The Bear yng Nghanolfan Gymunedol Abermiwl

4ydd o Dachwedd 2017

£10/£8 ~ Archebwch Nawr: 01686 614555

Prynu tocynnau ar-lein

Dewch i gael profiad hollol newydd o opera gyda Llwyfannau Bach OCC wrth i ni gyflwyno fersiwn newydd sbon o gomedi glasurol un act William Walton gyda thri chanwr a phum cerddor.

Ein trydedd sioe yn ein milltir sgwâr ein hunain yn Sir Drefaldwyn ac mewn partneriaeth â Theatr Hafren, y Drenewydd yng Nghanolfan Gymunedol Abermiwl yng nghanol y pentref, ger yr ysgol.

Cyfansoddwyd yr opera yn 1967 yn seiliedig ar ddrama Anton Chekhov o’r un enw, mae The Bear yn cyflwyno hanes y weddw, Madam Popova, sy’n galaru’n ddiddiwedd am ei gŵr nes i’r asiant tir bras ei wedd ond carismatig , Smirnov (“arth” y teitl) gyrraedd yn hawlio taliadau am ddyled. Mae’r emosiynau’n gryf ac mae’r ymgecru’n arwain at ornest, lle mae’n ymddangos bod y ddau wedi syrthio mewn cariad yn annisgwyl.

Ar ôl yr egwyl, ymunwch â ni ar gyfer Tameidiau Tatyana, golwg ysgafn ar olygfa’r parti pen-blwydd o Eugene Onegin Tchaikovsky, a blas ar brif daith lwyfan OCC ar gyfer gwanwyn 2018. Mae’r perfformiadau hyn yn rhan o ddigwyddiadau coffa R17 Cymru ar gyfer canmlwyddiant Chwyldro Rwsia ac fe’u perfformir drwy drefniant gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen.

Smirnov: Adam Green
Popova: Carolyn Dobbin
Luka: Matthew Buswell

Hyd perfformiad: 1 awr 50
Cerddoriaeth gan: William Walton
Cenir mewn: Saesneg
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth: Jonathan Lyness

Cyflwyniad ardderchog i gynulleidfaoedd newydd i opera a chyfle gwych i bawb sy’n caru cerddoriaeth gael clywed comedi glasurol Walton ym mlwyddyn ei hanner-canmlwyddiant. Mae’r daith beilot hon ar gyfer Llwyfannau Bach wedi ei chynllunio i fod ag apêl mor eang â phosibl ac i gefnogi cenhadaeth OCC o gadw opera’n fyw ac yn lleol ledled Cymru wledig.

Gweld holl leoliadau Llwyfannau Bach 2017 ar gyfer The Bear

Blog

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.