Taith LlwyfannauLlai Hydref 2019

Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage

Prancia tîm LlwyfannauLlai OCC yn ôl ar y llwyfan gydag ailwampiad radical o waith John Gay o 1728, The Beggar’s Opera. Ymunwch â Mrs Peachum, Polly ei merch a’r Cardotyn yn eu dehongliad beiddgar o berthnasau a rhinweddau cymharol gwyryfdod.

⭐️⭐️⭐️⭐️

Richard Bratby, The Arts Desk

“if there’s one thing that this company does supremely well, it’s putting on an entertaining show….If you’re in the business of taking opera to Abermule and Llandinam, you either give your public a great night out or you fold.”

theartsdesk.com – darllenwch y adolygiad llawn

Nigel Jarrett, Wales Arts Review

“To say that the Studer/Lyness conception is flawless is only a tad over-stated… It’s a triumph of its kind.”

walesartsreview.org – darllenwch y adolygiad llawn

 

Mrs Peacham's Guide to Love & Marriage

“The Wench is married! Do you think your father and I should have liv’d comfortably so long together, if ever we had been married? Can you support the expense of a husband, in gaming, drinking and whoring? Have you money enough to carry on the daily quarrels of man and wife about who shall squander most? If you must be married, could you introduce no body into our family but a highwayman?”

Yn dilyn taith hynod lwyddiannus gyda A Spanish Hour y llynedd, prancia tîm LlwyfannauLlai OCC yn ôl ar y llwyfan gydag ailwampiad radical o waith John Gay o 1728, The Beggar’s Opera. Ymunwch â Mrs Peachum, Polly ei merch a’r Cardotyn yn eu dehongliad beiddgar o berthnasau a rhinweddau cymharol gwyryfdod.

Yn ei dychryn ynglŷn â phriodas anghyfreithlon Polly gyda lleidr pen ffordd cyfeiliornus, ceisia Mrs P drefnu bod y dihiryn yn cael ei grogi a bod Polly’n hawlio’r wobr. Caiff ffyddlondeb a chariad eu rhoi ar brawf wrth i fwrdwr, llid a chynddaredd ddod â’r gomedi drasig a chyffrous hon i’w chasgliad. A fydd pethau’n cael eu gadael mor drist ac a fydd Polly’n aros yn ffyddlon i’w chariad ac yn cefnu ar ei mam â’i jin?

Mae’n bleser gan OCC berfformio’r opera un act hon, wedi’i haddasu gan Richard Studer, mewn fersiwn gerddorol newydd gan Jonathan Lyness, am y tro cyntaf. Daw cyfeiliant gan Ensemble LlwyfannauLlai o bedwar cerddor a gyda chast o dri chanwr; y mezzo soprano wych o Ogledd Iwerddon, Carolyn Dobbin fel Mrs Peachum (Madame Popova, The Bear, LlwyfannauLlai 2017) a’r soprano Gymreig Alys Mererid Roberts fel ei merch ddi-glem.

Fel yn opera faled wreiddiol John Gay, mae’r sgôr yn orlawn o alawon newydd a chyfarwydd, o Lillibolero i Greensleeves. Mae adnewyddiad OCC o’r gomedi yn cynnwys llawn cymaint o droeon annisgwyl yn y gerddoriaeth ag a welir yn y plot. Mae’r tri chymeriad yn byw yn y gwter, ond yn gerddorol maent yn cyrraedd y sêr…

Ar ôl yr egwyl, ymunwch â’r tîm ar gyfer cadwyn o alawon am gariad a phriodas o bob math – tamaid i godi’r llen ar ein taith PrifLwyfan o The Marriage of Figaro Mozart yng ngwanwyn 2020.

Daw LlwyfannauLlai OCC ag opera fyw i galon cymunedau Cymru a’r Gororau, drwy deithio i theatrau, neuaddau pentref a lleoliadau cymunedol.

Cast

Mrs Peachum – Carolyn Dobbin
Polly Peachum – Alys Mererid Roberts
Filch/Cardotyn – Johnny Herford

Cerddorion

Feiolin – Nia Bevan
Basŵn – Alexandra Callanan
Offerynnau taro – Max Ireland
Piano – Jonathan Lyness

 

Cerddoriaeth: Jonathan Lyness,
yn seiliedig alawon gwreiddiol John Gay o The Beggar’s Opera
Libreto: Richard Studer after John Gay

Cyfarwyddwr Cerdd: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer

 

Cefnogir gan

Nidec Control Techniques
Gronfa Loteri CCC
Hafren, Y Drenewydd
Elusen Gwendoline a Margaret Davies

Creative Team

Jonathan Lyness

Cyfarwyddwr Cerdd

Richard Studer

Cyfarwyddwr/Cynllunydd

Cast

Carolyn Dobbin

Mrs Peachum

Blog

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.