Il tabarro – Puccini

Taith LlwyfannauLlai - Hydref 2021

“Mid Wales Opera continues to do sterling work in creating nights at the opera both for those who love it but can’t get to it and those who can get to it and can’t get enough of it. A brand of high professionalism is not to be reduced. Jonathan Lyness’s reductions of operatic scores are miracles of jewelled compression”

Nigel Jarrett, Wales Arts Review
(Il tabarro was Wales Arts Review’s Best Classical Music production 2022)

 

Perfformiadau yn y gorffennol

Cyflwyna Opera Canolbarth Cymru orchestwaith hwyr Puccini, Il tabarro neu ‘Y Clogyn’. Stori fer yw’r opera un act hon, wedi’i gosodd ar lannau’r Seine, am berchennog cwch camlas o’r enw Michele, sy’n amau bod ei wraig, Giorgetta, yn bod yn anffyddlon. Mae’r opera’n llawn is-blotiau ac is-gymeriadau, a chyfeiriadau at olygfeydd a synau Paris yn y 1900au. Daw’r opera i ddiweddglo dramatig pan ddalia Michele gariad ei wraig yn annisgwyl ar daniad matsien. Gyda melodïau cyfareddol a thyndra cyffrous, mae Il tabarro yn dangos gwaith y cyfansoddwr gwych pan oedd ei allu ar ei anterth.

Mae cynhyrchiad newydd OCC yn cynnwys 6 canwr a 4 offerynnwr, gyda chyfieithiad newydd i’r Saesneg gan Richard Studer a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Yn yr ail hanner, ar ôl yr opera, byddwn yn parhau â thema Paris gyda chymysgedd o eitemau cerddorol difyr gan ein holl perfformwyr dawnus.

Cerddoriaeth: Giacomo Puccini
Trefniant: Jonathan Lyness

Libreto: Giuseppe Adami
Cyfieithiad newydd yn Saesneg: Richard Studer

Il tabarro 55 munud
EGWYL
Cyngerdd Parisaidd 40 munud

Cast

Giorgetta: Elin Pritchard
Michele: Philip Smith
Luigi: Robyn Lyn Evans
La Frugola: Stephanie Windsor-Lewis
Tinca: Huw Ynyr
Talpa: Emyr Wyn Jones

Cerddorion

Feiolin: Laurence Kempton
Basŵn: Alexandra Callanan
Telyn: Elfair Grug
Piano: Jonathan Lyness

Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cyfarwyddwr Cerdd:
Jonathan Lyness

Cefnogir taith Il tabarro gan – Sefydliad Garfield Weston & Sefydliad Teulu Ashley

 

Blog LlwyfannauLlai OCC

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.