd y gamp hon un waith, ac ni chafodd ei hailadrodd; Ceisiodd Humperdinck gynhyrchu llawer mwy o weithiau llwyfan hyd at ei farwolaeth ym 1921, ond ni ddaeth yr un ohonynt yn agos at ei lwyddiant cynharach.

Tŷ’r Wrach

Rydw i wedi ymdrwytho yn y sgôr dros y deuddeg mis diwethaf, gan gynhyrchu offeryniaeth ostyngedig ar gyfer cynhyrchiad newydd OCC. Yn y gwreiddiol, mae’r rhan fwyaf o’r offerynnau yn chwarae am y rhan fwyaf o’r amser – ychydig o gyfle sydd i’r offerynwyr orffwys ac mae sawl diwrnod wedi eu treulio yn gweithio ar ychydig o farrau yn unig. Mae’r sgôr yn eithriadol o wrthbwyntiol – hynny yw, ar gyfer llawer o’r opera mae’r harmonïau’n cael eu creu drwy gydblethu llinellau offerynnol, pob un ag alawon yn cloi i’w gilydd i greu eu harmoni eu hunain. Tynnwch offeryn o’r darlun, ac mae’r holl beth yn chwalu, fel fersiwn hunllefus o gêm i blant lle rydych chi’n ceisio symud un ffon neu floc heb i’r gweddill ddymchwel.

Ac eto, drwyddi draw, mae ynddi blethora o gerddoriaeth fachog a deniadol. Caneuon y plant, yn soniarus a chofiadwy; agoriad domestig rhwydd Act 1; lleoliad coedwigol atmosfferig Act 2 gyda chân y gog a’r myrdd o ganu adar; lleoliad cerddorol hudol Huwcyn; yr emyn gwych ac enwog ar ddiwedd Act 2; dawns y wrach yn Act 3 a’r Knusperwalzer (waltz crensiog) y mae Hansel a Gretel yn ei dawnsio pan fydd y wrach yn marw o’r diwedd. I’r rhai sydd â gwythïen fwy rhamantus, mae’r opera’n cynnwys anterliwtiau cerddorfaol toreithiog llawn egni i wahanu’r golygfeydd. Mae’r rhain yn cynnwys yr Hexenritt (reid gwrach) a’r Traumpantomime (pantomeim breuddwydiol), y ddwy’n cael eu perfformio’n rheolaidd yn y neuadd gyngerdd.

Knusperwalzer score

Mae Hansel a Gretel hefyd yn cynnwys agorawd wych, neu Vorspiel (Preliwd), yn cynnwys themâu a glywir yn ddiweddarach yn yr opera, oedd yn arfer cyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n agor gydag ’emyn’ Act 2, alaw sydd i’w chlywed eto yn ystod yr opera ac sy’n cyrraedd ei hanterth ar ddiwedd y ‘pantomeim breuddwydiol’. Ceir cyferbyniadau, digon o alaw yn llifo a llawer o egni. Crynhodd Humperdinck yr opera fel ‘Bywyd Plant’, disgrifiad da iawn. Ond yr hyn sy’n sicrhau llwyddiant yr agorawd mewn gwirionedd yw’r nodwedd sydd i’w chael trwy gydol y gwaith, gan roi iddi ei hapêl dragwyddol. Mae’n bwydo’r enaid, fel tân agored yn eich lolfa ar ddiwrnod oer a gaeafol. Gallai daflu gwreichion ond mae’r effaith gyffredinol yn gysurus. A gallaf gadarnhau, yn wahanol i’r perfformiad cyntaf o’r gwaith, y bydd yr agorawd yn cael ei chynnwys ym mherfformiad cyntaf erioed Opera Canolbarth Cymru o’r opera odidog hon.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Help get Mid Wales Opera back on the road

Help get Mid Wales Opera back on the road

Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.

… or find out more

You have Successfully Subscribed!